Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Cynnwys:

 

Cyflwyniad

 

Tudalen 2

Eiriolaeth

 

Tudalen 2

Diben

 

Tudalen 2

Cyffredinol

 

Tudalen 3

Llunio polisi ynghylch codi ffioedd

 

Tudalen 5

Materion cyffredin o ran codi ffi

 

Tudalen 6

Ffioedd unffurf

 

Tudalen 11

Uchafswm Ffi Wythnosol

 

Tudalen 12

Amddifadu o asedau a dyledion

 

Tudalen 13

Codi ffi am ofal a chymorth mewn cartref gofal

 

Tudalen 13

Dewis o lety

 

Tudalen 14

Codi ffi am ofal a chymorth yn y gymuned gan gynnwys cartref y person ei hun

 

Tudalen 14

Codi ffi am gymorth i ofalwyr sy'n oedolion

 

Tudalen 15

Atodiad A - Trin Cyfalaf

 

Tudalen 17

Atodiad B - Trin Incwm

 

Tudalen 32

Atodiad C  - Dewis o Lety a Chostau Ychwanegol 

 

Tudalen 44

Atodiad D - Cytundebau Taliadau Gohiriedig

 

Tudalen 52

Atodiad E - Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi

 

Tudalen 63

Atodiad F - Adennill Dyled ac Amddifadu o Asedau

 

Tudalen 71

Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

 

Cyflwyniad

1.1   Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf").

 

1.2 Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/enacted

 

1.3   Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y cod hwn.  Nid yw adran 147 (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn gymwys i unrhyw ofynion a geir yn y cod hwn.

 

1.4   Yn y cod hwn mynegir gofyniad fel “rhaid” neu “rhaid peidio”. Mynegir arweiniad, pan fydd gan awdurdodau lleol ddisgresiwn, fel “caiff” neu “dylai/ni ddylai”.

 

1.5.   Dylid darllen y cod hwn ar y cyd â phob cod ymarfer perthnasol a gyhoeddir o dan y Ddeddf. Yn benodol, y rhai sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth o dan Ran 3 (Asesu anghenion unigolion) a Rhan 4 (Diwallu anghenion). Rhaid ei ddarllen hefyd ar y cyd â'r rheoliadau perthnasol a wneir o dan Ran 4 (Diwallu anghenion) a Rhan 5 (Codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o'r Ddeddf y cyfeirir atynt ynddo.

Eiriolaeth

1.6   Mae'r cod ymarfer penodol ar eiriolaeth o dan Ran 10 o'r Ddeddf yn nodi'r swyddogaethau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â'r unigolyn, lunio barn ynglŷn â sut y gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o ddyfarnu a sicrhau canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol.  Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod barn ynglŷn â'r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o'r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

1.7   Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cydradd yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol.  Mae'n agored i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o'i ddewis i'w helpu i gyfranogi'n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a'i deimladau.  Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau rhywun, ei deulu neu rwydwaith cymorth ehangach.

Diben

2.1   Mae'r cod hwn, a'r rheoliadau y mae'n cyfeirio atynt, yn nodi'r gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â'r canlynol:

 

• pennu cyfraniad neu ad-daliad mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol o dan adrannau 50-53 o'r Ddeddf (Taliadau uniongyrchol);

• y dewis o lety i'r rhai mewn cartref gofal, gan gynnwys talu costau ychwanegol o dan amgylchiadau penodol, o dan adran 57 o'r Ddeddf (Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol);

• codi ffioedd ac asesiadau ariannol o dan adran 59 o'r Ddeddf (Pŵer i osod ffioedd) ar y rhai sy'n cael gofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwyr;

 • gohirio taliadau i'r rhai mewn cartref gofal o dan adran 68 o'r Ddeddf (Cytundebau ar daliadau gohiriedig);

• codi ffi o dan adran 69 o'r Ddeddf (Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy) am ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol a chynhorthwy;

• adennill dyledion o dan adran 70 o'r Ddeddf (Adennill costau, llog etc) a throsglwyddo asedau i osgoi ffioedd o dan adran 72 o'r Ddeddf (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd);

• adolygiadau sy'n ymwneud â dyfarniadau ynghylch codi ffi neu ffioedd o dan adran 73 o'r Ddeddf (Adolygiadau sy'n ymwneud â chodi ffioedd).

 

2.2 Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r canlynol:

 

llunio polisi ynghylch codi ffioedd;

• materion cyffredin mewn perthynas â chodi ffioedd;

• codi ffi am ofal a chymorth mewn cartref gofal;

• dewis o lety wrth drefnu gofal mewn cartref gofal;

• gwneud taliadau am gostau ychwanegol ar gyfer y llety sy'n cael ei ffafrio;

• codi ffi am ofal a chymorth yn y gymuned;

• codi ffi am gymorth i ofalwyr.            

2.3 Rhaid i'r cod hwn gael ei ddarllen ar y cyd ag atodiadau A i F sy'n rhoi rhagor o wybodaeth ac sy'n nodi'r gofynion manwl mewn achosion penodol.

Cyffredinol

3.1 Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer un fframwaith cyfreithiol o ran codi ffi am ofal a chymorth, neu yn achos gofalwr, codi ffi am gymorth. Mae'n rhoi disgresiwn i awdurdod lleol godi ffi yn y naill achos neu'r llall. Mae hefyd yn rhoi disgresiwn i awdurdodau ei gwneud yn ofynnol i wneud cyfraniad, neu ad-daliad, tuag at gost sicrhau gofal a chymorth (neu gymorth i ofalwr) pan fydd person yn cael taliadau uniongyrchol i'w alluogi i gael hyn. Gall awdurdodau lleol arfer y disgresiwn hwn i godi ffi, neu ei gwneud yn ofynnol i wneud cyfraniad neu ad-daliad, pan fyddant yn teimlo ei bod yn briodol gwneud hynny a phan fyddant wedi cadarnhau bod gan y person y mae'n ofynnol iddo dalu unrhyw ffi, cyfraniad neu ad-daliad, foddion byw digonol i wneud hynny. 

 

3.2 Dylai cyfeiriadau yn y cod hwn a'i atodiadau at "gofal a chymorth" gael eu dehongli i gynnwys cyfeiriad at "cymorth i ofalwyr". Dylai cyfeiriadau at "codi ffi" gael eu dehongli i gynnwys cyfeiriad at y gofyniad i dalu "cyfraniadau" neu "ad-daliadau" mewn perthynas â darparu taliadau uniongyrchol.   

 

3.3 Pan fydd awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion person, neu gymorth i ddiwallu anghenion gofalwr, o dan adrannau 35 i 45 o'r Ddeddf (Diwallu anghenion) mae ganddo ddisgresiwn i godi ffi am hyn, oni fydd yn ofynnol peidio â chodi ffi ar berson penodol neu beidio â chodi ffi am fath penodol o ofal a chymorth o dan reoliadau. Hefyd, pan fydd awdurdod lleol yn darparu taliadau uniongyrchol i alluogi person i gael gofal a chymorth, neu alluogi gofalwr i gael cymorth, o dan adrannau 50 i 53 o'r Ddeddf (Taliadau uniongyrchol) mae ganddo ddisgresiwn i'w gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â'r cyfryw daliadau uniongyrchol.  

 

3.4 Bwriedir i'r fframwaith codi ffioedd ac asesiadau ariannol a gyflwynir gan y Ddeddf, y rheoliadau a'r cod hwn sicrhau bod ffioedd, pan gânt eu codi, yn gyson, yn deg ac yn cael eu deall yn glir. Yr egwyddor gyffredinol yw mai dim ond yr hyn y gallant ei fforddio y mae'n rhaid gofyn i bobl y gofynnir iddynt dalu ffi ei dalu. Bydd gan bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt yr hawl i gael cymorth ariannol gan eu hawdurdod lleol o dan amgylchiadau penodol yn seiliedig ar eu moddion byw a bydd gan rai yr hawl i gael gofal a chymorth am ddim. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried, wrth benderfynu a ddylid codi ffi ac wrth bennu lefel unrhyw ffi, cyfraniad neu ad-daliad y maent yn ei gwneud yn ofynnol i'w thalu neu i'w wneud, yr egwyddorion y mae'r fframwaith hwn yn seiliedig arnynt. Rhaid i awdurdodau lleol:

 

• sicrhau na chodir ffi ar bobl sy'n fwy nag sy'n rhesymol ymarferol iddynt ei thalu a rhaid peidio â chodi ffi sy'n fwy na'r gost i'r awdurdod mewn perthynas â darparu neu drefnu'r gofal a chymorth y maent yn ei gael neu y maent yn ei drefnu eu hunain drwy daliadau uniongyrchol;

 

• bod yn gyson, er mwyn dileu amrywiadau yn y ffordd y caiff pobl eu hasesu'n ariannol ac y codir ffioedd arnynt;

 

• bod yn glir ac yn dryloyw, er mwyn i bobl wybod y swm y bydd yn cael ei  godi arnynt;

 

• hyrwyddo canlyniadau llesiant, cynhwysiant cymdeithasol a chefnogi'r weledigaeth o annibyniaeth, llais a rheolaeth;

 

• helpu gofalwyr i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a gofalu mewn ffordd effeithiol a diogel;

• canolbwyntio ar y person, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o sefyllfaoedd gofal a gofalu a'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i helpu i ddiwallu anghenion a chanlyniadau llesiant pobl;

• cymhwyso ffioedd yn gydradd fel y bydd y rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth tebyg yn cael eu trin yn yr un modd a lleihau anghysondebau rhwng codi am fathau gwahanol o ofal a chymorth i'r eithaf;

 

• annog a galluogi'r rhai sy'n dymuno aros mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant neu ymgymryd â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, neu gynllunio ar gyfer costau diwallu eu hanghenion yn y dyfodol, i wneud hynny;

 

• bod yn gynaliadwy i awdurdodau lleol yn yr hirdymor. 

 

3.5 Ochr yn ochr â hyn, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth a chyngor am y ffioedd a godir ganddynt a'u polisïau codi ffi ar gael mewn fformatau priodol, sy'n ystyried anghenion cyfathrebu pobl (yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu synhwyrau, anabledd dysgu neu nad Saesneg yw eu mamiaith). Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion yn gallu deall pam y codir ffi arnynt a sut y cafodd ffioedd o'r fath eu cyfrifo. Dylai awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod y person yn ymwybodol o'r wybodaeth a'r cyngor ariannol annibynnol sydd ar gael.

 

3.6 Pan fydd pobl yn cael gofal a chymorth sy'n ychwanegol at yr hyn sy'n cael ei ddarparu neu ei drefnu gan awdurdod lleol sy'n arfer ei ddyletswyddau neu ei bwerau o dan y Ddeddf, yna ni fydd gofynion y Ddeddf ynghylch asesiadau ariannol a chodi ffioedd, y cod hwn na'r Rheoliadau y mae'n cyfeirio atynt yn gymwys. O dan amgylchiadau o'r fath, mater i'r person dan sylw yw penderfynu pa ofal a chymorth arall, os o gwbl, y mae am ei gael a pha drefniadau sydd ar waith i dalu am hyn. Nid oes dim yn y Ddeddf, y cod hwn na'r Rheoliadau hynny sy'n atal person rhag gwneud trefniadau preifat o'r fath pe bai'n dewis gwneud hynny.    

 

Llunio polisi ynghylch codi ffioedd

4.1 Oni bai am ofynion y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod hwn, pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu arfer ei ddisgresiwn i godi ffi am ofal a chymorth y mae'n ei ddarparu neu ei drefnu, mater i'r awdurdod hwnnw yw llunio ei bolisi a'i gynnwys ynghylch codi ffioedd o'r fath. Yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod hwn, mae angen i awdurdodau benderfynu pa ofal a chymorth, os o gwbl, y byddant yn codi ffi amdano, natur a lefel unrhyw ffioedd a godir a sut y caiff y ffioedd eu cymhwyso at unigolion penodol sy'n derbyn gofal a chymorth. O fewn y fframwaith hwn bydd angen hefyd i awdurdodau benderfynu sut y byddai eu prosesau ar gyfer ymgymryd â'r gwahanol gamau o'u gweithdrefn codi ffi yn gweithredu a sicrhau bod y rhain yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod hwn. Yn benodol, bydd angen i awdurdodau benderfynu pa lwfansau, symiau i'w diystyru neu agweddau eraill y maent am eu hymgorffori o fewn yr asesiadau ariannol y maent yn ymgymryd â hwy y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth. Dylid pwysleisio nad yw'r Ddeddf, y Rheoliadau na'r cod hwn yn tybio y bydd awdurdodau lleol yn codi ffi am ofal a chymorth ond maent yn eu galluogi i arfer eu disgresiwn i godi ffi, ac mae'n gosod gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn, os ydynt am arfer y disgresiwn hwn.

 

4.2 Nod polisïau gofal a chymorth Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol unigolion. Efallai y bydd awdurdodau am fabwysiadu dull gweithredu tebyg wrth lunio unrhyw bolisi ynghylch codi ffi, gan ystyried egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau. Pan fydd awdurdodau yn penderfynu codi ffi, dylai polisïau codi ffi gael eu hystyried yn y cyd-destun hwn ac yn yr un modd dylent geisio hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol y rhai sy'n derbyn gofal a chymorth. Felly, rhaid i bolisïau codi ffi fod yn deg ac yn rhesymol, gan ystyried costau darparu neu drefnu gofal a chymorth i awdurdodau, effaith hyn ar ddarparu gofal a chymorth yn gyffredinol, moddion byw'r rhai sy'n ei dderbyn a'r effaith ariannol ac effeithiau eraill ar y rhai y mae'n rhaid iddynt dalu ffioedd. Felly rhaid i bolisïau sicrhau cydbwysedd priodol rhwng sicrhau bod unrhyw gyfraniadau y gofynnir i unigolion a fydd yn derbyn gofal a chymorth eu gwneud tuag at gost ei ddarpariaeth yn rhesymol, tra'n sicrhau digon o arian i helpu i ddarparu gofal a chymorth o'r fath. Pan fydd awdurdodau yn llunio polisïau newydd, neu'n diwygio polisïau sy'n bodoli eisoes yn sylweddol, rhaid iddynt ymgynghori â'r rhai yr effeithir arnynt yn lleol ac ystyried eu barn cyn penderfynu ar ba bolisi, neu ba ddiwygiadau i'w polisi, y dylent ei roi neu eu rhoi ar waith.

4.3 Pan fydd awdurdodau lleol yn llunio polisïau codi ffi, dylent ystyried a ddylid gwneud hyn ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill. Byddai hyn yn berthnasol iawn i awdurdodau o fewn yr un ardal Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gellir sicrhau arfer cyson drwy'r rhanbarth cyfan.   

Materion cyffredin o ran codi ffi

5.1 Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu gofal a chymorth i'r rhai sydd ag anghenion cymwys, ac mae ganddynt bŵer i ddiwallu anghenion y rhai nad ydynt yn gymwys os yw'n dymuno gwneud hynny. Ym mhob achos, mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn o dan y Ddeddf i ddewis codi ffioedd am hyn ai peidio o dan adrannau 50-53 (taliadau uniongyrchol) mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol, o dan adran 59 (Pŵer i osod ffioedd) mewn perthynas â'r gofal a chymorth y mae'n ei ddarparu, neu ei drefnu, neu o dan adran 69 (Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy) mewn perthynas â gwasanaethau ataliol neu gynhorthwy. Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu codi ffi, rhaid iddo ddilyn y gofynion a nodir yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Codi Ffioedd) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau Gosod Ffioedd") a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau Asesiad Ariannol") a'r cod hwn. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi manylion rhwymedigaethau awdurdod lleol pan fydd yn cynnal asesiadau ariannol a'r gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth ddyfarnu ffioedd yn seiliedig ar asesiadau o'r fath.

5.2 Mae manylion y ffordd y mae trefniadau codi ffioedd yn gweithredu yn dibynnu ar b'un a oes rhywun yn derbyn gofal mewn cartref gofal, neu yn ei gartref ei hun neu yn y gymuned. Fodd bynnag, mae iddynt elfennau cyffredin, a nodir yn yr adrannau canlynol.

·         Asesiadau o anghenion / asesiadau ariannol unigol

5.3 Mae'r cod hwn a'i atodiadau ategol yn tybio bod yr asesiad priodol o anghenion wedi cael ei gynnal a bod yr awdurdod lleol wedi dewis codi ffi mewn achos penodol. Felly, mae'n rhoi manylion ynghylch sut y dylid cynnal yr asesiad ariannol o'r person hwnnw, lle y bo hyn yn ofynnol, a'r hyn y dylid ei ystyried wrth bennu'r ffi honno. Wrth godi ffi, dim ond moddion byw'r person a asesir y gellir eu hystyried yn yr asesiad ariannol o'r hyn y gall fforddio ei dalu. Pan fydd y person hwn yn dal incwm neu gyfalaf fel un o gwpl, y dybiaeth i ddechrau yw bod gan bob person gyfran gyfartal o bob un. Fodd bynnag, gall awdurdod lleol asesu incwm neu gyfalaf cwpl ond dim ond pan fydd hyn yn fwy manteisiol yn ariannol i'r person a asesir. Rhaid i awdurdod lleol ond asesu moddion byw cyplau o dan yr amgylchiadau hyn.

5.4 Am ragor o gyngor ar asesu anghenion gweler y cod ar rannau 3 a 4 o'r Ddeddf ynglŷn ag asesu a diwallu anghenion.

·         Pobl nad oes ganddynt alluedd

5.5 Pan nad oes gan berson alluedd gellir ei asesu o hyd fel person sy'n gallu cyfrannu tuag at gost ei ofal a chymorth. Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol roi ar waith bolisïau ynghylch sut maent yn cyfathrebu, sut maent yn cynnal asesiadau ariannol a sut maent yn casglu unrhyw ffioedd oddi wrth y person hwnnw sy'n ystyried galluedd y person yn ogystal ag unrhyw gyflwr meddygol neu nam sydd ganddo. Rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio eu sgiliau gwaith cymdeithasol i gyfathrebu â phobl yn ogystal â llunio system sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored iawn i niwed a throstynt. O dan amgylchiadau o'r fath rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori ac ymgysylltu ag aelodau o'r teulu pan fydd angen gwneud hynny. Lle y bo modd, dylai awdurdodau lleol weithio gyda rhywun sydd ag awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ariannol ar ran person nad oes ganddo alluedd. Os nad oes unrhyw gyfryw berson, yna efallai y bydd angen cysylltu â'r Llys Gwarchod.

·         Plant

5.6 Mae'r Ddeddf yn atal awdurdodau lleol rhag codi ffi ar blentyn am y gofal a chymorth y mae'n ei dderbyn, neu am gymorth a roddir i blentyn sy'n ofalwr. Er bod y Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau godi ffi ar riant neu warcheidwad am hyn, mae'r Rheoliadau a'r cod yn atal hyn, a hynny ar y sail bod y ddarpariaeth hon wedi'i chynnwys yn y Ddeddf er mwyn "ei phrawfesur rhag y dyfodol" ac nid oherwydd dymuniad i gyflwyno ffioedd o'r fath ar yr adeg hon. Felly, rhaid i awdurdodau lleol beidio â chodi ffi ar blentyn am ofal a chymorth, nac am gymorth i blentyn sy'n ofalwr, a ddarperir o dan Ran 4 o'r Ddeddf (Diwallu anghenion), a rhaid i awdurdodau beidio â gofyn am i gyfraniad neu ad-daliad tuag at gostau o'r fath gael ei wneud pan fydd taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i sicrhau gofal a chymorth o'r fath.  

·         Carcharorion

5.7 Mae'r fframwaith codi ffi hefyd yn gymwys i bobl sy'n cael eu cadw'n gaeth mewn sefydliadau diogel. Er bod y rhai sy'n cael eu cadw'n gaeth yn cael mynediad cyfyngedig at gyflogaeth â thâl a budd-daliadau lles (a chaiff enillion eu diystyru at ddibenion asesiadau ariannol), bydd angen i unrhyw asedau cyfalaf, cynilion, incwm a phensiynau gael eu hystyried wrth gynnal asesiad ariannol fel yn achos unrhyw berson arall sy'n derbyn gofal a chymorth. 

·         Cyngor ar Fudd-daliadau Lles

 

5.8 Dylai awdurdodau ddarparu cyngor priodol ar fudd-daliadau lles i'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth i'w helpu i ddeall y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael o bosibl. Dylai hyn gael ei ddarparu fel arfer drwy drafodaeth bersonol â'r person yn ei gartref ei hun gan staff sy'n meddu ar y sgiliau priodol ynghyd â'i gynrychiolydd, os bydd y person yn gofyn am un. Dylai'r cynhorthwy hwn gynnwys cyngor ar yr hawl i fudd-daliadau, cymorth i gwblhau ceisiadau am fudd-daliadau a chamau gweithredu dilynol, os dymuna'r person. Mewn sawl achos, efallai y bydd yn gyfleus i'r unigolion ac yn gosteffeithiol cynnal asesiadau ariannol a rhoi cyngor ar fudd-daliadau ar yr un pryd. Fodd bynnag, efallai y bydd yn well gan bobl gael cynhorthwy o ffynhonnell annibynnol a dylent gael cynnig y dewis hwn, lle y bo modd.

 

·         Terfyn cyfalaf

5.9 Mae'r terfyn ariannol, a elwir yn "terfyn cyfalaf", yn bodoli at ddibenion yr asesiad ariannol ac mae'n nodi pryd y caiff person hawlio cymorth ariannol gan awdurdod lleol i ddiwallu ei anghenion cymwys. Nodir manylion llawn yn Atodiad A ynghylch trin cyfalaf, a rhaid i awdurdod lleol ddilyn yr Atodiad hwnnw wrth gynnal asesiad ariannol a chymhwyso'r terfyn cyfalaf.

5.10 Nodir lefel y terfyn cyfalaf yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd a gall y lefel hon newid o bryd i'w gilydd. Gall y rhai sydd ag asedau cyfalaf ar neu islaw'r terfyn hwn ofyn am gymorth ariannol wedi prawf modd gan eu hawdurdod lleol. Golyga hyn y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol o foddion byw y person a gall godi ffi am y gofal a chymorth y mae neu y bydd yn ei dderbyn yn seiliedig ar yr hyn y gall y person fforddio ei dalu tuag at gost darparu neu drefnu hyn. Wrth gynnal yr asesiad ariannol rhaid i gyfalaf ar neu islaw'r terfyn cyfalaf gael ei ddiystyru wrth asesu'r hyn y gall person fforddio ei dalu. Pan fydd cyfalaf person ar neu islaw'r terfyn cyfalaf rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo gyfrannu at gost ei ofal a chymorth o'i gyfalaf.

5.11 Gall person sydd â mwy o gyfalaf na'r terfyn cyfalaf ofyn i'w awdurdod lleol drefnu ei ofal a chymorth iddo os bydd yn dewis o dan adran 35(4)(b)(ii) (Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn) o'r Ddeddf. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i bobl yn y sefyllfa hon dalu cost lawn eu gofal a chymorth mewn gofal preswyl, neu gost lawn hyd at yr uchafswm ffi wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl, hyd nes y bydd gwerth eu cyfalaf ar neu islaw lefel y terfyn cyfalaf.

·         Gofal a chymorth na ellir codi ffi amdano

5.12 Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi ffi am fathau penodol o ofal a chymorth y mae'n rhaid eu trefnu am ddim, sef:

• gofal a chymorth a ddarperir fel gofal a chymorth ailalluogi a drefnir o dan Ran 2 (Swyddogaethau cyffredinol) neu Ran 4 (Diwallu anghenion) o'r Ddeddf, neu ofal a chymorth ailalluogi a drefnir fel taliadau uniongyrchol o dan adrannau 50 neu 52 (Taliadau uniongyrchol) o'r Ddeddf, i berson am hyd at chwe wythnos er mwyn ei alluogi i gynnal neu adfer ei allu i fyw'n annibynnol yn ei gartref. (Wrth ddarparu gwasanaeth ailalluogi neu daliadau uniongyrchol er mwyn sicrhau darpariaeth o'r fath dylai awdurdodau lleol ystyried a ddylid ymestyn y cyfnod hwn mewn achosion unigol pan fydd anghenion person yn golygu y byddai cyfnod hwy o gymorth ailalluogi am ddim yn fuddiol i'w ganlyniadau, megis y rhai a all fod angen cymorth ailalluogi arnynt am gyfnod hwy oherwydd nam ar y golwg);

• gofal a chymorth a ddarperir i'r rhai sydd â Chlefyd Creutzfeldt-Jacob;

• gwasanaethau/cymorth ôl-ofal a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

rhaid peidio â chodi ffi am asesiad o anghenion, cynllunio gofal, cynlluniau gofal, darparu datganiadau ynghylch ffi a chynnal adolygiad o ddyfarniad ffi neu'r ffi ei hun gan nad yw'r prosesau hyn yn gyfystyr â darparu gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor;

• cludiant i wasanaeth dydd lle y darperir cludiant fel rhan o'r broses o ddiwallu anghenion person;

• eiriolaeth broffesiynol annibynnol pan fydd awdurdod lleol wedi trefnu i ddarparu hyn yn unol â'r cod ymarfer ar eiriolaeth o dan Ran 10 (Cwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli) o'r Ddeddf lle y gall person ond oresgyn y rhwystr(au) i gymryd rhan lawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu gyda chynhorthwy unigolyn priodol ac nad oes unigolyn o'r fath ar gael. Mae prosesau o'r fath, fel y'u nodwyd yn y cod sy'n ymwneud â Rhan 10 yn cwmpasu'r holl swyddogaethau perthnasol o dan y Ddeddf.

 

·         Cynnal asesiad ariannol

5.13 Pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu codi ffi am ddarparu neu drefnu gofal a chymorth o dan Ran 5 (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol) o'r Ddeddf, neu'n ei gwneud yn ofynnol i gyfraniad neu ad-daliad gael ei wneud am ofal a chymorth y bydd person yn ei gael drwy daliadau uniongyrchol o dan Ran 4 (Diwallu anghenion) o'r Ddeddf, oni chaiff ffi unffurf ei chymhwyso (gweler yn ddiweddarach yn y bennod hon), rhaid iddo gynnal asesiad ariannol a dyfarnu'r hyn y gall y person fforddio'n rhesymol ei dalu. Ar ôl ei gwblhau, rhaid iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig am y ffi, y cyfraniad neu'r ad-daliad y bydd yn ei phennu neu ei bennu ar gyfer y person. Gellid darparu hwn ochr yn ochr â chynllun gofal a chymorth y person, neu ar wahân iddo.

5.14 Mae'r Rheoliadau ynglŷn ag Asesiadau Ariannol yn nodi gofynion asesiad ariannol, dyfarnu ffi a darparu datganiad am y ffi hon. Mae rheoliad 3 (Gwybodaeth i'w darparu gan awdurdod lleol) yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu i'r person i'w asesu ac mae'n cynnwys:

·         gwybodaeth am y gofal a chymorth y mae a wnelo'r asesiad ag ef;

·         manylion ei bolisi codi ffioedd am ofal a chymorth neu am ddarparu taliadau uniongyrchol, fel y bo'n briodol;

·         manylion ei broses asesu ariannol;

·         manylion unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y mae eu hangen arno er mwyn cwblhau'r asesiad a'r terfyn amser ar gyfer darparu hyn gyda manylion unrhyw gyfleuster ymweld â'r cartref y mae'r awdurdod yn ei ddarparu er mwyn darparu hyn;

·         gwybodaeth am hawl y person i benodi trydydd parti i weithredu ar ei ran ar gyfer yr asesiad cyfan neu ran ohono gyda manylion sefydliadau yn ei ardal sy'n darparu'r math hwn o gymorth;

·         y ffaith y bydd yn rhoi datganiad am unrhyw ffi, cyfraniad neu ad-daliad i'r person ar ôl cwblhau'r asesiad; 

·         manylion cyswllt y rhai mewn awdurdod y gellir cysylltu â hwy os bydd angen mwy o wybodaeth ar y person.   

5.15 Wrth gynnal yr asesiad ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ddilyn y gofynion yn y Rheoliadau Asesiad Ariannol a'r cod hwn. Rhaid i awdurdod lleol ailasesu gallu person i dalu cost unrhyw ffioedd, cyfraniad neu ad-daliad pe bai ei amgylchiadau ariannol yn newid. Mae hyn yn debygol o ddigwydd o leiaf bob blwyddyn o ganlyniad i ddiwygiadau i lefelau budd-daliadau lles a phensiynau'r wladwriaeth, ond gall ddigwydd yn amlach, yn ôl amgylchiadau unigol. Fodd bynnag, rhaid i hyn ddigwydd os bydd newid mewn amgylchiadau neu ar gais y person.

5.16. Nodir gofynion ynglŷn â thrin cyfalaf mewn asesiad ariannol yn fanwl yn Rhan 4 (Trin a chyfrifo cyfalaf) o'r Rheoliadau Asesiad Ariannol ac Atodiad A i'r cod hwn (Trin Cyfalaf). Ystyrir cyfalaf y person yn yr asesiad oni fydd yn ddarostyngedig i un o'r symiau i'w diystyru a nodir yn y Rheoliadau ac a ddisgrifir yn Atodiad A. Y prif enghreifftiau o gyfalaf a ystyrir yw gwerth eiddo a chynilion person.

5.17 Nodir y gofynion ynglŷn â thrin incwm mewn asesiad ariannol yn fanwl yn Rhan 3 (Trin a chyfrifo incwm) o'r Rheoliadau Asesiad Ariannol ac Atodiad B i'r cod hwn (Trin Incwm). Wrth asesu'r hyn y gall person fforddio ei dalu, rhaid i awdurdod lleol ystyried ei incwm. Fodd bynnag, er mwyn helpu i annog pobl i barhau i fod mewn cyflogaeth neu ymgymryd â chyflogaeth, gyda buddiannau hyn o ran llesiant person, rhaid diystyru enillion o gyflogaeth wrth gyfrifo faint o arian y gall person ei dalu. Er y bydd incwm yn cael ei drin yn yr un modd ar y cyfan p'un a yw person mewn cartrefi gofal neu'n derbyn gofal a chymorth yn y gymuned (p'un a yw'r gofal a chymorth a dderbynnir wedi cael ei drefnu neu ei ddarparu gan awdurdod lleol neu drwy daliadau uniongyrchol), mae rhai gwahaniaethau rhwng y ddau o ran sut y trinnir incwm. Nodir manylion llawn hyn yn Rhan 3 o'r Rheoliadau ac Atodiad B i'r cod hwn.

·         Dim gofyniad am asesiad ariannol

5.18 O dan rai amgylchiadau, nid yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol. Mae'r amgylchiadau pan fydd hyn yn gymwys wedi'u cynnwys yn rheoliad 7 (Amgylchiadau lle nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) o'r Rheoliadau Asesiad Ariannol. Maent yn cynnwys sefyllfaoedd lle:

 (a) mae'r awdurdod lleol yn codi ffi unffurf am ofal a chymorth penodol (gan gynnwys gwasanaethau ataliol a chynhorthwy) ac fel y cyfryw, byddai cynnal asesiad ariannol yn anghymesur i'r ffi a godir;

(b) mae'r person yn gwrthod darparu gwybodaeth a/neu ddogfennaeth y gellir yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cynnal yr asesiad, neu ond yn darparu gwybodaeth rannol. Os felly, gall yr awdurdod benderfynu a ddylid codi ffi, a lefel y ffi honno, ar sail y wybodaeth / dogfennaeth sydd ar gael os yw o'r farn bod ganddo ddigon o wybodaeth i wneud hynny;

(c) mae'r person yn derbyn gofal a chymorth na ellir codi ffi amdano.

5.19 Mae'r ffyrdd y caiff awdurdod lleol fod yn fodlon bod person yn gallu fforddio unrhyw ffioedd dyledus lle na ddarperir unrhyw wybodaeth neu lle y darperir gwybodaeth rannol yn cynnwys:

(a) eiddo sy'n amlwg yn werth mwy na'r terfyn cyfalaf, lle y gellir cadarnhau mai'r person yw'r unig berchennog neu mae'n amlwg beth yw ei gyfran o'r eiddo; neu

(b) cynilion, lle y gellir eu cadarnhau, sy'n amlwg yn werth mwy na'r terfyn cyfalaf.

·         Dyfarnu ffi

5.20 Wrth ddyfarnu swm ffi, cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i awdurdod lleol ddilyn gofynion y Rheoliadau Gosod Ffioedd. Mae'r rhain yn nodi'r canlynol:

·         y personau na chaniateir codi ffioedd  arnynt;

·         gwasanaethau na chaniateir codi ffioedd amdanynt;

·         yr uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl (gweler yn ddiweddarach yn y bennod hon);

·         y terfyn cyfalaf (y cyfeirir ato ym mharagraff 5.9 i 5.11); 

·         yr isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo ac ar gyfer person y darperir gofal a chymorth iddo mewn cartref gofal.

5.21 Rhaid i awdurdod lleol wneud dyfarniad cyn gynted ag y bydd ganddo ddigon o wybodaeth a dogfennaeth i wneud hynny. Ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud o dan reoliad 14 (Datganiad o ddyfarniad) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd rhaid i awdurdod lleol roi datganiad i'r person sydd wedi cael ei asesu'n ariannol yn nodi'r ffi, cyfraniad neu ad-daliad i'w gwneud neu i'w wneud. Rhaid i'r datganiad hwn esbonio sut y cynhaliwyd yr asesiad, faint fydd y ffi, y cyfraniad neu'r ad-daliad a pha mor aml y bydd yn cael ei gwneud neu ei wneud ac, os bydd y symiau hyn yn amrywio o gwbl, y rheswm dros hyn. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod hyn wedi'i ddarparu mewn fformat sy'n diwallu anghenion cyfathrebu'r person.

5.22 Ar ôl i ddatganiad gael ei roi yna caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r person dalu ffi, cyfraniad neu ad-daliad am y gofal a chymorth y mae a wnelo'r datganiad ag ef o'r dyddiad y rhoddwyd y datganiad yn gyntaf. Rhaid  i awdurdod lleol ddarparu datganiad cyn gynted ag y bydd yn gwneud dyfarniad. Rhaid i awdurdodau beidio ag oedi naill ai cyn gwneud dyfarniad, neu cy cyhoeddi datganiad, pan fyddant mewn sefyllfa i wneud hynny.

Ffioedd unffurf

6.1 Gall awdurdodau lleol godi ffi unffurf am ofal a chymorth lefel isel, cost isel neu bennu cyfraniad neu ad-daliad unffurf ar gyfer taliadau uniongyrchol am ofal a chymorth o'r fath. Byddai ffioedd unffurf yn cael eu codi fel arfer am ofal a chymorth a ddarperir yn gyfnewid am fyw arferol, megis prydau bwyd neu olchi dillad. Er y gall fod yn ofal a chymorth a ddarperir yn rheolaidd, mewn rhai achosion efallai mai hyn yw'r unig ofal a chymorth y mae person yn ei dderbyn. Gall awdurdodau lleol hefyd godi ffioedd unffurf o dan adran 69 (Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy) o'r Ddeddf am wasanaethau ataliol neu gynhorthwy y mae'n eu darparu neu'n eu trefnu. Rhaid i ffioedd unffurf a godir beidio â bod yn fwy na'r gost yr eir iddi wrth drefnu neu ddarparu'r gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol neu gynhorthwy y maent yn ymwneud â hwy.

 

6.2 Pan fydd yn codi ffi unffurf o dan yr amgylchiadau hyn, neu'n pennu cyfraniad neu ad-daliad unffurf, nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol mewn perthynas â'r gofal a chymorth, na'r gwasanaethau ataliol a chynhorthwy, y mae hyn yn ymwneud â hwy. Diben hyn yw atal sefyllfa anghymesur lle mae'n ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth ariannol am ei foddion byw, neu y mae'n ofynnol i awdurdod gynnal asesiad ariannol, ar gyfer yr hyn a fyddai'n ffi gymharol isel. O ganlyniad, rhaid i awdurdod lleol ystyried lefel y swm unffurf y mae'n bwriadu ei godi, a'i effaith ariannol bosibl ar y person y mae'n ofynnol iddo ei dalu.

6.3 Fodd bynnag, nid yw'n dderbyniol i awdurdodau lleol bennu ffioedd unffurf am yr holl ofal a chymorth fel ffordd o osgoi o bosibl y dyletswyddau a osodir arnynt o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau. Mae hyn ar y sail na fyddai ffi unffurf am fathau eraill o ofal a chymorth o'r fath yn ystyried yn ddigonol gost darparu hyn, moddion byw'r sawl sy'n derbyn gofal a chymorth er mwyn talu ffi o'r fath a'r egwyddor na ddylai person fel arfer dalu mwy na'r uchafswm ffi wythnosol a ragnodir o dan y Rheoliadau Gosod Ffioedd am yr holl ofal a chymorth y mae'n ei dderbyn (gweler yn ddiweddarach yn y bennod hon).

 

6.4 Mae angen gochel yn benodol rhag cael effaith niweidiol ar incwm person lle mae'n derbyn nifer o ffioedd unffurf. O dan amgylchiadau o'r fath rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffioedd unffurf hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle mae effaith gronnus y rhain, a ffioedd neu daliadau a wneir o dan Rannau 4 neu 5 o'r Ddeddf am ofal a chymorth, yn gwneud y rhain yn anfforddiadwy i'r unigolyn. Er bod y Rheoliadau yn dileu'r rhwymedigaeth i gynnal asesiad ariannol, lle mae pryderon yn codi, rhaid i awdurdodau gynnig y cyfle o gael asesiad ariannol i'r person os oes ganddo unrhyw reswm dros gredu bod effaith gronnus ffioedd unffurf yn anfforddiadwy neu y gallant fod yn anfforddiadwy.

6.5 Wrth benderfynu a ddylid codi ffioedd unffurf yn unol ag adran 69 o'r Ddeddf am wasanaethau ataliol neu gynhorthwy, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y cydbwysedd rhwng casglu incwm i helpu i ddarparu gofal a chymorth o'r fath ar sail gynaliadwy, ac effaith bosibl codi ffioedd o'r fath ar y nifer sy'n derbyn gofal a chymorth. Dylai awdurdodau lleol osgoi sefyllfa lle mae'r ffioedd unffurf a bennir ganddynt, a lefel y rhain, yn arwain at nifer fach o unigolion yn derbyn gwasanaethau ataliol a chynhorthwy sy'n arwain at sefyllfa lle bydd mwy o bobl nag y byddai wedi digwydd fel arall yn datblygu anghenion gofal a chymorth, naill ai'n gynt neu ar lefel uwch o angen, fel y bydd awdurdodau lleol yn cael eu hatal rhag cyflawni eu dyletswyddau ynglŷn â llesiant o dan Ran 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) o'r Ddeddf. 

6.6 Pan fydd awdurdodau lleol yn dewis arfer eu disgresiwn i godi ffi unffurf am wasanaethau ataliol neu gynhorthwy a ddarperir gan y trydydd sector ar eu rhan, bydd angen iddynt gytuno â'r darparwyr hynny ar y ffordd y bydd ffioedd o'r fath yn cael eu casglu.  

Uchafswm Ffi Wythnosol

7.1 Wrth ddyfarnu swm y ffi o dan adran 59 o'r Ddeddf, neu gyfraniad neu ad-daliad o dan adrannau 50-53 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol, rhaid i awdurdodau lleol beidio â chodi ar berson sy'n derbyn gofal a chymorth amhreswyl fwy nag uchafswm ffi wythnosol am yr holl ofal a chymorth amhreswyl y mae'n ei dderbyn.

 

7.2 Cyflwynwyd y gofyniad hwn yn 2011 gan Weinidogion er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru mewn perthynas â ffioedd o'r fath. Dyna pam mae'r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn cadw'r gofyniad hwn ac yn pennu lefel yr uchafswm ffi y mae'n rhaid i awdurdodau gadw ati. Nid oes gan awdurdodau lleol ryddid i godi mwy na'r uchafswm ffi hwn mewn wythnos ar berson sy'n derbyn gofal a chymorth amhreswyl, ni waeth beth yw maint neu gost ei becyn gofal amhreswyl. Mae hyn yn gymwys yn yr un modd lle mae person yn derbyn gwasanaethau deuol; h.y. gofal a chymorth wedi'i ddarparu neu wedi'i drefnu gan ei awdurdod lleol a gofal a chymorth a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol. Rhaid i gyfanswm unrhyw ffi a godir, neu swm gofynnol, am y ddau beidio â bod yn fwy na'r uchafswm ffi wythnosol na'r uchafswm wythnosol mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol. Fodd bynnag, nid yw'r uchafswm ffi wythnosol na'r uchafswm wythnosol yn cynnwys lefel unrhyw ffioedd unffurf y mae person yn atebol i'w talu fel y'i hamlinellwyd ym mharagraffau 6.1 i 6.6 uchod.

 

7.3 Mae'n agored i awdurdodau weithredu uchafswm ffi wythnosol is na'r un a bennwyd yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd os dymunant. Bydd yr uchafswm ffi wythnosol a bennir yn y Rheoliadau yn cael ei adolygu a chaiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd. 

Amddifadu o asedau a dyledion

8.1 Fel arfer mae gan bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth bob rhyddid i wario eu hincwm a defnyddio eu hasedau cyfalaf fel y gwelont yn dda, gan gynnwys rhoi rhoddion i ffrindiau a theulu. Mae hyn yn bwysig o ran hyrwyddo eu llesiant a'u galluogi i fyw bywydau annibynnol. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn ni ddylid ei wneud yn fwriadol i osgoi ffioedd yn gyfan gwbl neu leihau eu hatebolrwydd i dalu ffioedd oherwydd moddion byw gostyngol.

8.2 Mae achosion lle mae person wedi ceisio osgoi talu am ofal a chymorth yn fwriadol drwy amddifadu ei hun o'i asedau – naill ai cyfalaf neu incwm. Pan fydd awdurdod lleol yn credu bod ganddo dystiolaeth i gefnogi hyn gall geisio adennill costau o dan adran 72 (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd) o'r Ddeddf os tybia fod hynny'n briodol. Mewn achosion o'r fath, caiff yr awdurdod lleol naill ai godi ffi ar y person fel petai'r ased yn dal i fod yn ei feddiant, neu os trosglwyddwyd yr ased i rywun arall, geisio adennill yr incwm a gollwyd o ffioedd neu o gyfraniadau neu ad-daliadau a gollwyd lle mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud oddi wrth y person hwnnw.

8.3 Fodd bynnag, ni all awdurdod lleol adennill mwy nag y mae'r person wedi'i gael o drosglwyddo asedau a rhaid iddo gymhwyso'r Rheoliadau Asesiad Ariannol a'r Rheoliadau Gosod Ffioedd wrth gyfrifo'r ffi a fyddai wedi cael ei chodi. At hynny, rhaid i awdurdodau lleol beidio â thybio bod amddifadu o ased wedi digwydd mewn achos penodol a rhaid iddynt drin pob achos lle mae ganddynt bryderon yn unigol.  

8.4 Pan fydd person wedi mynd i ddyled, caiff yr awdurdod lleol ddefnyddio ei bwerau o dan adran 70 (Adennill costau, llog etc) o'r Ddeddf i adennill y ddyled honno. Wrth benderfynu sut i weithredu rhaid i awdurdod lleol ystyried amgylchiadau'r achos cyn penderfynu beth i'w wneud. Er enghraifft, dylai awdurdod lleol ystyried a fu achos o osgoi talu'n fwriadol neu a oedd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person.

8.5 Yn y pen draw, caiff yr awdurdod lleol ddechrau cymryd camau cyfreithiol i adennill y ddyled. Fodd bynnag, dim ond ar ôl ystyried pob modd rhesymol arall i adennill y ddyled â'r person y mae ganddo ddyled y mae'n rhaid iddo ddefnyddio'r pŵer hwn.

8.6 Ceir rhagor o wybodaeth am amddifadu o asedau a dyledion yn Atodiad F i'r cod hwn.

 

Codi ffi am ofal a chymorth mewn cartref gofal

9.1 Rhaid i'r rhan hon o'r cod gael ei darllen ar y cyd â'r Rheoliadau Asesiad Ariannol a'r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac Atodiadau A a B ynghylch trin cyfalaf ac incwm yn y drefn honno mewn perthynas â chartrefi gofal.

 

9.2 Pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu codi ffi am ddarparu neu drefnu llety mewn cartref gofal ac yn cynnal asesiad ariannol, rhaid iddo helpu'r person i nodi'r opsiynau ynglŷn â'r ffordd orau o dalu unrhyw ffi. Gall hyn gynnwys cynnig cytundeb taliadau gohiriedig i'r person yn erbyn gwerth eiddo a ystyriwyd yn yr asesiad ariannol. Disgrifir achosion o'r fath yn fanylach yn Atodiad D ynghylch cytundebau taliadau gohiriedig.

9.3 Pan fydd person yn breswylydd byrdymor (h.y. arhosiad nad yw'n fwy nag wyth wythnos) mewn cartref gofal a bod awdurdod lleol yn arfer ei ddisgresiwn i godi ffi am hyn, rhaid iddo gynnal unrhyw asesiad ariannol o allu person i wneud hyn fel petai'r person yn derbyn gofal a chymorth amhreswyl, neu'n derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl.  Er enghraifft, gallai person o'r fath fod yn derbyn gofal seibiant yn y byrdymor.  Pe bai arhosiad yn fwy nag wyth wythnos ond nad yw'n arhosiad parhaol (megis lle mae person yn aros am arhosiad parhaol mewn cartref gofal arall), bydd angen i awdurdod lleol ystyried a ddylid parhau i godi ffi ar y sail hon neu a ddylid dechrau codi ffi fel petai'r person yn derbyn gofal preswyl.

9.4 Bydd pobl mewn cartref gofal sydd â chyfalaf ar neu islaw'r terfyn cyfalaf yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'u hincwm, heb gynnwys eu henillion, tuag at gost eu gofal a chymorth. Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol adael swm penodol o'i incwm ei hun i'r person fel y bydd gan y person arian i'w wario ar eitemau personol megis dillad ac eitemau eraill nad ydynt yn rhan o'i ofal a chymorth. Gelwir hyn yn isafswm incwm. Mae hwn yn ychwanegol at unrhyw incwm y mae'r person yn ei gael o enillion. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i gymhwyso isafswm incwm uwch mewn achosion unigol, er enghraifft lle mae angen i'r person gyfrannu tuag at gost cynnal ei hen gartref. Mae'r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn pennu lefel yr isafswm incwm y mae'n rhaid i awdurdodau ganiatáu i breswylwyr ei gadw. Gall y lefel hon newid o bryd i'w gilydd.

Dewis o lety

10.1 Pan fwriedir diwallu anghenion person drwy ddarparu llety mewn cartref gofal, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y dewis o lety y mae'r person yn ei ffafrio, yn ddarostyngedig i amodau penodol. Dylid penderfynu ar y math priodol o lety ar y cyd â'r person fel rhan o'r broses cynllunio gofal a chymorth, felly dim ond rhwng darparwyr o'r un math y mae'r dewis hwn yn gymwys.

10.2 Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y person yn cael dewis gwirioneddol a rhaid iddo sicrhau bod mwy nag un opsiwn ar gael o fewn ei gyfradd gomisiynu arferol ar gyfer y math o gartref gofal yr aseswyd bod ei angen ar berson. Fodd bynnag, rhaid hefyd fod person yn gallu dewis opsiynau amgen, gan gynnwys cartref drutach. Pan fydd cartref yn costio mwy i awdurdod lleol nag y byddai'n ei dalu fel arfer, rhaid bod person yn gallu cael lle yno os bodlonir amodau penodol a lle mae trydydd parti (neu o dan amgylchiadau penodol y preswylydd) yn barod i dalu'r gost ychwanegol ac yn gallu gwneud hynny.  Fodd bynnag, rhaid bod talu cost ychwanegol bob amser yn opsiynol a byth o ganlyniad i ddiffyg yn y cyllid y mae awdurdod lleol yn ei ddarparu i gartref gofal er mwyn diwallu anghenion gofal person a aseswyd. Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 mewn cysylltiad â'r math hwn o drefniant ac Atodiad C ynghylch dewis o lety a thaliadau costau ychwanegol. 

Codi ffi am ofal a chymorth yn y gymuned gan gynnwys cartref y person ei hun

11.1 Rhaid i'r rhan hon o'r cod gael ei darllen ar y cyd â'r Rheoliadau Asesiad Ariannol a'r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac Atodiadau A a B ynghylch trin cyfalaf ac incwm yn y drefn honno mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl. 

 

11.2 Mae'r trefniadau codi ffi hyn yn cwmpasu talu am anghenion gofal a chymorth y tu allan i gartref gofal, naill ai yng nghartref y person ei hun neu yn y gymuned. Bwriad y Rheoliadau a'r cod hwn yw helpu awdurdodau lleol, lle maent wedi penderfynu codi ffi am y gofal a chymorth y bydd person yn ei dderbyn, i asesu'r hyn y gall y person hwnnw fforddio ei gyfrannu tuag at gost y ddarpariaeth hon.

11.3 Gan y bydd angen i berson sy'n derbyn gofal a chymorth y tu allan i gartref gofal dalu am ei gostau byw bob dydd megis rhent, bwyd a chyfleustodau, mae'r fframwaith codi ffi yn ceisio sicrhau bod ganddo ddigon o arian i dalu am y costau hyn. O ganlyniad, ar ôl codi ffi rhaid i awdurdodau lleol adael isafswm incwm, sy'n cyfateb i "hawlogaeth sylfaenol" ynghyd â lwfans o 35% o'r swm hwnnw, i berson. Mae rheoliadau 12 a 27 (Isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn diffinio "hawlogaeth sylfaenol", yn nodi'r ffordd y mae'n cael ei chymhwyso a'r hyn y dylid ei ystyried yn achos pob person. At hynny, er mwyn cynorthwyo gyda gwariant sy'n ymwneud ag anabledd, rhaid gadael 10% ychwanegol o'u "hawlogaeth sylfaenol" tuag at gost hyn i'r rhai y codir ffi arnynt. Gall lefel y lwfansau hyn newid o bryd i'w gilydd.

11.4 At hynny, rhaid i'r asesiad ariannol o'i gyfalaf beidio â chynnwys gwerth yr eiddo y mae'n ei feddiannu fel ei brif gartref neu ei unig gartref. Y tu hwnt i hyn, mae cyfalaf yn cael ei drin mewn asesiad ariannol yn yr un modd ag yn achos gofal preswyl. Fodd bynnag, mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd o fewn y fframwaith hwn i ystyried amgylchiadau lleol a hyrwyddo annibyniaeth ac integreiddio. Er enghraifft, gallant ddewis diystyru ffynonellau ychwanegol o incwm, pennu uchafswm ffi wythnosol is na'r hyn sy'n ofynnol, neu godi ffi o ganran o'i incwm gwario ar berson. Wedi dweud hynny, ni ddylai hyn arwain at sefyllfa lle y codir ffi wahanol ar ddau o bobl ag anghenion tebyg, ac sy'n derbyn mathau tebyg o ofal a chymorth amhreswyl.

Codi ffi am gymorth i ofalwyr sy'n oedolion

12.1 Pan fydd gan ofalwr sy'n oedolyn anghenion cymorth cymwys ei hun, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol, neu bŵer ganddo, mewn rhai achosion, i drefnu cymorth i ddiwallu ei anghenion. Pan fydd awdurdod lleol yn diwallu anghenion gofalwr sy'n oedolyn drwy drefnu neu roi cymorth yn uniongyrchol iddo, neu'n darparu taliadau uniongyrchol i'w alluogi i gael y cymorth hwn, mae ganddo ddisgresiwn i godi ffi ar y gofalwr sy'n oedolyn am y rhain.

 

12.2 Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi ffi ar ofalwr sy'n oedolyn am ofal a chymorth a ddarperir yn uniongyrchol i'r person y mae'n gofalu amdano. Hefyd, nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol godi ffi ar ofalwr sy'n oedolyn am gymorth ac yn wir mewn sawl achos ni fyddai'n arbed dim o wneud hynny. Wrth benderfynu a ddylid codi ffi, a dyfarnu beth yw ffi briodol, rhaid i awdurdod lleol ystyried sut mae'n dymuno mynegi'r ffordd y mae'n gwerthfawrogi gofalwyr yn ei gymuned leol fel partneriaid gofal, a chydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gofalwyr yn ei wneud. Mae gofalwyr yn helpu i gynnal iechyd a llesiant y person y maent yn gofalu amdano, yn helpu i gadw'r person hwn yn annibynnol a'i alluogi i aros yn ei gartref ei hun am gyfnod hwy. Mewn sawl achos, mae gofalwyr yn diwallu anghenion cymwys y byddai'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu diwallu fel arall, a hynny'n wirfoddol.

 

12.3 Rhaid i awdurdodau lleol ystyried yn ofalus effaith debygol unrhyw ffioedd ar ofalwyr sy'n oedolion, yn enwedig o ran eu parodrwydd a'u gallu i barhau â'u cyfrifoldebau gofalu. Efallai y bydd amgylchiadau yn codi lle y gall ffi enwol fod yn briodol, er enghraifft, er mwyn rhoi cymorth â chymhorthdal ond y mae'r gofalwr yn talu ffi fach amdano o bosibl. Yn y pen draw, rhaid i awdurdod lleol sicrhau nad oes unrhyw ffioedd yn cael effaith negyddol ar allu gofalwr i ofalu am ei iechyd a'i lesiant ei hun a gofalu'n effeithiol ac yn ddiogel am y person y gofelir amdano.

 

12.4 Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu codi ffi ar ofalwr sy'n oedolyn rhaid iddo asesu ffioedd o'r fath yn unol â'r gofynion ynglŷn â chodi ffioedd am ofal a chymorth, neu lle mae gofalwr sy'n oedolyn yn cael taliadau uniongyrchol yn unol â'r gofynion ynglŷn ag ystyried cyfraniad neu ad-daliad ar gyfer taliadau o'r fath. Wrth wneud hynny, mae'n ofynnol cynnal asesiad ariannol er mwyn sicrhau bod unrhyw ffioedd, cyfraniadau neu ad-daliadau yn fforddiadwy. Fodd bynnag, efallai y bydd yn fwy tebygol yn achos gofalwr sy'n oedolyn lle mae angen cymorth lefel isel ar y cyfan, y bydd yr awdurdod lleol yn cytuno i godi ffi unffurf lle na fyddai asesiad ariannol yn ofynnol a lle y byddai'n anghymesur sut bynnag o ystyried lefel y ffi a godir.

12.5 Wrth ystyried a ddylid codi ffi neu geisio cyfraniad neu ad-daliad gan ofalwyr sy'n oedolion, rhaid i awdurdodau lleol ystyried lefel y ffi, cyfraniad neu ad-daliad y maent yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i'w thalu neu i'w dalu ac effaith hyn ar allu'r gofalwr i ymgymryd â rôl gofalwr. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad A - Trin Cyfalaf

 

Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

 

• Trin cyfalaf wrth gynnal asesiad ariannol

 

Cyffredinol

1.1 Mae'r atodiad hwn i'r cod yn gymwys pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu arfer ei ddisgresiwn o dan adran 59 (Pŵer i osod ffioedd) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") i godi ffi ar berson am y gofal a chymorth y mae'n ei ddarparu neu ei drefnu, neu o dan adran 50 (Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn) neu adran 52 (Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr) o'r Ddeddf wrth bennu cyfraniad neu ad-daliad mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol. O ganlyniad, mae dyletswydd arno o dan adrannau 50, 52 a 63 (Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) o'r Ddeddf i gynnal asesiad ariannol o foddion byw'r person. Felly rhaid iddo gynnal asesiad o'r fath ac wrth wneud hynny, rhaid iddo asesu incwm a chyfalaf y person.

1.2 Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â thrin cyfalaf a dylid ei ddarllen ar y cyd ag Atodiad B ynghylch trin incwm. Nodir manylion y mathau o gyfalaf y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried yn yr asesiad ariannol, a sut y dylid trin y rhain yn yr asesiad, yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau"). Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn gofynion y Rheoliadau a'r atodiad hwn mewn perthynas â chyfalaf wrth gynnal asesiad ariannol. Maent yn gymwys yn yr un modd lle y cynhelir asesiad i ystyried ffi am ofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol a lle mae cyfraniad neu ad-daliad yn cael ei ystyried mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol er mwyn galluogi person i sicrhau bod gofal a chymorth o'r fath yn cael ei ddarparu.

1.3 Mae cyfalaf yn cael ei drin yn yr un modd yn fras wrth gynnal asesiad ariannol sy'n cynnwys pob math o ofal a chymorth. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau o ran y ffordd y trinnir cyfalaf wrth gynnal asesiad ariannol i'r rhai mewn cartref gofal a'r rhai sy'n derbyn mathau eraill o ofal a chymorth. Mae'r adrannau canlynol yn nodi'r materion cyffredin sy'n gymwys i'r ddau ac yna unrhyw faterion penodol sy'n unigryw i'r naill neu'r llall.

Materion cyffredin

2.1. Mae'r adran ganlynol yn nodi'r materion sy'n gyffredin o ran trin cyfalaf mewn asesiad ariannol.

2.2. Dim ond cyfalaf y person a asesir y gellir ei ystyried yn yr asesiad ariannol o'r hyn y gall fforddio ei dalu. Pan fydd y person hwn yn dal cyfalaf fel un o gwpl, y dybiaeth i ddechrau yw bod gan bob person gyfran gyfartal o'r cyfalaf hwnnw. Fodd bynnag, gall awdurdod lleol asesu cyfalaf cwpl ond dim ond pan fydd hyn yn fwy manteisiol yn ariannol i'r person a asesir. Rhaid i awdurdod lleol ond asesu cyfalaf cyplau o dan yr amgylchiadau hyn.

·         Diffinio cyfalaf

2.3. Mae cyfalaf yn gyffredinol yn cyfeirio at adnoddau ariannol a ddelir gan berson sydd ar gael i'w defnyddio ac sy'n tueddu i ddod o ffynonellau a ystyrir yn fwy parhaol nag incwm yn yr ystyr y gallant gynhyrchu enillion. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cyfalaf yn cynnwys adnoddau ariannol a ddelir gan berson ar ffurf cynilion, buddsoddiadau ac eiddo.

2.4 Nid oes modd rhoi rhestr ddiffiniol o bob math o gyfalaf ond mae'r rhestr ganlynol yn rhoi enghreifftiau o gyfalaf. Canllaw yn unig yw'r rhestr hon ac nid yw'n hollgynhwysfawr:

(a) Adeiladau;

(b) Tir;

(c) Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Thystysgrifau Cynilion Ulster;

(d) Bondiau Premiwm;

(e) Stociau a chyfrannau;

(f) Cyfalaf a ddelir gan y Llys Gwarchod neu Ddirprwy a benodir gan y Llys honnno;

(g) Unrhyw gynilion a ddelir yn y canlynol:

(i) Cyfrifon cymdeithas adeiladu;

(ii) Cyfrifon cyfredol banc, cyfrifon adneuo neu gyfrifon buddsoddi arbennig. Mae hyn yn cynnwys cynilion a ddelir yn y Banc Cynilion Cenedlaethol a'r Banc Cynilion Ymddiriedolwyr;

(iii) Cynlluniau Cynilo wrth Ennill;

(iv) Ymddiriedolaethau Uned;

(v) Cyfrifon cyfrannau mentrau cydweithredol;

(vi) Arian parod;

(h) Cronfeydd ymddiriedolaeth.

2.5 Rhaid peidio â chodi ffi ar berson ddwywaith ar sail yr un adnoddau. Dylid trin adnoddau fel incwm neu gyfalaf ond nid y ddau. Os oes person wedi cynilo arian o'i incwm, dylai cynilion o'r fath gael eu trin fel cyfalaf fel arfer ac ni ddylent gael eu hasesu fel incwm a chyfalaf yn yr un cyfnod. Felly, yn ystod y cyfnod pan dderbynnir adnoddau o'r fath fel incwm, dylid eu diystyru fel cyfalaf.

·         Achosion lle nad yw'n amlwg ai cyfalaf neu incwm yw taliad

2.6 Wrth asesu moddion byw person efallai na fydd yn gwbl amlwg ai cyfalaf neu incwm yw adnodd, yn enwedig pan fydd person yn derbyn taliadau wedi'u cynllunio. Er mwyn llywio penderfyniad awdurdod lleol, yn gyffredinol mae taliad cyfalaf wedi'i gynllunio yn un:

(a) nas gwneir mewn perthynas â chyfnod penodol; 

(b) na fwriedir iddo fod yn rhan o gyfres o daliadau.

·         Pwy sy'n berchen ar y cyfalaf

2.7 Fel arfer diffinnir ased cyfalaf fel eiddo'r person y'i delir yn ei enw, sef y perchennog cyfreithiol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd anghydfod yn ei gylch a/neu y dadleuir bod perchenogaeth lesiannol. Ystyr perchenogaeth lesiannol yw lle mae person yn mwynhau buddiannau perchenogaeth, er bod teitl yr ased yn cael ei ddal gan rywun arall, neu lle mae ganddo'r pŵer, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i bleidleisio neu ddylanwadu ar drafodyn mewn perthynas ag ased penodol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y person yn berchennog cyfreithiol a llesiannol.

2.8 Pan fydd anghydfod ynghylch perchenogaeth, rhaid i awdurdod lleol ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i brofi pwy yw'r perchennog pan fydd yn cael ei hystyried mewn asesiad ariannol. Os bydd person yn nodi ei fod yn dal cyfalaf ar ran rhywun arall, rhaid i'r awdurdod lleol gael tystiolaeth o'r trefniant, tarddiad y cyfalaf a sut y bwriedir ei ddefnyddio yn y dyfodol.

2.9 Pan fydd gan berson berchenogaeth lesiannol ar y cyd o gyfalaf, oni fydd tystiolaeth bod y person yn berchen ar gyfran anghyfartal, dylai cyfanswm ei gwerth gael ei rannu'n gyfartal rhwng y cyd-berchenogion a dylai'r person gael ei drin fel perchennog cyfran gyfartal. Unwaith bod ei gyfran wirioneddol yn unig feddiant y person, gellir ei drin fel perchennog y swm gwirioneddol hwnnw.

2.10 Mewn rhai achosion, gall person fod yn berchennog cyfreithiol eiddo, ond nid perchennog llesiannol eiddo. Hynny yw, nid oes ganddo unrhyw hawliau i enillion unrhyw werthiant. O dan amgylchiadau o'r fath ni ddylid ystyried yr eiddo.

·         Cyfrifo gwerth cyfalaf

2.11 Rhaid i awdurdod lleol gyfrifo gwerth ased cyfalaf er mwyn ei ystyried yn yr asesiad ariannol. Ac eithrio Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol, rhaid i brisiad fod yn hafal i werth cyfredol yr ased cyfalaf ar y farchnad neu werth ildio'r ased cyfalaf, e.e. o ran eiddo p'un bynnag sydd uchaf o ran gwerth ar y farchnad neu werth ildio llai:

(a) 10% o'r gwerth os bydd unrhyw dreuliau gwirioneddol yn gysylltiedig â gwerthu'r ased. Rhaid i'r rhain fod yn dreuliau sy'n gysylltiedig â'r gwerthiant gwirioneddol yn hytrach na gwireddu'r ased yn unig. Er enghraifft, nid yw cost tynnu arian o gyfrif banc yn rhan o dreuliau gwerthiant, ond byddai ffioedd cyfreithiol i werthu eiddo yn dreuliau; 

(b) unrhyw ddyledion sydd heb eu talu wedi'u sicrhau ar yr ased, er enghraifft morgais.

2.12 Gall fod gan ased cyfalaf werth cyfredol ar y farchnad, er enghraifft stociau a chyfrannau, neu werth ildio, er enghraifft bondiau premiwm. Y gwerth cyfredol ar y farchnad fydd y pris y byddai prynwr bodlon yn ei dalu i werthwr bodlon. Bydd y ffordd y cadarnheir y gwerth ar y farchnad yn dibynnu ar y math o ased a ddelir.

2.13 Os bydd y person a'r swyddog sy'n cynnal yr asesiad ariannol yn cytuno, ar ôl didynnu unrhyw ddyledion neu dreuliau sy'n gysylltiedig â chyfalaf person, fod cyfanswm y gwerth a amcangyfrifwyd yn fwy na'r terfyn cyfalaf (gweler paragraff 2.21) fel y bydd yn atebol i dalu cost lawn ei ofal a chymorth, yna ni fydd angen cael prisiad manwl gywir am hyn. Fodd bynnag, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch a yw hyn yn digwydd, dylid cael prisiad manwl gywir. Wrth ddilyn hyn dylai awdurdod lleol gadw mewn cof pa mor agos i'r terfyn cyfalaf y mae cyfanswm gwerth cyfalaf person wrth benderfynu a ddylid cael prisiad manwl gywir ai peidio.

2.14 Pan fydd angen prisiad manwl gywir, rhaid gofyn i brisiwr proffesiynol roi prisiad cyfredol ar y farchnad. Os caiff ased ei werthu wedyn, y gwerth cyfalaf i'w ystyried mewn asesiad ariannol yw'r swm gwirioneddol a wireddwyd o'r gwerthiant, llai unrhyw dreuliau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â'r gwerthiant, yn hytrach nag unrhyw brisiad blaenorol.

2.15 Pan fydd eiddo yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol a bod anghydfod ynghylch ei werth, dylid anelu at ddatrys hyn mor gyflym â phosibl. Dylai awdurdodau lleol geisio cael prisiad annibynnol o gyfran lesiannol y person yn yr eiddo o fewn y cyfnod diystyru o 12 wythnos (gweler paragraffau 3.10 i 3.11) pan fydd person wedi mynd i mewn i gartref gofal ar sail barhaol. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i gyfrifo pa ffioedd y dylai person eu talu, neu ddyfarnu a yw'n atebol i dalu costau llawn ei ofal cyn i'r diystyriad hwn ddod i ben.

2.16 Bydd gwerth Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol, Tystysgrifau Cynilion Ulster a Bondiau Premiwm yn cael eu hasesu yn yr un modd ag asedau cyfalaf eraill. Gellir cael prisiad o dystysgrifau cynilion drwy gysylltu â llinell gymorth NS&I. Ffordd arall o gadarnhau gwerth Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol yw drwy ddefnyddio tabl cyfrifo ar-lein NS&I. Er mwyn gallu cael gwerth cywir am y tystysgrifau cynilion rhaid i'r person ddarparu manylion:

• rhif(au) dyroddi'r tystysgrifau;

• y pris prynu; 

• y dyddiad prynu.

·         Asedau a ddelir dramor

2.17 Pan fydd cyfalaf wedi'i ddal dramor, a gall y cyfan ohono gael ei drosglwyddo i'r DU, rhaid cadarnhau ei werth yn y wlad arall a'i ystyried llai unrhyw ddidyniadau priodol oherwydd dyledion neu dreuliau sy'n gysylltiedig ag ef. Pan fydd cyfalaf wedi'i ddal ar y cyd, dylid ei drin yn yr un modd â chyfalaf sy'n cael ei ddal ar y cyd yn y DU.

2.18 Pan na ellir trosglwyddo'r cyfalaf yn gyfan gwbl i'r DU oherwydd rheolau'r wlad honno, er enghraifft cyfyngiadau arian cyfred, rhaid i'r awdurdod lleol ofyn am dystiolaeth sy'n cadarnhau'r ffaith hon. Gallai enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol gynnwys dogfennaeth gan fanc, un o swyddogion y Llywodraeth neu gyfreithiwr yn y wlad hon neu'r wlad lle y delir y cyfalaf.

2.19 Pan fydd rhai cyfyngiadau ar waith, rhaid i awdurdod lleol ofyn am dystiolaeth sy'n dangos beth yw'r ased, beth yw ei werth a deall natur a thelerau'r cyfyngiad fel y gellir ystyried y swm pe bai hyn yn newid. Dylai hefyd ystyried y gwerth y byddai prynwr bodlon yn ei dalu yn y DU am yr asedau hynny, ond dylai fod yn ymwybodol y gall fod yn llai na'r gwerth ar y farchnad neu'r gwerth ildio yn y wlad dramor.

·         Cyfalaf na ellir ei wireddu ar unwaith

2.20 Rhaid i gyfalaf na ellir ei wireddu ar unwaith oherwydd cyfnodau rhybudd, er enghraifft cyfrifon buddsoddi'r Banc Cynilion Cenedlaethol neu Fondiau Premiwm, gael ei ystyried yn y ffordd arferol yn ôl ei werth wyneb, sef y gwerth ar adeg yr asesiad ariannol. Efallai y bydd angen ei gadarnhau a'i addasu pan fydd y cyfalaf yn cael ei wireddu. Os bydd y person yn dewis peidio â rhyddhau'r cyfalaf, dylid defnyddio'r gwerth ar adeg yr asesiad a dylid ei ailasesu o bryd i'w gilydd yn y ffordd arferol.

·         Terfyn cyfalaf

2.21 Mae'r terfyn cyfalaf yn pennu cyfanswm gwerth cyfalaf person sy'n dyfarnu a yw:

·         yn atebol i dalu cost lawn ei ofal a chymorth mewn cartref gofal;

·        yn ofynnol iddo dalu'r uchafswm ffi wythnosol, cyfraniad neu ad-daliad (gweler prif gorff y cod i gael diffiniad o hyn) sy'n gymwys os yw'n cael gofal a chymorth yn ei gartref ei hun neu yn y gymuned, ar yr amod bod cost wythnosol ei ofal a chymorth ar neu uwchlaw lefel yr uchafswm ffi wythnosol.

2.22 Pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol, rhaid i awdurdod lleol gymhwyso'r terfyn cyfalaf. Pennir y terfyn cyfalaf yn rheoliadau 11 a 26 (Terfyn cyfalaf a Therfyn Cyfalaf – taliadau uniongyrchol) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.

2.23 Pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol, rhaid i unrhyw gyfalaf a ddelir gan berson ar neu islaw'r terfyn cyfalaf gael ei ddiystyru yn yr asesiad. Ni all unrhyw gyfalaf a ddelir gan berson ar neu islaw'r terfyn cyfalaf gael ei ddefnyddio i dalu am ei ofal a chymorth a aseswyd, a dylai'r person ei gadw i'w ddefnyddio fel y mynno.

·         Cyfalaf tybiannol

2.24 O dan rai amgylchiadau, gellir trin person fel petai'n berchen ar gyfalaf hyd yn oed pan nad yw'n berchen arno mewn gwirionedd. Gelwir hyn yn gyfalaf tybiannol.

2.25. Gall cyfalaf tybiannol fod yn gyfalaf:

(a) a fyddai ar gael i'r person pe bai'n gofyn amdano;

(b) a delir i drydydd parti mewn perthynas â'r person;

(c) y mae'r person wedi amddifadu ei hun ohono er mwyn lleihau swm ffi, cyfraniad neu ad-daliad, neu ddileu'r angen am hyn, y mae'n rhaid iddo ei thalu neu ei dalu am ei ofal a chymorth.

2.26 Felly dylai cyfalaf person fod yn gyfanswm cyfalaf gwirioneddol a thybiannol. Fodd bynnag, os bydd gan berson gyfalaf gwirioneddol uwchlaw'r terfyn cyfalaf, efallai na fydd angen ystyried cyfalaf tybiannol.

2.27 Pan aseswyd bod gan berson gyfalaf tybiannol, rhaid i werth hwn gael ei leihau dros amser. Y rheol yw y dylai gwerth cyfalaf tybiannol gael ei leihau'n wythnosol o'r gwahaniaeth rhwng y gyfradd wythnosol y mae'r person yn ei thalu am ei ofal a chymorth a'r gyfradd wythnosol y byddai wedi'i thalu pe na bai cyfalaf tybiannol yn gymwys.

·         Cyfalaf a ddiystyriwyd

2.28 Nodir y ffordd y trinnir cyfalaf a ddylai gael ei ystyried mewn asesiad ariannol yn Rhan 4 (Trin a chyfrifo cyfalaf) ac Atodlen 2 (Cyfalaf i'w ddiystyru) i'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau yn nodi'r cyfalaf canlynol a ddylai gael ei ddiystyru pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried:

(a) Eiddo o dan amgylchiadau penodol (gweler paragraff 3.1);

(b) Gwerth ildio:

(i) Polisi yswiriant bywyd;

(ii) Blwydd-dal.

(c) Taliadau o fonysau hyfforddi o hyd at £200;

(d) Taliadau mewn da gan elusen;

(e) Unrhyw eiddo personol megis paentiadau neu hen bethau, oni chawsant eu prynu gyda'r bwriad o leihau cyfalaf er mwyn osgoi ffioedd am ofal a chymorth;

(f) Unrhyw gyfalaf sydd i'w drin fel incwm neu fenthyciadau i fyfyrwyr;

(g) Unrhyw daliadau a all ddeillio o:

(i) Ymddiriedolaeth Macfarlane;

(ii) Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig);

(iii) Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliad Arbennig) (Rhif 2);

(iv) Sefydliad Caxton;

(v) Y Gronfa (taliadau i bobl nad ydynt yn hemoffiligion sydd wedi'u heintio â HIV);

(vi) Ymddiriedolaeth Eileen;

(vii) Ymddiriedolaeth MFET;

(viii) Y Gronfa Byw'n Annibynnol (2006);

(ix) Unrhyw swm a delir o dan neu gan Gynllun Byw'n Annibynnol Cymru;

(x) Cronfa Skipton;

(xi) Cronfa Elusennol Cymorth Ffrwydradau Llundain.

(h) Gwerth cronfeydd a ddelir mewn ymddiriedolaeth neu a weinyddir gan lys sy'n deillio o daliad oherwydd anaf personol i'r person. Er enghraifft, cronfeydd iawndal am niwed oherwydd brechlyn ac anafiadau troseddol;

(i) Gwerth hawl i dderbyn:

(i) Incwm o dan flwydd-dal;

(ii) Rhandaliadau sy'n weddill o dan gytundeb i ad-dalu swm cyfalaf;

(iii) Taliad o dan ymddiriedolaeth pan fydd yr arian yn deillio o anaf personol;

(iv) Incwm o dan fuddiant am oes neu rent am oes;

(v) Incwm (gan gynnwys enillion) sy'n daladwy mewn gwlad y tu allan i'r DU na ellir ei drosglwyddo i'r DU;

(vi) Pensiwn galwedigaethol;

(vii) Unrhyw rent (fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd yr incwm yn cael ei ddiystyru o reidrwydd. Gweler Atodiad B ynghylch trin incwm).

(j) Cyfalaf sy'n deillio o iawndal a ddyfarnwyd am anaf personol a weinyddir gan lys neu na ellir ei waredu ond drwy orchymyn neu gyfarwyddyd llys;

(k) Gwerth yr hawl i dderbyn unrhyw incwm o dan flwydd-dal a brynir yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn gan lys i wneud taliadau o ganlyniad i anaf personol neu o gronfeydd sy'n deillio o daliad o ganlyniad i anaf personol a gwerth ildio unrhyw flwydd-dal o'r fath;

(l) Taliadau cyfnodol o ganlyniad i anaf personol yn unol â gorchymyn neu gytundeb gan lys i'r graddau nad ydynt yn talu incwm ac y cânt eu trin fel incwm (a'u diystyru wrth gyfrifo incwm);

(m) Unrhyw daliad o'r Gronfa Gymdeithasol;

(n) Ad-daliad o dreth ar log ar fenthyciad a drefnwyd er mwyn caffael buddiant mewn cartref neu i atgyweirio neu wella'r cartref;

(o) Unrhyw adnoddau cyfalaf nad oes gan y person hawliau iddynt eto, ond a fydd yn dod i'w feddiant yn ddiweddarach, er enghraifft ar ôl cyraedd oedran penodol;

(p) Taliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddigolledu am golli hawliad i gael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Tai Atodol;

(q) Swm unrhyw ffioedd banc neu gomisiwn a delir i droi cyfalaf o arian cyfred tramor i sterling;

(r) Taliadau i reithwyr neu dystion am fynychu'r llys (ond nid iawndal am golli enillion neu fudd-dal);

(s) Ad-daliad y tâl cymunedol/taliadau cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

(t) Arian a adneuwyd â Chymdeithas Tai fel amod meddiannu annedd;

(u) Unrhyw Daliad Cynhaliaeth Plant;

(v) Gwerth taliadau ex-gratia a wnaed ar neu ar ôl 1af Chwefror 2001 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo person, priod neu bartner sifil person gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd;

(w) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (o dan adran 2(b)(b) neu 3 o'r Ddeddf hon);

(x) Gwerth unrhyw daliadau ex-gratia o Gronfa Skipton a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i bobl sydd wedi'u heintio â Hepatitis C o ganlyniad i'w trin â gwaed neu gynhyrchion gwaed gan y GIG;

(y) Taliadau a wneir o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd o gronfeydd a ddarparwyd gan yr  Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â phersonau sy'n dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob i'r dioddefwr neu ei bartner (ar adeg marwolaeth y dioddefwr);

(z) Unrhyw daliadau o dan Adrannau 2, 3 neu 7 o Ddeddf Taliadau ar sail Oedran 2004 neu Reoliadau Taliadau ar sail Oedran 2005 (OS Rhif 1983);

(aa) Unrhyw daliadau a wneir o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 i berson er mwyn talu am gostau gofal plant pan fydd yn ymgymryd â chyfarwyddyd mewn cysylltiad â'r gwasanaeth iechyd yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan yr adran honno;

(ab) Unrhyw daliad a wneir yn unol â rheoliadau o dan Adran 14F o Ddeddf Plant 1989 i breswylydd sy'n ddarpar warcheidwad arbennig neu'n warcheidwad arbennig, p'un a yw'n incwm neu'n gyfalaf.

·         Trin bondiau buddsoddi

2.29 Mae'r ffordd y trinnir bondiau buddsoddi mewn asesiad ariannol yn gymhleth oherwydd y cynhyrchion gwahanol sydd ar gael a'u trefniadau a'u dibenion gwahanol. Am y rheswm hwn dylai awdurdodau lleol geisio eu cyngor eu hunain ar briodoldeb ystyried y cyfalaf o gynnyrch penodol mewn asesiad.

2.30 Yn gyffredinol, gellid ystyried cyfalaf sy'n ymwneud â bondiau buddsoddi mewn asesiad ariannol. Dylai taliadau gwirioneddol o gyfalaf drwy randaliadau cyfnodol, gyda neu heb yswiriant, gael eu trin fel incwm (gweler Atodiad B ynghylch trin incwm), a hynny ar yr amod na fydd unrhyw daliadau sy'n weddill ar y diwrnod cyntaf y daw person yn atebol i dalu am ei ofal a chymorth a chyfanswm y rhandaliad sy'n weddill, ac unrhyw swm cyfalaf arall nas diystyrir yn yr asesiad ariannol, yn mynd y tu hwnt i'r terfyn cyfalaf (gweler paragraffau 2.21 i 2.23). 

2.31 Pan fydd bond buddsoddi yn cynnwys un elfen neu fwy o yswiriant bywyd sy'n cynnwys hawliau i'w droi'n arian parod fel opsiynau o ran ei ildio'n gyfan gwbl neu'n rhannol, yna dylai gwerth yr hawliau hynny gael eu diystyru fel ased cyfalaf pan fydd bondiau buddsoddi yn cael eu hystyried yn yr asesiad ariannol.

·         Cyfalaf a drinnir fel incwm

2.32 Os bydd gan berson hawl i gyfalaf sy'n daladwy drwy randaliadau dylai'r taliadau cyfalaf canlynol gael eu trin fel incwm mewn asesiad ariannol (gweler Atodiad B ynghylch trin incwm):

(a) Unrhyw daliad a wneir o dan flwydd-dal;

(b) Cyfalaf a delir drwy randdaliad lle mae cyfanswm:

(i) y rhandaliadau sydd heb eu casglu ar yr adeg y daw'r person yn atebol gyntaf i dalu am ei ofal a chymorth; a

(ii) swm y cyfalaf arall a ddelir gan y person sydd dros y terfyn cyfalaf (gweler paragraffau 2.21 i 2.23). Os yw ar neu islaw'r terfyn cyfalaf, dylai pob rhandaliad gael ei drin fel cyfalaf.

·         Incwm a drinnir fel cyfalaf

2.33 Dylai'r mathau canlynol o incwm gael eu trin fel cyfalaf pan gânt eu hystyried mewn asesiad ariannol:

 

(a) Ad-daliad unrhyw dreth incwm a godir ar elw busnes neu enillion enillwr cyflogedig;

(b) Unrhyw dâl gwyliau sy'n daladwy gan gyflogwr yn fwy na phedair wythnos ar ôl terfynu neu dorri cyflogaeth;

(c) Incwm sy'n deillio o ased cyfalaf. Er enghraifft, llog cymdeithas adeiladu neu ddifidendau o gyfrannau. Dylai hyn gael ei drin fel cyfalaf o'r dyddiad y mae'n ddyledus fel arfer i'r person;

(d) Unrhyw enillion a ragdelir neu fenthyciad a wneir i enillwr cyflogedig gan y cyflogwr os yw'r person yn dal i weithio, a hynny am nad yw'r taliad yn rhan o incwm rheolaidd cyflogai ac y gallai fod yn rhaid ei ad-dalu o bosibl;

(e) Unrhyw daliad gwobr a delir o leiaf unwaith y flwyddyn o gyflogaeth fel:

(i) Diffoddwr tân rhan amser;

(ii) Gwyliwr y glannau cynorthwyol;

(iii) Aelod rhan amser o griw bad achub;

(iv) Aelod o'r lluoedd tiriogaethol neu wrth gefn.

(f) Taliadau elusennol a gwirfoddol nad ydynt yn cael eu gwneud yn rheolaidd, ac na bwriedir eu gwneud yn rheolaidd, ar wahân i daliadau o ymddiriedolaethau AIDS. Bydd taliadau yn cynnwys y rhai hynny a wneir gan drydydd parti i'r person i'w helpu i dalu ôl-ddyledion ffioedd am lety preswyl;

(g) Unrhyw ôl-ddyledion cyfraniadau a ddelir gan awdurdod lleol i warcheidwad tuag at gost llety a chynnal plentyn.

·         Cyfalaf sydd ar gael ar gais

2.34 Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i berson wneud cais i gael gafael ar asedau cyfalaf ond nad yw wedi gwneud hynny eto. O dan amgylchiadau o'r fath dylid trin y cyfalaf hwn fel petai eisoes yn eiddo i'r person (gweler paragraffau 2.24 i 2.27 ynglŷn â chyfalaf tybiannol) ac eithrio yn yr achosion canlynol:

(a) Cyfalaf a ddelir mewn ymddiriedolaeth ddewisol;

(b) Cyfalaf a ddelir mewn ymddiriedolaeth sy'n deillio o daliad o ganlyniad i anaf personol;

(c) Cyfalaf sy'n deillio o iawndal a ddyfarnwyd am anaf personol a weinyddir gan lys;

(d) Unrhyw fenthyciad y gellid ei drefnu yn erbyn ased cyfalaf sy'n cael ei ddiystyru; er enghraifft ei gartref.

2.35 O ran dyfarnu a yw asedau cyfalaf eisoes yn eiddo i berson dylai awdurdod lleol wahaniaethu rhwng:

(a) Cyfalaf sydd eisoes yn eiddo i'r person ond y mae'n rhaid iddo wneud cais i gael gafael arno. Er enghraifft:

(i) Arian a ddelir gan gyfreithiwr y person;

(ii) Bondiau Premiwn;

(iii) Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol;

(iv) Arian a ddelir gan y Cofrestrydd mewn Llys Sirol a fydd yn cael ei ryddhau ar gais; 

(b) Cyfalaf nad yw'n eiddo i'r person a fydd yn dod yn eiddo iddo ar gais; er enghraifft swm a enillwyd o Fond Premiwm nad yw wedi'i hawlio. Dylid trin hwn fel cyfalaf tybiannol.

2.36 Pan fydd awdurdod lleol yn trin cyfalaf sydd ar gael ar gais fel cyfalaf tybiannol dim ond o'r dyddiad y gallai'r person ei gael y dylai wneud hynny.

 

Diystyru eiddo

3.1 O dan yr amgylchiadau canlynol rhaid i werth prif neu unig gartref y person gael ei ddiystyru pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol;

(a) Pan fydd y person yn derbyn gofal a chymorth amhreswyl gartref neu yn y gymuned;

(b) Pan fydd y person yn derbyn gofal a chymorth dros dro mewn cartref gofal a'i fod:

(i) yn bwriadu dychwelyd i'r eiddo hwnnw a bod yr eiddo hwnnw yn dal i fod ar gael iddo; neu

(ii) yn cymryd camau rhesymol i waredu'r eiddo er mwyn caffael eiddo mwy addas i ddychwelyd iddo.

(c) Pan fydd y person yn derbyn gofal a chymorth mewn cartref gofal ac nad yw'n byw yn ei brif ac unig gartref, ond ei fod wedi'i feddiannu'n rhannol neu'n gyfan gwbl fel eu prif gartref neu eu hunig gartref gan unrhyw rai o'r bobl a restrir isod, rhaid i'w werth gael ei ddiystyru mewn asesiad ariannol pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried. Dim ond pan fydd yr eiddo hwnnw wedi cael ei feddiannu'n ddidor ers cyn i'r person fynd i gartref gofal y mae hyn yn gymwys:

(i) partner, cyn-bartner neu bartner sifil y person, oni fyddant wedi ymddieithrio neu wedi ysgaru;

(ii) unig riant sydd â phlentyn dibynnol sy'n bartner wedi ymddieithrio neu bartner ysgâr y person;

(iii) perthynas (fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 3.2 isod) i'r person neu aelod o deulu'r person (fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 3.3) sydd:

(1) Yn 60 oed neu drosodd, neu

(2) Yn blentyn i'r preswylydd o dan 18 oed, neu

(3) Wedi'i analluogi.

3.2 At ddibenion y diystyriad hwn diffinnir perthynas fel rhywun sy'n cynnwys unrhyw un o'r canlynol:

(a) Rhiant (gan gynnwys rhiant mabwysiadol);

(b) Rhiant yng nghyfraith;

(c) Mab (gan gynnwys mab mabwysiadol);

(d) Mab yng nghyfraith;

(e) Merch (gan gynnwys merch fabwysiadol);

(f) Merch yng nghyfraith;

(g) Llys-riant;

(h) Llysfab;

(i) Llysferch;

(j) Brawd;

(k) Chwaer;

(l) Taid neu nain;

(m) Ŵyr neu wyres;

(n) Ewythr;

(o) Modryb;

(p) Nai;

(q) Nith;

(r) Priod, partner sifil neu bartner dibriod a i k yn gynwysedig.

3.3 Diffinnir aelod o "deulu" y person fel rhywun sy'n byw gyda'r perthynas cymhwysol fel rhan o gwpl dibriod, yn briod ag ef/hi neu mewn partneriaeth sifil ag ef/hi.

3.4 At ddibenion y distyriad hwn nid yw ystyr "wedi'i analluogi" wedi'i ddiffinio'n fanwl. Fodd bynnag, bydd yn rhesymol dod i'r casgliad bod perthynas wedi'i analluogi os yw'r naill amod ganlynol neu'r llall yn gymwys:

(a) mae'r perthynas yn cael un (neu fwy) o'r budd-daliadau lles canlynol: budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol, lwfans byw i'r anabl, taliadau annibyniaeth bersonol, taliadau annibyniaeth y lluoedd arfog, lwfans gweini, lwfans gweini cyson, neu fudd-dal tebyg; neu

(b) nid yw'r perthynas yn cael unrhyw fudd-dal ar sail anabledd ond mae graddau ei analluogrwydd yn cyfateb i'r hyn sy'n ofynnol i fod yn gymwys i gael budd-dal o'r fath. Efallai y bydd angen tystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall ar hyn cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch a ddylid cymhwyso hyn.

3.5 At ddiben y diystyriad hwn o ran eiddo, nid yw ystyr "meddiannu" wedi'i ddiffinio'n fanwl. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn amlwg p'un a yw'r eiddo wedi'i feddiannu gan berthynas cymhwysol fel ei brif gartref neu ei unig gartref ai peidio. Fodd bynnag, bydd rhai achosion lle na fydd hyn yn amlwg a dylai'r awdurdod lleol gynnal ymchwiliad ffeithiol sy'n pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol er mwyn gwneud penderfyniad. Nid yw ymlyniad emosiynol at yr eiddo ar ei ben ei hun yn ddigon i'r diystyriad fod yn gymwys.

3.6 Gallai amgylchiadau pan na fydd yn glir o bosibl gynnwys pan fydd yn rhaid i berthynas cymhwysol fyw mewn man arall am reswm penodol; er enghraifft at ddibenion ei gyflogaeth neu am ei fod yn bwrw dedfryd yn y carchar. Tra bydd yn byw mewn man arall er mwyn ymgymryd â'i gyflogaeth, neu fwrw ei ddedfryd, yr eiddo fydd ei brif gartref neu ei unig gartref o hyd. Ni fyddai'n rhesymol ystyried ei lety dros dro fel prif gartref neu unig gartref y person gan ei bod yn ddigon posibl ei fod yn bwriadu dychwelyd i'r eiddo dan sylw yn y dyfodol. O dan amgylchiadau o'r fath mae'r perthynas cymhwysol yn y bôn yn meddiannu'r eiddo ond nid yw'n bresennol yn gorfforol.

·         Diystyru yn ôl disgresiwn

3.7 Caiff awdurdod lleol hefyd arfer ei ddisgresiwn i gymhwyso diystyriad eiddo mewn perthynas â'r rhai sydd mewn gofal preswyl o dan amgylchiadau eraill. Fodd bynnag, bydd angen i'r awdurdod lleol gydbwyso'r disgresiwn hwn â sicrhau nad yw asedau person yn cael eu cynnal ar draul y cyhoedd. Un enghraifft lle y gall fod yn briodol cymhwyso diystyriad yn ôl disgresiwn yw os mai unig breswylfa rhywun sydd wedi cael gwared ar ei gartref ei hun er mwyn dod yn ofalwr y person sydd bellach mewn cartref gofal ydyw, neu sy'n gydymaith i'r person.

3.8 Caiff eiddo ei ddiystyru pan fydd perthynas cymhwysol yn symud i'r eiddo ar ôl i'r preswylydd fynd i mewn i gartref gofal. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried yr holl ffactorau perthnasol wrth benderfynu a ddylid diystyru'r eiddo. Caiff ffactorau megis amseriad a diben y symud fod yn berthnasol o ran cadarnhau a yw'r eiddo yn brif gartref neu'n unig gartref y perthynas. Diben y diystyriad o dan yr amgylchiadau hyn yw diogelu rhai categorïau o bobl rhag y risg o fynd yn ddigartref.

3.9 Dylai'r awdurdod lleol ystyried ai'r prif reswm dros symud yw bod angen sicrhau bod gan y perthynas rywle i fyw fel ei brif gartref neu ei unig gartref. Ni fyddai diystyriad yn briodol, er enghraifft, pan fydd person yn symud i mewn i eiddo er mwyn gwarchod etifeddiaeth y teulu yn unig. Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau nad yw pobl yn cael cymorth ariannol yn amhriodol ar draul y cyhoedd.

·         Diystyriad eiddo o 12 wythnos

3.10 Un o egwyddorion allweddol y fframwaith codi ffioedd yw peidio â'i gwneud yn ofynnol i bobl orfod gwerthu eu cartref ar unwaith ar ôl mynd i mewn i gartref gofal pan fydd y mwyafrif llethol o'u hasedau cyfalaf ynghlwm wrth eu heiddo, a hynny er mwyn rhoi amser iddynt wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i dalu am gostau eu cartref gofal. Felly, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol, os bydd eiddo yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol, i beidio ag ystyried gwerth prif gartref neu unig gartref person am y 12 wythnos gyntaf pan fydd gwerth unrhyw gyfalaf arall sydd ganddo islaw'r terfyn cyfalaf. Rhaid i'r diystyriad hwn gael ei gymhwyso:

(a) pan fydd yn mynd i mewn i gartref gofal fel preswylydd parhaol (neu wedyn yn mynd i mewn ar ôl arhosiad o lai na 12 wythnos fel y byddai'n cael yr hyn sy'n weddill o'r 12 wythnos fel diystyriad arall);

(b) pan ddaw diystyriad eiddo sy'n seiliedig ar berthynas cymhwysol i ben yn annisgwyl am fod y perthynas cymhwysol wedi marw neu wedi symud i gartref gofal.

3.11 Hefyd, mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i ddewis cymhwyso'r diystyriad o 12 wythnos pan fydd newid sydyn ac annisgwyl yn amgylchiadau ariannol y person. Wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, bydd yr awdurdod lleol am ystyried amgylchiadau unigol yr achos. Gallai amgylchiadau o'r fath gynnwys gostyngiad ym mhrisiau cyfrannau neu ddyled annisgwyl.

·         Diystyriad o 26 wythnos

3.12 Pan fydd cyfalaf yn cael ei ystyried mewn asesiad ariannol, rhaid i'r asedau cyfalaf canlynol gael eu diystyru am o leiaf 26 wythnos. Fodd bynnag, caiff awdurdod lleol ddewis cymhwyso'r diystyriad am gyfnod hwy pan fydd o'r farn bod hyn yn briodol. Er enghraifft, pan fydd person yn cymryd camau cyfreithiol i feddiannu mangre fel ei gartref, ond bod y prosesau cyfreithiol yn cymryd mwy na 26 wythnos i'w cwblhau.

(a) Asedau unrhyw fusnes o dan berchenogaeth neu berchenogaeth rannol y person a oedd yn weithiwr hunangyflogedig ynddo ac sydd wedi rhoi'r gorau i weithio oherwydd cyflwr meddygol neu nam ond sy'n bwriadu dechrau gweithio eto pan fydd yn ddigon heini i wneud hynny. Pan fydd y person mewn cartref gofal, dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad yr aeth i mewn i'r cartref gofal yn gyntaf;

 (b) Arian a gaffaelwyd yn benodol i atgyweirio neu adnewyddu cartref neu eiddo personol y person cyhyd ag y bydd yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad y cafwyd yr arian;

(c) Mangre y mae'r person yn bwriadu ei feddiannu fel ei gartref pan fydd wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol i'w gael yn ei feddiant. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad y ceisiwyd cyngor cyfreithiol yn gyntaf neu'r dyddiad y dechreuwyd cymryd camau cyfreithiol yn gyntaf;

(d) Mangre y mae'r person yn bwriadu ei feddiannu fel ei gartref lle y bydd angen gwaith atgyweirio neu addasu. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad y mae'r person yn cymryd camau i ymgymryd â'r gwaith atgyweirio;

(e) Cyfalaf a dderbyniwyd o werthiant hen gartref pan fydd y person yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu cartref arall. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad y cwblheir y gwerthiant;

(f) Arian a adneuwyd â Chymdeithas Tai y mae'r person yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu cartref arall. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad yr adneuwyd yr arian;

(g) Grant a wnaed o dan Ddeddf Tai y mae'r person yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu cartref neu dalu am waith atgyweirio er mwyn ei gwneud yn bosibl i breswylio yn y cartref. Dylai hyn gael ei gymhwyso o'r dyddiad y derbyniwyd y grant.

·         Diystyriad o 52 wythnos

3.13 Rhaid i'r taliadau canlynol o gyfalaf gael eu diystyru am hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y'u derbynnir pan ystyrir cyfalaf mewn asesiad ariannol:

(a) Ôl-ddyledion sydd eto i'w talu, neu unrhyw iawndal sy'n daladwy oherwydd, peidio â thalu:

(i) Atodiad symudedd;

(ii) Lwfans Gweini;

(iii) Lwfans Gweini Cyson;

(iv) Lwfans Byw i'r Anabl / Taliad Annibyniaeth Bersonol;

(v) Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol;

(vi) Lwfans Galwedigaethol Anabledd Difrifol;

(vii) Pensiwn gwasanaeth y lluoedd arfog sy'n seiliedig ar angen am weini;

(viii) Pensiwn o dan y Cynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983, sy'n seiliedig ar yr angen am weini;

(ix) Cymhorthdal Incwm/Credyd Pensiwn;

(x) Gwarant Isafswm Incwm;

(xi) Credyd Treth Gwaith;

(xii) Credyd Treth Plant;

(xiii) Budd-dal Tai;

(xiv) Credyd Cynhwysol;

(xv) Taliadau arbennig i wragedd gweddw cyn 1973.

(b) Taliadau neu ad-daliadau am:

(i) Sbectol y GIG, triniaeth ddeintyddol neu dreuliau teithio'r claf;

(ii) Swm arian parod sy'n cyfateb i laeth a fitaminau am ddim;

(iii) Treuliau mewn cysylltiad ag ymweliadau â'r carchar.

(c) Taliadau Anaf Personol.

3.14. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ddiystyru taliadau a wneir o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd o gronfeydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â vCJD i:

(a) Aelod o deulu'r dioddefwr am ddwy flynedd o'r dyddiad y bu farw'r dioddefwr (neu ddyddiad taliad o'r ymddiriedolaeth os yw'n ddiweddarach); neu

(b) Plentyn neu berson ifanc dibynnol nes y byddant yn 18 oed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad B - Trin Incwm

 

Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

 

• Trin incwm wrth gynnal asesiad ariannol. Fe'i rhennir yn:

• Cartrefi gofal;

• Pob math arall o ofal a chymorth;

 

Cyffredinol

1.1. Mae'r atodiad hwn i'r cod yn gymwys pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu arfer ei ddisgresiwn o dan adran 59 (Pŵer i osod ffioedd) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") i godi ffi ar berson am y gofal a chymorth y mae'n ei ddarparu neu ei drefnu, neu o dan adran 50 (Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn) neu adran 52 (Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr) o'r Ddeddf wrth bennu cyfraniad neu ad-daliad mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol. O ganlyniad, mae dyletswydd arno o dan adrannau 50, 52 a 63 (Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) o'r Ddeddf i gynnal asesiad ariannol o foddion byw'r person. Felly rhaid iddo gynnal asesiad o'r fath ac wrth wneud hynny, rhaid iddo asesu incwm a chyfalaf y person.

1.2 Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â thrin incwm a dyld ei ddarllen ar y cyd ag Atodiad A ynghylch trin cyfalaf. Nodir manylion y mathau o incwm y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried mewn asesiad ariannol, a sut y dylid trin y rhain yn yr asesiad, yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau"). Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn gofynion y Rheoliadau a'r atodiad hwn mewn perthynas ag incwm person wrth gynnal asesiad ariannol. Maent yn gymwys yn yr un modd lle y cynhelir asesiad i ystyried ffi am ofal a chymorth a ddarperir, neu a drefnir gan awdurdod lleol a lle mae cyfraniad neu ad-daliad yn cael ei ystyried mewn perthynas â darparu taliadau uniongyrchol er mwyn galluogi'r sawl sy'n eu derbyn i sicrhau ei ofal a chymorth ei hun. 

1.3. Ceir gwahaniaethau o ran y ffordd y trinnir incwm wrth gynnal asesiad ariannol i'r rhai mewn cartref gofal a'r rhai sy'n derbyn mathau eraill o ofal a chymorth. Mae'r adrannau canlynol yn nodi'r materion cyffredin sy'n gymwys i'r ddau ac yna unrhyw faterion penodol sy'n unigryw i'r naill neu'r llall.

Materion cyffredin

2.1. Mae'r adran ganlynol yn nodi'r materion sy'n gyffredin o ran trin incwm mewn asesiad ariannol.

2.2. Dim ond incwm y person a asesir y gellir ei ystyried yn yr asesiad ariannol o'r hyn y gall fforddio ei dalu. Pan fydd y person hwn yn cael incwm fel un o gwpl, y dybiaeth i ddechrau yw bod pob person yn cael cyfran gyfartal o'r incwm hwnnw. Fodd bynnag, gall awdurdod lleol asesu incwm cwpl ond dim ond pan fydd hyn yn fwy manteisiol yn ariannol i'r person a asesir. Rhaid i awdurdod lleol ond asesu incwm cyplau o dan yr amgylchiadau hyn.

2.3. Rhaid i incwm a ystyrir fod yn glir o unrhyw dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

2.4. Pan fydd awdurdodau lleol yn penderfynu arfer eu disgresiwn i godi ffi, dylai incwm gael ei ystyried bob amser oni bai ei fod yn cael ei ddiystyru o dan y Rheoliadau. Bydd incwm a ddiystyrir naill ai:

(a) Yn cael ei ddiystyru'n rhannol; neu

(b) Yn cael ei ddiystyru'n llawn.

·         Enillion

2.5 Ym mhob achos rhaid i enillion fel enillwr cyflogedig neu enillwr hunangyflogedig, fel y'u diffiniwyd yn rheoliad 14 (Enillion i'w diystyru) o'r Rheoliadau, gael eu diystyru'n llawn pan ystyrir incwm.

2.6 Mae enillion mewn perthynas ag enillwr cyflogedig y cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth neu elw o gyflogaeth. Bydd hyn yn cynnwys:

(a) unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b) unrhyw daliad yn lle cydnabyddiaeth ac eithrio unrhyw swm a delir i'r person o bryd i'w gilydd am i'w gyflogaeth gael ei therfynu oherwydd dileu swydd;

(c) unrhyw daliadau yn lle rhybudd neu unrhyw gyfandaliad y bwriedir iddo fod yn iawndal am golli cyflogaeth ond dim ond i'r graddau y mae'n gyfystyr â cholli incwm;

(b) unrhyw dâl gwyliau ac eithrio unrhyw dâl gwyliau sy'n daladwy yn fwy na phedair wythnos ar ôl terfynu neu dorri cyflogaeth;

(e) unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f) unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y person mewn perthynas ag unrhyw dreuliau nad aethpwyd iddynt yn gyfan gwbl, yn gyfyngedig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr mewn perthynas â threuliau teithio y mae'r person yn mynd iddynt rhwng ei gartref a'r man cyflogaeth a threuliau y mae'r person yn mynd iddynt o dan drefniadau a wneir ar gyfer gofal aelod o deulu'r person am fod y person yn absennol o'i gartref;

(g) unrhyw iawndal a ddyfarnwyd o dan adran 112(4) neu 117(3)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (rhwymedïau ac iawndal am ddiswyddo annheg);

(h) unrhyw gyfryw swm fel y cyfeirir ato yn adran 112 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (bydd symiau penodol yn enillion at ddibenion nawdd cymdeithasol);

(i) unrhyw dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol neu dâl mabwysiadu statudol, neu daliad cyfatebol o dan unrhyw ddeddfiad sy'n weithredol yng Ngogledd Iwerddon;

(j) unrhyw gydnabyddiaeth a delir gan neu ar ran cyflogwr i'r person sydd am y tro yn absennol oherwydd absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu neu sy'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch;

(k) swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a ystyriwyd wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001.

2.7 Nid yw enillion mewn perthynas ag enillwr cyflogedig yn cynnwys:

(a) unrhyw daliad mewn da, ac eithrio unrhyw daleb anariannol a ystyriwyd wrth gyfrifo enillion y person (fel y cyfeirir ato uchod);

(b) unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr mewn perthynas ag unrhyw dreuliau yr aethpwyd iddynt yn gyfan gwbl, yn gyfyngedig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau cyflogaeth;

(c) unrhyw bensiwn galwedigaethol/personol.

2.8. Ystyr enillion yn achos cyflogaeth fel enillwr cyflogedig yw derbyniadau gros y gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw lwfans a delir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (yr Alban) 1990 i'r person er mwyn cynorthwyo'r person i barhau â'i fusnes.

2.9 Nid yw enillion yn achos cyflogaeth fel enillwr cyflogedig yn cynnwys.

(a) unrhyw daliad i'r person ar ffurf ffi am fwyd a llety a ddarperir gan y person;

(b) unrhyw wobr chwaraeon.

2.10 Mae enillion hefyd yn cynnwys unrhyw daliad a roddir i bobl yn yr ystad ddiogel er mwyn annog a gwobrwyo eu cyfranogiad adeiladol yn nhrefniadau'r sefydliad lle maent yn cael eu cadw'n gaeth. Caiff hyn gynnwys taliad am weithio, addysg neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig eraill.

·         Budd-daliadau lles

2.11 Mae awdurdodau lleol yn gallu ystyried y rhan fwyaf o fudd-daliadau lles y mae pobl yn eu cael mewn asesiad ariannol. Nodir y rhai hynny y mae'n rhaid iddynt eu diystyru yn y Rheoliadau ond tynnir sylw atynt isod er hwylustod. Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod pobl yn cadw digon o'u budd-daliadau, yn ychwanegol at yr isafswm incwm gwarantedig (y nodir manylion yn ei gylch yn ddiweddarach yn yr atodiad hwn) i dalu am bethau i ddiwallu eu hanghenion nad ydynt yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol.

2.12 Rhaid i unrhyw incwm o'r budd-daliadau lles a'r ffynonellau canlynol gael eu diystyru'n llawn:

(a) Taliadau Uniongyrchol;

(b) Taliadau Incwm Gwarantedig a wneir i Gyn-filwyr o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog;

(c) Elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl;

(d) Elfen symudedd Taliadau Annibyniaeth Bersonol;

(e) Credyd Treth Gwaith.

 2.13 Dylai unrhyw incwm o'r budd-daliadau canlynol gael eu hystyried yn llawn neu'n rhannol wrth ystyried yr hyn y gall person fforddio ei dalu tuag at gost ei ofal a chymorth.

(a) Lwfans Gweini, gan gynnwys Lwfans Gweini Cyson a Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol;

(b) Lwfans Profedigaeth;

(c) Lwfans Gofalwr;

(d) Lwfans Byw i'r Anabl (elfen Gofal);

(e) Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu'r budd-daliadau y mae hwn yn eu disodli megis

Lwfans Anabledd Difrifol a Budd-dal Anuallogrwydd;

 

(f) Cymhorthdal Incwm;

(g) Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu fudd-daliadau cyfatebol;

(h) Lwfans Ceisio Gwaith;

(i) Lwfans Mamolaeth;

(j) Credyd Pensiwn;

(k) Taliad Annibyniaeth Bersonol (elfen Bywyd Beunyddiol);

(l) Pensiwn y Wladwriaeth;

(m) Credyd Cynhwysol.

2.14 Pan fydd taliad unrhyw fudd-dal lles wedi cael ei ostwng (heblaw am ostyngiad oherwydd diweithdra gwirfoddol), er enghraifft oherwydd gordaliad cynharach, dylai unrhyw swm a ystyrir fod yn swm gros y budd-dal cyn y gostyngiad.

·         Blwydd-dal, pensiwn ac incwm bondiau buddsoddi

2.15 Math o gynnyrch pensiwn yw blwydd-dal, sy'n darparu incwm rheolaidd am nifer o flynyddoedd yn gyfnewid am fuddsoddiad. Mae cynhyrchion o'r fath yn cael eu prynu fel arfer ar adeg ymddeol er mwyn darparu incwm rheolaidd. Er bod y cyfalaf yn cael ei ddiystyru, caiff unrhyw incwm o flwydd-dal ei ystyried yn llawn:

(a) oni chaiff ei brynu gyda benthyciad sydd wedi'i sicrhau ar brif gartref neu unig gartref y person; neu

(b) dyfarndal am ddewrder megis Blwydd-dal Croes Fictoria neu Flwydd-dal Croes Siôr.

2.16 I'r rhai sydd wedi prynu blwydd-dal gyda benthyciad sydd wedi'i sicrhau ar eu prif gartref neu eu hunig gartref, gelwir hyn yn 'gynllun incwm cartref'. O dan y cynlluniau hyn, mae person wedi prynu'r blwydd-dal yn erbyn gwerth ei gartref, yn debyg i Gytundeb Taliadau Gohiriedig.

2.17 Pan fydd person mewn cartref gofal a'i fod yn talu hanner gwerth ei bensiwn galwedigaethol, ei bensiwn personol neu ei flwydd-dal ymddeol i'w briod neu ei bartner sifil, rhaid i'r awdurdod lleol ddiystyru 50% o'i werth pan fydd yn ystyried blwydd-dal.

2.18 Er mwyn bod yn gymwys i gael y diystyriad, rhaid bod un o dderbynyddion y blwydd-dal yn dal i feddiannu'r eiddo fel ei brif gartref neu ei unig gartref. Caiff hyn ddigwydd pan fydd cwpl wedi prynu blwydd-dal ar y cyd ac mai dim ond un ohonynt sydd wedi symud i gartref gofal. Os nad felly y mae, nid oes angen cymhwyso'r diystyriad.

2.19 Pan fydd y diystyriad yn cael ei gymhwyso, dim ond yr agweddau canlynol y gellir eu diystyru:

(a) y llog wythnosol net ar y benthyciad lle y gellir didynnu'r dreth incwm o'r llog; neu

(b) y llog wythnosol gros ar y benthyciad mewn unrhyw achos arall.

2.20 Cyn cymhwyso'r diystyriad, rhaid i'r amodau canlynol gael eu bodloni:

(a) Rhaid bod y benthyciad wedi'i wneud fel rhan o gynllun a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i 90% o leiaf o'r benthyciad hwnnw gael ei ddefnyddio i brynu'r blwydd-dal;

(b) Daw'r blwydd-dal i ben gyda bywyd y person a gafodd y benthyciad, neu lle mae dau neu fwy yn derbyn y blwydd-dal (gan gynnwys y person a gafodd y benthyciad), gyda bywyd y derbynnydd olaf sydd wedi goroesi;

(c) Mae'r person a gafodd y benthyciad neu un o dderbynyddion eraill y blwydd-dal yn atebol i dalu llog ar y benthyciad;

(d) Rhaid bod y person a gafodd y benthyciad (neu bob un o'r derbynyddion lle mae mwy nag un) wedi cyrraedd 65 oed ar adeg gwneud y benthyciad;

(e) Cafodd y benthyciad ei sicrhau ar eiddo ym Mhrydain Fawr ac mae'r person a gafodd y benthyciad (neu un o dderbynyddion eraill y blwydd-dal) yn berchen ar ystad neu fuddiant yn yr eiddo hwnnw; 

(f) Mae'r person a gafodd y benthyciad neu un o dderbynyddion eraill y blwydd-dal yn meddiannu'r eiddo fel ei brif neu ei unig gartref ar adeg y telir y llog.

2.21 Pan fydd y person yn defnyddio rhan o'r incwm i ad-dalu'r benthyciad, rhaid i'r swm a delir fel llog gael ei ddiystyru. Os yw'r taliadau y mae'r person yn eu gwneud ar y benthyciad yn rhai llog yn unig a bod y person yn gymwys i gael rhyddhad treth ar y llog a delir ganddo, diystyrir y llog net. Fel arall, diystyrir y llog gros.

2.22 Daeth diwygiadau i bensiynau cyfraniadau diffiniedig i rym o fis Ebrill 2015. Nod y diwygiadau oedd rhoi mwy o hyblygrwydd i bobl o ran y ffordd y maent yn ariannu eu bywyd diweddarach. Arweiniodd hyn at newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio arian yn eu cronfa bensiwn. Y rheolau ynglŷn â sut i asesu incwm pensiwn er mwyn codi ffi yw:

(a) Os yw person wedi symud yr arian ac wedi'i roi mewn cynnyrch arall neu gyfrif cynilion, dylid ei drin yn unol â'r rheolau ar gyfer y cynnyrch hwnnw;

(b) Os yw person ond yn tynnu incwm bach, yna gall awdurdod lleol gymhwyso incwm tybiannol yn hytrach nag incwm a dynnwyd, yn unol â'r uchafswm incwm y gellid ei dynnu o dan gynnyrch blwydd-dal. Os cymhwysir uchafswm incwm tybiannol, rhaid i'r incwm gwirioneddol gael ei ddiystyru er mwyn osgoi cyfrif dwbl;

(c) Os yw person yn hawlio incwm sy'n uwch na'r uchafswm sydd ar gael o dan gynnyrch blwydd-dal, dylai'r incwm gwirioneddol a hawliwyd gael ei ystyried.

2.23 Mae'r ffordd y trinnir bondiau buddsoddi mewn asesiad ariannol yn gymhleth oherwydd y cynhyrchion gwahanol sydd ar gael a'u trefniadau a'u dibenion gwahanol. Am y rheswm hwn dylai awdurdodau lleol geisio eu cyngor eu hunain ar briodoldeb ystyried yr incwm o gynnyrch penodol mewn asesiad.

2.24 Yn gyffredinol, gellid ystyried incwm o fondiau buddsoddi (gyda neu heb aswiriant bywyd) mewn asesiad ariannol. Mae taliadau gwirioneddol o gyfalaf a wneir drwy randaliadau cyfnodol, gyda neu heb aswiriant, yn cael eu trin fel incwm a'u hystyried, a hynny ar yr amod na fydd unrhyw daliadau'n weddill ar y diwrnod cyntaf y daw person yn atebol i dalu am ei ofal a chymorth a chyfanswm y rhandaliad sy'n weddill, ac unrhyw swm cyfalaf arall nas diystyrir yn yr asesiad ariannol, yn mynd y tu hwnt i'r terfyn ariannol (gweler Atodiad A ynghylch trin cyfalaf). 

·         Polisïau yswiriant diogelu morgais

2.25 Gellir ystyried unrhyw incwm o bolisi yswiriant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys yn achos polisïau diogelu morgais. Digwydd hyn lle mae polisi yn cael ei drefnu i yswirio rhag y risg na ellir gwneud ad-daliadau ar fenthyciad neu i ddiogelu'r premiymau sy'n daladwy ar bolisi gwaddol lle mae'r polisi wedi'i ddal fel sicrwydd am fenthyciad. Rhaid i'r incwm o'r polisïau hyn gael ei ddiystyru lle y bwriedir i'r benthyciad yn benodol helpu'r person i gaffael neu gadw buddiant yn ei brif gartref neu ei unig gartref, neu ei helpu i atgyweirio neu wella ei brif gartref neu ei unig gartref, ac mae'r incwm yn cael ei ddefnyddio i dalu'r ad-daliadau ar y benthyciad.

2.26 Y swm o incwm o bolisi yswiriant diogelu morgais y mae'n rhaid ei ddiystyru o dan yr amgylchiadau hyn yw swm wythnosol:

(a) Y swm sy'n cwmpasu'r llog ar y benthyciad; a

(b) Swm yr ad-daliad a ostyngodd y cyfalaf sy'n weddill; a

(c) Swm y premiwm sy'n ddyledus ar y polisi.

2.27 Dylid cofio y galai fod angen addasu unrhyw daliadau Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn y mae person yn eu derbyn er mwyn ystyried yr incwm o bolisi o'r fath, felly lle y caiff y rhain eu hystyried, dylai hyn gynnwys unrhyw gyfryw addasiad.

·         Incwm arall y mae'n rhaid ei ddiystyru'n llawn

2.28 Rhaid i unrhyw incwm o'r ffynonellau canlynol gael ei ddiystyru'n llawn mewn asesiad ariannol:

(a) Taliadau Annibyniaeth ac Atodiad Symudedd y Lluoedd Arfog;

(b) Taliadau Cymhorthdal Cynnal Plant a Budd-dal Plant;

(c) Credyd Treth Plant;

(d) Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor lle mae hyn yn cynnwys taliad i'r person;

(e) Lwfans Byw i'r Anabledd (Elfen Symudedd) ac Atodiad Symudedd;

(f) Bonws Nadolig;

(g) Cynnydd oherwydd dibyniaeth a delir gyda budd-daliadau penodol;

(h) Ymddiriedolaeth Ddewisol;

(i) Dyfarndaliadau oherwydd Dewrder;

(j) Lwfans Gwarcheidwad;

(k) Taliadau Incwm Gwarantedig a wneir i Gyn-filwyr o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog;

(l) Incwm sydd wedi'i rewi dramor;

(m) Incwm mewn da;

(n) Taliadau Nadolig i Bensiynwyr;

(o) Taliad Annibyniaeth Bersonol (Elfen Symudedd) ac Atodiad Symudedd;

(p) Ymddiriedolaeth anaf personol, gan gynnwys y rhai a weinyddir gan Lys;

(q) Budd-dal adsefydlu;

(r) Diystyriad credyd cynilion;

(s) Taliadau'r Gronfa Gymdeithasol (gan gynnwys taliadau tanwydd gaeaf);

(t) Taliadau arbennig i wragedd gweddw a gŵyr gweddw rhyfel;

(u) Unrhyw daliadau a dderbynnir fel deiliad Croes Fictoria, Croes Siôr neu fedalau cyfatebol;

(v) Unrhyw grantiau neu fenthyciadau a delir at ddibenion addysg;

(w) Taliadau a wneir mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth;

(x) Unrhyw daliad o'r canlynol:

(i) Ymddiriedolaeth Macfarlane;

(ii) Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig);

(iii) Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliad Arbennig) (Rhif 2);

(iv) Sefydliad Caxton;

(v) Y Gronfa (taliadau i bobl nad ydynt yn hemoffiligion sydd wedi'u heintio â HIV);

(vi) Ymddiriedolaeth Eileen;

(vii) MFET Cyfyngedig;

(viii) Cronfa Byw'n Annibynnol (2006);

(ix) Unrhyw swm a delir o dan neu gan Gynllun Byw'n Annibynnol Cymru;

(x) Cronfa Skipton;

(xi) Cronfa Elusennol Cymorth Ffrwydriadau Llundain.

·         Taliadau elusennol a gwirfoddol

2.29 Nid yw taliadau elusennol yn cael eu gwneud gan elusen gydnabyddedig o reidrwydd, ond gallent gael eu rhoi oherwydd cymhellion elusennol. Bydd angen ystyried amgylchiadau unigol y taliad cyn penderfynu a ddylid diystyru taliadau o'r fath. Yn gyffredinol, mae taliad elusennol neu wirfoddol nad yw'n cael ei wneud yn rheolaidd yn cael ei drin fel cyfalaf.

2.30 Rhaid i daliadau elusennol a gwirfoddol a wneir yn rheolaidd gael eu diystyru'n llawn.

·         Incwm a ddiystyrir yn rhannol

2.31 Rhaid i'r incwm canlynol gael ei ddiystyru'n rhannol:

(a) £10 gyntaf yr wythnos o bensiwn Gwragedd Gweddw a Gŵyr Gweddw Rhyfel, goroeswyr Taliadau Incwm Gwarantedig o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, pensiwn Anaf Rhyfel i Sifiliaid a thaliadau i ddioddefwyr erledigaeth Sosialaidd Genedlaethol (a delir o dan gyfraith yr Almaen neu Awstria); a £25 gyntaf yr wythnos o Bensiwn Anabledd Rhyfel

(b) Diystyru cynilion yn seiliedig ar incwm cymhwyso. Pan fydd person yn cael incwm cymhwyso sy'n llai na swm penodol yr wythnos ni fydd diystyriad oherwydd cynilion ond pan fydd person yn cael incwm cymhwyso rhwng lefelau penodol rhaid i ddiystyriad penodol oherwydd cynilion gael ei gymhwyso. Nodir lefelau'r incwm cymhwyso a'r cynilion sydd i'w diystyru yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm) i'r Rheoliadau.

·         Incwm tybiannol

2.32 O dan rai amgylchiadau, gellir trin person fel petai ganddo incwm nad oes ganddo mewn gwirionedd. Gelwir hyn yn incwm tybiannol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, incwm a fyddai ar gael ar gais ond na wnaed cais amdano, incwm sy'n daladwy ond nad yw wedi cael ei dderbyn, neu incwm y mae'r person wedi amddifadu ei hun ohono'n fwriadol er mwyn lleihau'r swm y mae'n atebol i'w dalu am ei ofal a chymorth. Ymhob achos pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu ystyried incwm tybiannol rhaid iddo fodloni ei hun y byddai'r incwm wedi bod ar gael i'r person neu y dylai'r incwm fod wedi bod ar gael i'r person.

2.33 Dylid hefyd gymhwyso incwm tybiannol pan fydd person sydd wedi cyrraedd oedran ymddeol a bod ganddo gynllun pensiwn personol ond nad yw wedi prynu blwydd-dal nac wedi trefnu i hawlio'r uchafswm incwm blwydd-dal cyfatebol a fyddai ar gael o dan y cynllun. O dan yr amgylchiadau hyn dylid cymhwyso incwm tybiannol. Gellir cael amcangyfrifon o'r incwm tybiannol yn yr achos hwn gan ddarparwr y pensiwn neu o amcangyfrifon a ddarperir gan Adran Actiwari Llywodraeth y DU.

2.34 Pan fydd incwm tybiannol yn cael ei gynnwys mewn asesiad ariannol, rhaid iddo gael ei drin yn yr un ffordd ag incwm gwirioneddol. Felly dylai unrhyw incwm a gâi ei ddiystyru fel arfer barhau i gael ei ddiystyru.

2.35 Dylid cyfrifo incwm tybiannol o'r dyddiad y gellid disgwyl iddo gael ei gaffael pe gwneid cais. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol dybio i'r cais gael ei wneud pan ddaeth yn ymwybodol gyntaf o'r posibilrwydd ac ystyried unrhyw derfynau amser a gaiff gyfyngu ar y cyfnod o ôl-ddyledion.

2.36 Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau a rhaid peidio â thrin y ffynonellau canlynol o incwm fel incwm tybiannol:

(a) Incwm sy'n daladwy o dan ymddiriedolaeth ddewisol;

(b) Incwm sy'n daladwy o dan ymddiriedolaeth sy'n deillio o daliad a wneir o ganlyniad i anaf personol pan fyddai'r incwm ar gael ond na wnaed cais amdano eto;

(c) Incwm o gyfalaf o ganlyniad i iawndal a ddyfarnwyd am anaf personol a weinyddir gan lys;

(d) Pensiwn galwedigaethol nad yw'n cael ei dalu oherwydd:

(i) Mae ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun wedi atal taliadau dros dro neu wedi'u peidio oherwydd adnoddau annigonnol; neu

(ii) Nid oes gan ymddiriedolwyr na rheolwyr y cynllun adnoddau digonol ar gael iddynt fodloni rhwymedigaethau'r cynllun yn llawn.

(e) Credyd Treth Gwaith.

·         Gwariant cysylltiedig ag anabledd

2.37 Pan ystyrir budd-daliadau cysylltiedig ag anabledd, dylai'r awdurdod lleol gynnal asesiad a chaniatáu i'r person gadw digon o'r budd-daliadau i dalu am wariant cysylltiedig ag anabledd sy'n angenrheidiol i ddiwallu unrhyw anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol.

2.38 Mewn perthynas â chodi ffi am ofal a chymorth amhreswyl rhaid i awdurdodau lleol gynnwys yn eu hisafswm incwm ar gyfer y person y codir ffi arno (gweler paragraff 4.2 a 4.3) o leiaf 10% o'i "hawlogaeth sylfaenol" i fudd-dal lles perthnasol fel lwfans ar gyfer gwariant cysylltiedig ag anabledd. Nodir union fanylion hyn yn rheoliadau 12 a 27 (Isafswm incwm i berson a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 ("Rheoliadau Gosod Ffioedd"). Mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i ddarparu ar gyfer mwy na'r lefel hon pe dewisent, megis diystyru lefel uwch o wariant anabledd yn seiliedig ar eitemau penodol o wariant sydd gan berson neu'n seiliedig ar wariant penodol sydd ei angen i ddiwallu ei anghenion fel y'u nodwyd yng nghynllun gofal a chymorth person.

2.39 Wrth ystyried pa wariant cysylltiedig ag anabledd i'w gynnwys mewn unrhyw lefel uwch o ddiystyru gwariant gan awdurdodau lleol, caiff awdurdodau ystyried y rhestr ganlynol o enghreifftiau. Ni fwriedir i'r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr ond bwriedir iddi ddangos y mathau o wariant y bydd awdurdodau am eu cynnwys o bosibl. Hefyd, mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i ddarparu ar gyfer diystyru gwariant cysylltiedig ag anabledd wrth gynnal asesiad ariannol mewn perthynas â chodi ffi am ofal a chymorth preswyl. Wrth ystyried y rhestr hon, felly, efallai y bydd awdurdodau hefyd am ystyried p'un a ddylent weithredu unrhyw rai o'r rhain mewn perthynas â chodi ffi am ofal preswyl, yn enwedig pan nad yw eitemau o'r fath wedi'u cwmpasu o fewn pecyn gofal preswyl person y cytunwyd arno:

(a) Taliad am unrhyw system larwm gymunedol;

(b) Costau unrhyw wasanaethau gofal a drefnwyd yn breifat sydd eu hangen, gan gynnwys gofal seibiant;

(c) Costau unrhyw eitemau arbenigol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cyflwr meddygol neu anabledd y person, er enghraifft:

i. Gofal dydd neu nos a drefnwyd yn breifat;

ii. powdrau golchi arbenigol neu ofynion golchi dillad;

iii. costau ychwanegol anghenion deietegol arbennig oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd (gellir gofyn i'r person am ganiatâd i gysylltu â'i feddyg teulu os oes amheuaeth);

iv. dillad neu esgidiau arbennig, er enghraifft, pan fydd angen eu gwneud yn arbennig; neu draul ychwanegol i ddillad ac esgidiau a achosir gan gyflwr meddygol neu anabledd;

v. costau ychwanegol dillad gwely, er enghraifft, oherwydd anymataliaeth;

vi. unrhyw gostau gwresogi ychwanegol, neu gostau dŵr mesuredig, oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd;

vii. costau rhesymol unrhyw waith cynnal a chadw gardd sylfaenol a drefnwyd yn breifat, glanhau, neu gymorth yn y tŷ, os oes ei angen oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd yr unigolyn;

viii. prynu, cynnal a chadw, ac atgyweirio cyfarpar cysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys cyfarpar neu gludiant sydd ei angen i ddechrau gweithio neu barhau i weithio, os oes ei angen oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd y person. Gallai hyn gynnwys costau TG a chostau llogi cyfarpar rhesymol os oes rhaid aros am gyflenwad o gyfarpar newydd;

ix. costau cynorthwyydd personol, gan gynnwys unrhyw gostau tŷ neu gostau angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'i gyflogaeth.

x. mynediad i'r rhyngrwyd, er enghraifft, y rhai sydd â nam ar eu golwg er mwyn eu helpu i gyfathrebu;

xi. costau cludiant oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd sy'n ychwanegol at elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Bersonol, pan dderbynnir y rhain a'u bod ar gael ar gyfer y costau hyn. Mewn rhai achosion efallai y bydd yn rhesymol i awdurdod beidio ag ystyried costau cludiant os oes dull cludiant addas, rhatach ar gael, er enghraifft, cludiant a ddarperir gan awdurdod i ganolfan ddydd ond nad yw wedi'i ddefnyddio.

2.40 Wrth ystyried yr uchod, efallai y bydd yn rhesymol i awdurdod lleol beidio â chaniatáu ar gyfer eitemau pan fydd dewis amgen rhesymol ar gael am lai o gost. Er enghraifft, gallai awdurdod fabwysiadu polisi o beidio â chaniatáu ar gyfer cost prynu padiau anymataliaeth yn breifat, pan fydd y rhain ar gael gan y GIG am ddim.

Cartrefi gofal

3.1 Mae'r adrannau canlynol ond yn gymwys i asesiadau ariannol mewn perthynas â'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth mewn cartref gofal.

·         Isafswm incwm

3.2 Wrth gynnal asesiad ariannol rhaid i awdurdod lleol adael isafswm incwm i'r person. Nodir y swm hwn yn rheoliadau 13 ac 28 (Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd. Caiff unrhyw beth uwchlaw hwn ei ystyried wrth ddyfarnu ffioedd yn unol â gofynion y Rheoliadau hynny a'r cod ymarfer hwn.

3.3 Nid budd-dal yw isafswm incwm ond swm incwm y person ei hun y mae'n rhaid gadael iddo ei gadw ar ôl i ffioedd gael eu didynnu. Pan na fydd gan berson unrhyw incwm, nid yw'r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu un. Fodd bynnag, dylai'r awdurdod lleol helpu'r person i gael gafael ar unrhyw fudd-daliadau lles perthnasol y mae ganddo hawl iddynt o bosibl neu unrhyw wasanaeth eiriolaeth annibynnol sydd ar gael i'w helpu i gael gafael ar fudd-daliadau o'r fath.

3.4 Diben yr isafswm incwm yw sicrhau bod gan berson rywfaint o arian yn weddill ar ôl cyfrannu at gost ei ofal a chymorth er mwyn ei wario fel y mynno. Rhaid iddo beidio â chael ei ddefnyddio i dalu am unrhyw agwedd ar ei ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd gan yr awdurdod lleol, neu y bwriedir ei ddarparu drwy daliadau uniongyrchol, er mwyn diwallu anghenion cymwys person. Mae'r swm hwn i'r person ei wario fel y mynno a rhaid i awdurdod lleol beidio â rhoi pwysau ar berson i wario ei isafswm incwm mewn ffordd benodol.

3.5 Efallai y bydd rhai amgylchiadau lle na fyddai'n briodol i'r awdurdod lleol adael isafswm incwm yn unig i berson. Er enghraifft:

(a) Pan fydd gan berson blentyn dibynnol dylai'r awdurdod lleol ystyried anghenion y plentyn wrth ddyfarnu faint o incwm y dylid ei adael i berson ar ôl codi ffioedd. Mae hyn yn gymwys p'un a yw'r plentyn yn byw gyda'r person ai peidio;

b) Pan fydd person yn talu hanner ei bensiwn galwedigaethol neu bersonol neu ei flwydd-dal ymddeol i briod neu bartner sifil nad yw'n byw yn yr un cartref gofal, rhaid i'r awdurdod lleol ddiystyru'r arian hwn. Nid yw hyn yn gymwys o reidrwydd i gyplau dibriod ond efallai y bydd yr awdurdod lleol am arfer ei ddisgresiwn mewn achosion unigol i wneud hynny;

(c) Pan fydd person mewn cartref gofal dros dro a'i fod yn un o gwpl (p'un a ydynt yn briod ai peidio) rhaid i'r awdurdod lleol ddiystyru unrhyw Gymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn a ddyfernir i dalu am ymrwymiadau'r cartref a dylai ystyried anghenion y person gartref wrth bennu'r isafswm incwm. Dylai hefyd ystyried diystyru costau eraill sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw cartref y cwpl (gweler isod);

(d) Pan fydd eiddo person wedi cael ei ddiystyru rhaid i'r awdurdod lleol ystyried a yw'r isafswm incwm yn ddigonol i alluogi'r person i dalu unrhyw gostau canlyniadol. Er enghraifft, dylid ystyried lwfansau ar gyfer taliadau sefydlog (megis morgeisi, rhent a'r dreth gyngor), yswiriant adeiladu, costau cyfleustodau (gan gynnwys costau gwresogi sylfaenol yn ystod y gaeaf) a chostau cynnal a chadw eiddo rhesymol;

(e) Pan fydd person yn ariannu ei ofal preswyl ei hun a bod ganddo gytundeb taliadau gohiriedig ar waith (gweler Atodiad D ynghylch Cytundebau Taliadau Gohiriedig), rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y person yn cadw adnoddau digonol i gynnal a chadw ac yswirio'r eiddo yn unol â'r warant isafswm priodol a ddefnyddir yn y cytundebau hynny.

Gofal a chymorth amhreswyl

4.1 Mae'r adrannau canlynol ond yn gymwys i asesiadau ariannol mewn perthynas â'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth amhreswyl.

·         Isafswm incwm

4.2 Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau nad yw incwm person yn cael ei ostwng islaw lefel benodol ar ôl i ffioedd gael eu didynnu am ofal a chymorth amhreswyl. Cyfeirir at hyn fel yr isafswm incwm a rhaid iddo fod o leiaf yn hafal i werth ei "hawlogaeth sylfaenol" i fudd-dal lles perthnasol ynghyd ag isafswm "clustog" o 35% o hyn. Nodir union fanylion hyn yn rheoliadau 12 a 27 (Isafswm incwm i berson a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd. Fel y'i nodir ym mharagraff 2.38 rhaid i'r isafswm incwm hwn hefyd gynnwys o leiaf 10% arall o "hawlogaeth sylfaenol" person i fudd-dal lles perthnasol er mwyn caniatáu ar gyfer gwariant cysylltiedig ag anabledd. Gofynion sylfaenol yw'r symiau hyn o'r isafswm incwm ac mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i bennu lefelau uwch naill ai o'r "glustog", y lwfans cysylltiedig ag anabledd, neu'r ddau os dymunant.

4.3 Diben yr isafswm incwm yw hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol a sicrhau bod gan bobl ddigon o arian ar ôl i ffioedd gael eu codi i dalu am gostau anghenion sylfaenol ar wahan i'w gofal a chymorth, megis bwyd, costau cyfleustodau neu yswiriant.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad C  - Dewis o Lety a Chostau Ychwanegol 

 

Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

 

• Y dewis o lety wrth drefnu gofal a chymorth mewn cartref gofal

• Cost ychwanegol am lety sy'n cael ei ffafrio mewn cartref gofal penodol

Cyffredinol

1.1 Mae gallu person i wneud dewis deallus ynglŷn â sut y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu yn elfen allweddol o'r system gofal a chymorth. Rhaid i hyn ymestyn i sefyllfa lle mae'r broses o asesu gofal a chymorth wedi dyfarnu mai'r ffordd orau o ddiwallu anghenion person yw drwy fyw mewn math penodol o lety.  

1.2. Bydd y broses o asesu gofal a chymorth wedi dyfarnu pa fath o lety a fydd yn diwallu anghenion y person orau. Os mai cartref gofal ydyw, yn ddarostyngedig i amodau penodol bydd gan y person yr hawl i ddewis y llety y mae'n ei ffafrio (megis y llety penodol y mae'n dymuno byw ynddo neu leoliad y llety yr hoffai fyw ynddo). Rhaid i Reoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau") a wnaed o dan adran 57 (Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf") a'r Atodiad hwn gael eu cymhwyso wrth fodloni'r dewis hwnnw. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ystyried yr egwyddorion canlynol:

• cyfleu gwybodaeth a chyngor clir yn dda i'r rhai y mae angen llety mewn cartref gofal arnynt fel y gallant wneud penderfyniadau deallus iawn ynghylch dewis eu cartref pe baent yn dymuno gwneud hynny;

• dull gweithredu cyson er mwyn sicrhau dewis gwirioneddol;

• trefniadau clir a thryloyw ar gyfer bodloni dewis pan fydd yn cael ei fynegi ac unrhyw gost ychwanegol a all godi o fynegi dewis penodol;

• dealltwriaeth glir o'r goblygiadau posibl pe bai taliad cost ychwanegol yn methu, gyda strategaethau ymadael clir; 

• sicrhau bod unrhyw ddewis a fynegir ac sy'n cael ei fodloni yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y person a nodwyd.

1.3. Rhaid i awdurdodau lleol gofio bod y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod ymarfer hwn yn gymwys yn yr un modd i'r rhai sy'n cael gofal preswyl am y tro cyntaf, y rhai sydd eisoes wedi cael eu lle gan awdurdod lleol a'r rhai sydd wedi ariannu eu gofal preswyl eu hunain ond y mae angen cymorth awdurdod lleol arnynt am fod eu hadnoddau ariannol wedi lleihau o'r herwydd. 

Dewis o Lety

2.1. Pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu diwallu anghenion gofal a chymorth person o dan adrannau 35 i 38 (Diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a phlant) o'r Ddeddf, a bod anghenion y person hwnnw wedi cael eu hasesu a bod angen llety mewn cartref gofal arno, rhaid i'r person gael yr hawl i fynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal o'i ddewis ar yr amod:

• bod y cartref gofal yn addas i ddiwallu anghenion asesedig y person;

• ni fyddai gwneud hynny yn costio mwy i'r awdurdod na'r swm y byddai'n disgwyl ei dalu fel arfer am lety o'r fath;

• bod lle ar gael yn y cartref gofal; 

• bod darparwr y cartref gofal yn barod i ymrwymo i gontract â'r awdurdod lleol i ddarparu'r llety yn unol â thelerau ac amodau'r awdurdod lleol.

2.2. Rhaid i'r dewis hwn beidio â chael ei gyfyngu i'r cartrefi gofal hynny neu'r darparwyr unigol hynny y mae gan yr awdurdod lleol gontractau â hwy eisoes neu y mae'n gweithredu â hwy eisoes, na'r rhai sydd o fewn ffin ddaearyddol yr awdurdod lleol hwnnw. Rhaid iddo fod yn ddewis gwirioneddol i'r person o blith y llety cartref gofal priodol sydd ar gael.

2.3. Os bydd person yn dewis cael lle mewn cartref gofal sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol o hyd drefnu'r llety y mae'n ei ffafrio cyhyd ag y bydd yr amodau a restrir uchod yn 2.1 yn cael eu bodloni.  Mewn cysylltiad â hyn rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y rheoliadau a'r cod ymarfer ar breswylfa arferol a gyhoeddir mewn cysylltiad ag adran 194 (Preswylfa arferol) o'r Ddeddf.

Addasrwydd Llety

3.1. Wrth arfer dewis, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y llety cartref gofal y mae'r person yn mynegi ei fod yn ei ffafrio yn addas i ddiwallu ei anghenion asesedig a'r canlyniadau llesiant a nodwyd iddo ac a gadarnhawyd fel rhan o'r broses o asesu gofal a chymorth. Wrth wneud hyn, rhaid i awdurdodau ystyried unrhyw nam neu anghenion synhwyraidd penodol sydd gan berson, er mwyn sicrhau bod gan y llety a ddewisir gyfleusterau priodol neu wasanaethau arbenigol i ddiwallu'r rhain.

3.2. Fel rhan o'r broses o asesu gofal a chymorth, gall pobl fynegi'r math o lety y maent yn ei ffafrio lle y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu orau.  Mae'r broses hon yn ystyried anghenion a dewisiadau'r person. Ar ôl cytuno mai cartref gofal fydd y math o lety, y dewis o lety yw rhwng cartrefi gofal gwahanol a lleoliadau gwahanol, yn hytrach na mathau gwahanol o leoliadau preswyl. Ni all person arfer yr hawl i ddewis o lety drwy ddewis math arall o lety pan nododd yr asesiad gofal a chymorth mai mewn cartref gofal o fath penodol y bydd ei anghenion asesedig yn cael eu diwallu orau.

Cost

4.1. Pan fydd awdurdod lleol yn trefnu i anghenion person gael eu diwallu drwy ddarparu llety mewn cartref gofal o fath penodol, p'un a fydd person wedi mynegi dewis ynglŷn â hyn ai peidio, rhaid iddo ystyried amgylchiadau lle y bydd angen addasu'r gost i'r awdurdod lleol o wneud hyn er mwyn sicrhau y bydd anghenion yn cael eu diwallu. Er enghraifft, efallai y bydd gan berson ofynion deietegol neu ofynion synhwyraidd penodol na ellir eu diwallu ond mewn cartrefi gofal penodol. Ym mhob achos, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried cost wirioneddol gofal o ansawdd da i ddiwallu anghenion person er mwyn sicrhau y gall y lle yn y cartref gofal ddiwallu eu hanghenion asesedig mewn gwirionedd.  Fel y cyfryw, rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod symiau mympwyol na therfynau uchaf am fathau penodol o lety nad ydynt yn adlewyrchu anghenion gwirioneddol y person sy'n cael lle. 

4.2. Rhaid peidio â gofyn i berson dalu cost ychwanegol tuag at gost darparu'r math o lety mewn cartref gofal i ddiwallu ei anghenion asesedig.  Er mwyn sicrhau ei fod yn cael dewis gwirioneddol ynglŷn â hyn rhaid i awdurdod lleol gynnig mwy nag un opsiwn i berson ddewis o'u plith o fewn ei swm safonol am ofal preswyl. Pan na fydd unrhyw lety addas ar gael am ei swm safonol i ddiwallu anghenion asesedig person yn llawn, rhaid i awdurdod lleol drefnu lleoliad addas drutach ac addasu ei ariannu yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu. O dan amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gofyn i'r person sy'n cael lle na thrydydd parti dalu'r gost ychwanegol. Dim ond pan fydd person wedi dewis cartref gofal sy'n wirioneddol ddrutach nag y byddai awdurdod lleol fel arfer yn ei dalu am le mewn cartref gofal o'r fath, neu pan fydd person wedi gofyn am wasanaethau neu gyfleusterau nad ydynt yn rhan o'i anghenion asesedig, y gellir gofyn am gost ychwanegol (gweler "cost ychwanegol" isod).

Argaeledd

5.1. Yn gyffredinol, rhaid i awdurdod lleol osgoi sefyllfa lle mae person yn gorfod aros i'w hanghenion asesedig gael eu diwallu. Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai na fydd modd osgoi arhosiad byr, yn enwedig pan fydd person wedi dewis cartref gofal penodol sy'n addas ond nad yw ar gael ar unwaith.  Gall hyn gynnwys rhoi trefniadau dros dro ar waith, gan ystyried dewisiadau ac anghenion y person, a sicrhau ei gytundeb i'r rhain, gan gynnwys rhoi'r person ar restr aros am y cartref gofal o'i ddewis y mae'n ei ffafrio. Fodd bynnag, dylid cofio y gall trefniadau o'r fath wneud i'r person deimlo'n anesmwyth a rhaid eu hosgoi lle bynnag y bo modd.

5.2. Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod gofal a chymorth priodol yn cael ei ddarparu dros dro a dylai nodi faint o amser y gall y trefniant dros dro barhau. Wrth wneud unrhyw drefniadau dros dro, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth glir yn ysgrifenedig i'r person ynglŷn â manylion y trefniadau fel rhan o'i gynllun gofal a chymorth. Dylai o leiaf gynnwys faint o amser y bydd y trefniadau yn debygol o barhau a gwybodaeth am y ffordd y mae'r rhestr aros am y cartref gofal y mae'n ei ffafrio yn gweithredu, ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth arall a all fod yn berthnasol. Os bydd unrhyw drefniadau dros dro yn para am fwy na 12 wythnos, rhaid i'r person gael ei ailasesu er mwyn sicrhau y gall y trefniadau dros dro a'r opsiwn a ffefrir ddiwallu anghenion y person o hyd a'u bod yn parhau i fod yn ddewis ganddo.

5.3. Pan fydd lle ar gael wedyn yn y cartref gofal a ddewiswyd gan berson rhaid ei gynnig iddo heb oedi lle mae'n dal yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mewn rhai achosion, efallai y bydd person yn penderfynu ei fod am aros yn y lleoliad dros dro, hyd yn oed os bydd y llety y mae'n ei ffafrio ar gael wedyn. Os gall y cartref gofal lle mae'n aros dros dro gynnig lle ar sail barhaol dylai hyn gael ei drefnu a dylai enw'r person gael ei dynnu oddi ar ei restr aros. Cyn gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod lleol egluro'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â chael lle yn y llety ar sail barhaol, gan gynnwys unrhyw gost ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r lle parhaol.

Dewis na ellir ei fodloni a gwrthod trefniadau

6.1. Er bod yn rhaid i awdurdod lleol wneud popeth o fewn ei allu i fodloni dewis person am gartref gofal penodol, yn anochel, bydd rhai achosion lle na ellir bodloni dewis, er enghraifft os nad oes gan y darparwr ddigon o le i'r person. Mewn achosion o'r fath, rhaid i awdurdod lleol yn unol â rheoliad 5 (Gwrthod darparu llety sy'n cael ei ffafrio) o'r Rheoliadau nodi'n ysgrifenedig na all fodloni'r dewis hwnnw. Rhaid iddo hefyd gynnig dewisiadau amgen addas i'r person fel y gall benderfynu pa gartref gofal addas y dylai gael lle ynddo yn lle hynny.

6.2. Rhaid i awdurdod lleol wneud popeth o fewn ei allu i ystyried amgylchiadau a dewisiadau person wrth drefnu ei le mewn cartref gofal. Fodd bynnag, ym mhob achos ond ychydig iawn, megis pan fydd person yn cael ei roi o dan warcheidiaeth o dan Adran 7 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, mae gan berson yr hawl i wrthod mynd i mewn i gartref gofal boed hynny ar sail dros dro neu barhaol. Pan fydd person yn gwrthod y trefniadau'n afresymol, mae gan awdurdod lleol yr hawl i ystyried ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd statudol i ddiwallu anghenion a gall wedyn hysbysu'r person yn ysgrifenedig bod angen iddo wneud ei drefniadau ei hun o ganlyniad i hynny. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid cymryd y cam hwn a rhaid i awdurdod lleol ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu yn y fath fodd, i'r awdurdod ei hun ac i'r person dan sylw. Os bydd y person yn cysylltu â'r awdurdod lleol eto yn ddiweddarach, rhaid i'r awdurdod lleol ailasesu ei anghenion fel y bo angen ac ystyried y ffordd orau o ddiwallu'r rhain.

Telerau ac amodau cytundebol

7.1. Wrth roi person mewn cartref gofal o'i ddewis, rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod amodau caeth nac afresymol mewn trefniadau cytundebol â'r cartref gofal fel modd i osgoi neu rwystro'r trefniant ac osgoi bodloni dewis y person o lety. Mae hyn yn cynnwys sefyllfa lle y bydd angen o bosibl i'r awdurdod lleol ymrwymo i gontract â darparwr nad oes ganddo gytundeb ag ef ar y pryd. Pan fydd hyn yn digwydd, dylai sicrhau bod yr amodau cytundebol yn debyg yn fras i'r rhai y byddai'n eu negodi ag unrhyw ddarparwr arall tra'n ystyried yr amgylchiadau unigol. 

 

Cost Ychwanegol

8.1 Mewn rhai achosion, gall person ddewis cartref gofal sy'n ddrutach na'r hyn y byddai'r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl talu amdano i ddarparu'r llety o'r math hwnnw i'r person hwnnw. Pan fydd y person wedi dewis cartref gofal sy'n ddrutach, bydd angen gwneud trefniant ynglŷn â sut y bwriedir talu am y gwahaniaeth mewn costau. Gelwir hyn yn "gost ychwanegol", sef y gwahaniaeth rhwng y swm y byddai awdurdod lleol fel arfer yn ei dalu am lety cartref gofal o'r math hwnnw i'r person a chost wirioneddol y cartref gofal a ddewiswyd. Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol drefnu i'r person gael lle yn ei ddewis lety, ar yr amod bod trydydd parti, neu o dan amgylchiadau penodol, y person y mae angen llety arno, yn barod i dalu'r gost ychwanegol ac yn gallu gwneud hynny. Os nad felly y mae, yna o dan reoliad 3 (Amodau ar gyfer darparu llety sy'n cael ei ffafrio) o'r Rheoliadau gall awdurdod lleol wrthod darparu'r llety a ddewiswyd.  

8.2 Pan fydd person yn cael lle mewn cartref gofal drutach, a hynny dim ond am na allai'r awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer llety o'r fath am ei gost arferol, rhaid i'r awdurdod lleol dalu'r gwahaniaeth mewn costau ei hun. Yna byddai'r person yn cyfrannu tuag at hyn yn unol â chanlyniad ei asesiad ariannol. Rhaid i'r trefniant cost ychwanegol beidio â chael ei gymhwyso o dan amgylchiadau o'r fath.

8.3. Pan fydd person wedi dewis llety sy'n ddrutach, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y person yn deall goblygiadau llawn y dewis hwn, gan gofio bod pobl yn aml yn mynd i mewn i ofal preswyl mewn argyfwng. Rhaid i'r ddealltwriaeth hon ymestyn i'r ffaith y bydd angen i drydydd parti, neu o dan amgylchiadau penodol, y person y mae angen llety arno, dalu cost ychwanegol y llety hwnnw dros gyfnod arhosiad y person ac os na fydd y gost ychwanegol yn cael ei thalu, efallai y bydd angen i'r person symud i gartref gofal amgen.

8.4. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y person yn barod i dalu'r gost ychwanegol ac yn gallu ei thalu dros gyfnod tebygol y trefniant, gan gydnabod y gall hwn bara am beth amser i'r dyfodol. Er mwyn cadarnhau hyn byddai'n arfer da i awdurdod lleol ofyn i'r person a fydd yn talu'r gost ychwanegol roi prawf o'i allu ariannol i wneud hyn, megis tystiolaeth o'i gyflog neu ei gynilion.    

8.5 Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y person sy'n talu'r gost ychwanegol yn ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig ag ef, gan gytuno i dalu'r gost honno. Rhaid i'r cytundeb, o leiaf, gynnwys y wybodaeth sy'n ofynnol yn rheoliad 4 (Yr amod cost ychwanegol) o'r Rheoliadau. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth megis y swm i'w dalu, amlder y taliadau, effaith codiad yn swm y taliadau a'r hyn sy'n digwydd os na fydd y gost ychwanegol yn cael ei thalu. 

8.6. Cyn ymrwymo i'r cytundeb, rhaid i'r awdurdod lleol roi mynediad i wybodaeth a chyngor digonol i'r person sy'n talu'r gost ychwanegol er mwyn sicrhau ei fod yn deall y telerau ac amodau, gan gynnwys y ffaith y bydd y person am ystyried cael gwybodaeth a chyngor ariannol annibynnol o bosibl. Nodir manylion pellach am bob un o'r pwyntiau hyn isod.

·         Y swm i'w dalu

8.7. Swm y gost ychwanegol fydd y gwahaniaeth rhwng cost ychwanegol y llety sy'n cael ei ffafrio a'r swm y byddai'r awdurdod lleol fel arfer yn ei dalu i ddiwallu anghenion asesedig y person drwy ddarparu llety mewn cartref gofal o'r un math. Wrth ystyried cost gofal yn ei ardal, bydd yr awdurdod lleol yn debygol o fod wedi nodi ystod o gostau sy'n gymwys i amgylchiadau a lleoliadau gwahanol. Er mwyn cytuno ar gost ychwanegol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried yr hyn y byddai wedi'i dalu am lety o'r un math â'r llety a ddewiswyd ar yr adeg y mae ei angen. Ni ddylai droi'n awtomatig at y gyfradd rataf nac i unrhyw ffigur mympwyol arall.

·         Amlder y taliadau

8.8 Wrth gytuno ar unrhyw drefniant cost ychwanegol, rhaid i'r awdurdod lleol nodi'n glir pa mor aml y bydd angen i daliadau o'r fath gael eu gwneud, e.e. yn wythnosol neu'n fisol ac i bwy y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

·         Cyfrifoldeb am daliadau cost ychwanegol a threfniadau talu  

8.9 Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gost lawn unrhyw le preswyl y maent yn ei drefnu. O ganlyniad, wrth ymrwymo i gontract â chartref gofal sy'n ddrutach na'r swm y byddai'r awdurdod lleol fel arfer yn ei dalu am le mewn cartref o'r fath, mae'n gyfrifol am gyfanswm cost y lle hwnnw gan gynnwys y gost ychwanegol. Golyga hyn, os bydd y trefniadau i dalu'r gost ychwanegol yn chwalu, er enghraifft os bydd y person sy'n gwneud y taliad yn rhoi'r gorau i wneud y rhain, mai'r awdurdod lleol wedyn sy'n gyfrifol am gost lawn y llety drutach nes ei fod yn gwneud trefniadau amgen i'r gost ychwanegol yr eir iddi yn y dyfodol gael ei thalu, neu wneud trefniadau amgen i ddiwallu anghenion llety'r person.

8.10  Wrth sicrhau'r arian sydd ei angen i dalu cyfanswm cost y llety drutach, gan gynnwys y taliad cost ychwanegol, mae gan awdurdod lleol ddau opsiwn, oni fydd lle yn cael ei ariannu drwy gytundeb taliadau gohiriedig (os felly, gweler Atodiad D ynghylch cytundebau taliadau gohiriedig).  Wrth ddewis pa opsiwn i'w ffafrio bydd angen i awdurdod lleol ystyried amgylchiadau unigol yr achos, a dylai fod yn gallu sicrhau ei hun bod y trefniadau'n ddiogel. Pa opsiwn bynnag a ddewisir ganddo, erys yr awdurdod lleol yn gyfrifol am y cyfanswm. Yr opsiynau yw:

• cytuno â'r person sy'n talu'r gost ychwanegol, a darparwr y llety, y bydd y taliad hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'r darparwr gan y person hwnnw gyda'r awdurdod lleol yn talu'r gweddill ar wahân. Dylid hysbysu'r person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu o'r trefniant hwn. neu

• mae'r person sy'n talu'r gost ychwanegol yn ei thalu i'r awdurdod lleol. Yna bydd yr awdurdod lleol yn talu'r swm llawn am y llety i'r darparwr.

8.11 Wrth benderfynu pa opsiwn i'w ddewis ar gyfer talu costau ychwanegol, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried y goblygiadau ymarferol iddynt o ran gweithredu'r naill neu'r llall a'u gallu i sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud o dan y naill neu'r llall. O ystyried mai awdurdodau yn y pen draw sy'n atebol am gost lawn unrhyw le mewn cartref gofal drutach, byddai'n arfer da monitro talu costau ychwanegol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd a'u bod yn cael eu talu ar y lefel gywir.  

·         Darpariaethau ar gyfer adolygu'r cytudeb

8.12 Fel yn achos unrhyw drefniant ariannol, rhaid i gytundeb i dalu cost ychwanegol gael ei adolygu. Rhaid i awdurdod lleol nodi'n ysgrifenedig fanylion ynglŷn â'r ffordd y bydd y trefniant yn cael ei adolygu, yr hyn a allai ysgogi adolygiad a'r amgylchiadau lle y gall unrhyw barti ofyn am adolygiad.

8.13 Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried pa mor aml y gall fod yn briodol adolygu'r trefniant. Wrth wneud hynny dylent gadw mewn cof pa mor aml y maent yn adolygu trefniadau ariannol eraill, megis cytundebau taliadau gohiriedig. Rhaid i adolygiadau gael eu cynnal o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn unol ag adolygiadau ehangach o'r asesiad ariannol.

·         Goblygiadau peidio â thalu cost ychwanegol 

8.14 Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r person sy'n talu'r gost ychwanegol yn glir yn ysgrifenedig beth fydd yn digwydd os bydd y trefniant yn chwalu neu os na thelir y gost ychwanegol yn unol â gofynion y cytundeb ysgrifenedig. Rhaid i hyn gynnwys datgan y gallai'r awdurdod lleol geisio adennill unrhyw ddyled sy'n weddill oddi ar y person sy'n gyfrifol am dalu'r gost ychwanegol ac os na fydd taliadau'n parhau, ac na all wneud trefniant amgen ar gyfer talu'r gost ychwanegol, efallai y bydd yn rhaid iddo wneud trefniadau i ddiwallu anghenion y person mewn llety amgen. Fel yn achos unrhyw newid mewn amgylchiadau, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad newydd o anghenion cyn ystyried gweithredu yn y modd hwn, gan gynnwys ystyried yr effaith ar lesiant y person y gall newid mewn llety ei chael. 

·         Codiadau mewn costau

8.15 Bydd angen adolygu lefel y gost ychwanegol o bryd i'w gilydd, er enghraifft mewn ymateb i unrhyw newidiadau i: anghenion y person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu; lefel comisiynu lle'r person gan yr awdurdod lleol; costau'r darparwr. Fodd bynnag, efallai na fydd y newidiadau hyn yn digwydd gyda'i gilydd a rhaid i awdurdod lleol nodi'n ysgrifenedig yn ei gytundeb â'r person i dalu'r gost ychwanegol sut y bydd yn ymdrin â'r newidiadau hyn.

8.16 Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd nodi'n glir yn ysgrifenedig yn ei gytundeb â'r person sut y bydd yn ymdrin â rhannu unrhyw gostau cynyddol. Rhaid i hyn gynnwys manylion ynglŷn â sut y deuir i gytundeb ynghylch rhannu unrhyw godiadau mewn costau. Rhaid i hyn hefyd ddatgan na fydd sicrwydd y bydd y costau cynyddol hyn o reidrwydd yn cael eu rhannu'n gyfartal pe bai costau'r darparwr yn cynyddu'n gynt na'r swm y byddai'r awdurdod lleol wedi cynyddu ei gyllid yn unol ag ef ar gyfer y lle yn y cartref gofal.

8.17 Efallai y bydd awdurdod lleol am negodi unrhyw godiadau mewn costau yn y dyfodol â'r darparwr ar adeg ymrwymo i gontract. Gall hyn helpu i roi eglurder i unigolion a darparwyr a helpu i sicrhau bod y gost ychwanegol yn dal yn fforddiadwy.

8.18. Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd egluro, pan fydd amgylchiadau'r person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu yn newid mewn ffordd sy'n ei gwneud yn ofynnol i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal, a bod hyn yn arwain at newid yn lefel y cyfraniad a wneir gan y person, na fydd hyn o anghenraid, yn lleihau'r angen i dalu cost ychwanegol. 

·         Goblygiadau newidiadau yn amgylchiadau'r person sy'n talu'r gost ychwanegol  

8.19 Gallai fod newid annisgwyl yn amgylchiadau ariannol y person sy'n talu'r gost ychwanegol a fydd yn effeithio ar ei allu i barhau i wneud taliadau.  Pan na all person barhau i dalu'r gost ychwanegol, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ceisio adennill unrhyw ddyled sy'n weddill a gall wneud trefniadau amgen i ddiwallu anghenion person, yn amodol ar asesiad o anghenion. Rhaid i'r awdurdod lleol nodi'n ysgrifenedig yn ei gytundeb â'r person sy'n talu'r gost ychwanegol sut y bydd yn ymateb i newid o'r fath a beth yw cyfrifoldebau'r person o ran hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw newid yn ei amgylchiadau.

·         Cost ychwanegol "Parti cyntaf" 

8.20. Caiff y person y bwriedir i'w anghenion gael eu diwallu drwy lety mewn cartref gofal ddewis talu cost ychwanegol ei hun ond dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol:

• pan fydd yn destyn diystyriad eiddo o 12 wythnos (Atodiad A ynghylch trin cyfalaf); neu

• pan fydd ganddo gytundeb taliadau gohiriedig â'r awdurdod lleol ar waith. Os felly, dylai telerau'r cytundeb adlewyrchu'r trefniant hwn (gweler Atodiad D ynghylch cytundebau taliadau gohiriedig).

Hunanarianwyr sy'n gofyn i'r awdurdod lleol drefnu eu gofal

9.1 Mae adran 35 (Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn) o'r Ddeddf yn galluogi person a all fforddio talu am ei ofal a chymorth ei hun, yn llawn, mewn cartref gofal i ofyn i'r awdurdod lleol drefnu hyn ar ei ran.  Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i'r un egwyddorion ynghylch mynegi ei fod yn ffafrio llety fod yn gymwys. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn y cod ymarfer ar Ran 4 o'r Ddeddf (Diwallu Anghenion).

Gwybodaeth a chyngor

10.1 O dan adran 17 (Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) o'r Ddeddf, rhaid i awdurdod lleol sefydlu a chynnal gwasanaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â gofal a chymorth i bobl yn ei ardal. Rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth a chyngor ynglŷn â'r darparwyr gofal gwahanol sydd ar gael yn yr ardal leol er mwyn galluogi pobl i gael dewis, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor i helpu pobl i ddeall ffioedd gofal, ffyrdd gwahanol o dalu a rheoli arian. Dylai awdurdodau lleol hefyd chwarae rôl o ran hwyluso mynediad i wybodaeth a chyngor a ddarperir yn annibynnol ar yr awdurdod lleol, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor wedi'u rheoleiddio lle y bo'n briodol, er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol deallus. Gall hyn fod yn arbennig o briodol pan fydd person yn ysyried talu cost ychwanegol er mwyn ei helpu i ddeall yr hyn y byddai'n talu'r gost ychwanegol ar ei gyfer a llunio barn ynghylch a fyddai'n cynnig gwerth da am arian iddo.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad D - Cytundebau Taliadau Gohiriedig

 

Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

 

• Beth yw cytundebau taliadau gohiriedig;

• I bwy y dylid cynnig taliad gohiriedig;

• Darparu gwybodaeth a chyngor cyn ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig;

• Faint y gellir ei ohirio a sicrwydd ar gyfer y cytundeb;

• Cyfradd llog ar gyfer y swm gofynnol a chostau gweinyddol;

• Llunio'r cytundeb, cyfrifoldebau tra bod y cytundeb yn weithredol a therfynu'r cytundeb.

Diffiniadau

1.1  Mae'r diffiniadau a ddefnyddir yn yr atodiad hwn fel a ganlyn:

 

·         ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·         ystyr "costau gofal" yw'r holl gostau a godir ar gyfer lleoliad person mewn cartref gofal, gan gynnwys unrhyw gost ychwanegol sy'n ddyledus;

·         ystyr "swm gofynnol" yw swm y costau gofal y mae'n ofynnol (neu y bydd yn ofynnol) i'r oedolyn ei dalu o dan adran 59 (Pŵer i osod ffioedd) o'r Ddeddf ac unrhyw swm y mae'n ofynnol i'r oedolyn ei dalu o dan adran 57 (Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) o'r Ddeddf;

·         ystyr "cost ychwanegol" yw taliadau sy'n ddyledus o dan Reoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 mewn perthynas â chytuno â chais person i gael llety drutach nag y byddai awdurdod lleol yn ei ddarparu fel arfer;

·         ystyr "y Rheoliadau" yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliad Gohiriedig) (Cymru) 2015.

Cyflwyniad

2.1 Drwy ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig, gall person, y caiff ei eiddo ei ystyried yn ei asesiad ariannol, ohirio neu oedi talu ei holl gostau gofal neu rai ohonynt tan ddyddiad diweddarach er mwyn sicrhau na fydd angen iddo werthu ei eiddo'n syth ar ôl mynd i mewn i gartref gofal. Gall gohirio talu'r costau'r hyn helpu person i ohirio'r angen i werthu ei gartref ar adeg a all fod yn heriol (neu hyd yn oed yn argyfwng arno) iddo ef a'i deulu wrth iddo symud i ofal preswyl.

2.2 Gall cytundeb taliadau gohiriedig roi hyblygrwydd ychwanegol o ran pryd a sut y bydd person yn talu ei gostau gofal. Dylid pwysleisio bod y taliad yn cael ei ohirio yn hytrach na'i ddileu - rhaid i'r costau gofal gael eu had-dalu o hyd gan y person (neu drydydd parti sy'n gweithredu ar ei ran) ar ddyddiad diweddarach.

2.3 Rhaid i awdurdodau lleol gynnig cytundeb taliadau gohiriedig i'r personau hynny sy'n mynd i mewn i gartref gofal neu sydd mewn cartref gofal ac sy'n bodloni meini prawf penodol ynghylch cymhwystra. Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod sicrwydd digonol ar gael ar gyfer y swm sy'n cael ei ohirio, er mwyn iddynt fod yn hyderus y caiff y swm gofynnol (h.y. y swm gohiriedig) ei ad-dalu yn y dyfodol.

2.4 Gall cytundeb taliadau gohiriedig bara am y cyfnod llawn y bydd person mewn cartref gofal, neu am gyhyd ag y dymuna. Bydd hyn yn rhoi'r amser a'r hyblygrwydd iddo werthu ei eiddo pan fydd yn dewis gwneud hynny, a phenderfyniad yr unigolyn fydd hynny. Nodir rhagor o fanylion am gytundebau taliadau gohiriedig yn yr adrannau isod.

I bwy y dylid cynnig taliadau gohiriedig  

3.1 Nod cytundebau taliadau gohiriedig yw sicrhau na fydd angen i'r personau hynny y bydd angen iddynt werthu eu cartref i dalu eu costau gofal wneud hynny'n syth ac y gallant wneud hynny ar adeg sy'n gyfleus iddynt hwy. Rhaid i awdurdodau lleol gynnig cytundeb taliadau gohiriedig i bobl sy'n mynd i mewn i ofal preswyl neu sydd mewn gofal preswyl ac sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra a nodir yn rheoliad 3 (Gofyniad ar awdurdod lleol i ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig) o'r Rheoliadau, sef yn ei hanfod:

(a) person y bydd ei anghenion yn cael ei ddiwallu gan y gofal a chymorth a roddir mewn cartref gofal, p'un a yw'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol sy'n arfer ei ddyletswydd i ddiwallu anghenion o dan adran 35, neu ei bwerau i ddiwallu anghenion o dan adran 36(1), y naill a'r llall o dan Ran 4 (Diwallu anghenion) o'r Ddeddf;

(b) mae'n ofynnol neu bydd yn ofynnol i'r person dalu ffi am hyn o dan adran 59 (Pŵer i osod ffioedd) o'r Ddeddf;

(c) mae'r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol o dan adran 63 (Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) o'r Ddeddf.

3.2 Nid yw'r gofyniad hwn i gynnig cytundeb taliadau gohiriedig i'r sawl sydd yn y sefyllfa hon yn gymwys oni fodlonir yr amodau a restrir yn y Rheoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

(a) pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod gan y person fuddiant mewn eiddo y mae'r person yn ei feddiannu fel ei gartref, neu yr arferai ei feddiannu fel ei gartref;

(b) pan nad yw gwerth y buddiant hwn wedi'i ddiystyru at ddibenion cyfrifo swm cyfalaf person yn unol â Rhan 4 (Trin a chyfrifo cyfalaf) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (y Rheoliadau Asesiad Ariannol) ac nad yw cyfalaf y person, heb gynnwys gwerth y buddiant hwn, yn uwch na'r terfyn cyfalaf a nodir yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (y Rheoliadau Gosod Ffioedd);

(c) pan nad yw incwm asesedig wythnosol y person (fel y'i cyfrifir o dan y Rheoliadau Gosod Ffioedd) yn ddigonol i dalu'r costau gofal llawn am ei lety preswyl mewn cartref gofal;

(d) pan fydd y person yn cytuno â'r holl delerau ac amodau sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb taliadau gohiriedig a gynigir;

(e) pan fydd yr awdurdod lleol wedi cael cydsyniad unrhyw berson arall yr ystyrir bod ganddo fuddiant yn yr eiddo ac yr ystyrir y gall atal yr awdurdod lleol rhag gwerthu'r eiddo neu adennill unrhyw swm gohiriedig;

(f) pan fydd yr awdurdod lleol yn gallu creu arwystl dros yr eiddo y mae gan y person fuddiant ynddo a'i fod yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw fuddiant neu arwystl arall ar yr eiddo a'i fod mewn safle uwch nag unrhyw fuddiant neu arwystl arall.

Y gallu i wrthod cytundeb taliadau gohiriedig

4.1 Er bod yn rhaid i awdurdod lleol gynnig cytundeb taliadau gohiriedig i berson sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra a nodir uchod, bydd sefyllfaoedd yn codi lle y gall awdurdod lleol wrthod cais am gytundeb taliadau gohiriedig lle na chaiff y meini prawf hyn eu bodloni. Byddai hyn yn digwydd, er enghraifft: 

(a) pan nad yw awdurdod lleol yn gallu cael cydsyniad person arall sydd â buddiant yn yr eiddo i roi arwystl arno, neu lle na all sicrhau arwystl â blaenoriaeth neu arwystl cyntaf ar yr eiddo;

(b) pan fydd cyfalaf person, ar wahân i werth yr eiddo, yn uwch na'r terfyn cyfalaf, neu pan fydd ei incwm asesedig wythnosol yn ddigonol i dalu ei gostau gofal, er mwyn iddo allu fforddio cost lawn y llety preswyl heb fod angen cytundeb arno;

(c) pan nad yw person yn cytuno â thelerau ac amodau'r cytundeb taliadau gohiriedig. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys methu â bodloni amod bod yn rhaid i'r person yswirio'r eiddo a'i gadw mewn cyflwr da.

4.2 O dan unrhyw amgylchiadau lle na chaiff unrhyw rai o'r meini prawf cymhwystra ar gyfer taliad gohiriedig eu bodloni, dylai awdurdod lleol ystyried natur y diffyg cydymffurfiaeth â'r meini prawf hyn a ph'un a ddylai arfer disgresiwn i gynnig cytundeb taliadau gohiriedig sut bynnag. Er enghraifft, efallai na fydd modd yswirio eiddo person am ryw reswm ond bod gwerth y tir yn uchel. Os felly, gall yr awdurdod lleol ddewis derbyn arwystl â blaenoriaeth yn erbyn y tir hwn fel sicrwydd ar gyfer y cytundeb yn lle hynny.

Amgylchiadau lle y gall awdurdodau lleol roi'r gorau i ohirio costau gofal

5.1 Ceir amgylchiadau hefyd lle y gall awdurdod lleol wrthod gohirio unrhyw gostau gofal pellach ar gyfer person sydd â chytundeb taliadau gohiriedig yn weithredol. Gall wrthod gwneud hynny yn barhaol neu dros dro, yn dibynnu ar b'un ai newid parhaol neu newid dros dro yn amgylchiadau'r person yw'r rheswm drosto. Ni all awdurdodau lleol ofyn i'r holl swm gofynnol a ohiriwyd gael ei ad-dalu yn yr amgylchiadau hyn ac mae ad-daliad o'r swm hwnnw yn dal i fod yn destun y telerau terfynu arferol, fel y'i nodir yn ddiweddarach ym mharagraffau 12.1 i 12.9.

5.2 Rhaid i'r awdurdod lleol roi rhybudd ymlaen llaw y bydd taliadau gohiriedig pellach yn dod i ben a rhaid iddo roi syniad i'r person o'r modd y bydd angen i'w gostau gofal gael eu talu yn y dyfodol. Yn dibynnu ar ei amgylchiadau ariannol, efallai y bydd angen i'r person dalu ei gostau gofal yn llwyr neu'n rhannol o'i incwm asesedig wythnosol os yw'n fwy na'r warant isafswm briodol a nodir yn rheoliad 6 (Cyfraniad oedolyn) o'r Rheoliadau, neu o unrhyw asedau cyfalaf (heb gynnwys gwerth yr eiddo sy'n destun y cytundeb) a ddelir ganddo sy'n uwch na'r terfyn cyfalaf. Rhaid i awdurdodau lleol sy'n arfer y pwerau hyn i derfynu cytundeb taliadau gohiriedig ystyried eu penderfyniad i wneud hynny yn seiliedig ar amgylchiadau ariannol y person a'u dyletswyddau cyffredinol i ddiwallu anghenion person o dan Ran 4 o'r Ddeddf (Diwallu anghenion).

5.3 Ymhlith yr amgylchiadau eraill lle y gall awdurdod lleol wrthod gohirio unrhyw gostau gofal pellach mae'r canlynol:

(a) pan fydd cyfanswm cyfalaf person (gan gynnwys gwerth yr ecwiti sy'n weddill yn ei eiddo ar ôl i'r swm gofynnol a ohiriwyd gael ei ystyried) yn disgyn i'r terfyn cyfalaf sy'n golygu bod y person yn gymwys i gael cymorth gan yr awdurdod lleol i dalu ei gostau gofal;

(b) pan fydd incwm asesedig wythnosol y person (fel y'i cyfrifir o dan y Rheoliadau Gosod Ffioedd) yn ddigonol bellach i dalu'r costau gofal llawn am ei lety preswyl mewn cartref gofal;

(c) pan nad oes angen i berson gael gofal mewn cartref gofal mwyach;

(d) os yw person yn torri telerau neu amodau rhagddiffiniedig penodol yn ei gytundeb (y mae'n rhaid iddynt gael eu nodi'n glir yn y cytundeb) a bod ymdrechion yr awdurdod lleol i ddatrys y mater yn aflwyddiannus (a bod y cytundeb yn nodi y bydd yr awdurdod yn rhoi'r gorau i ohirio unrhyw gostau gofal pellach mewn achos o'r fath); neu

(e) os caiff gwerth yr eiddo ei ddiystyru wedyn am unrhyw reswm o dan y Rheoliadau Asesiad Ariannol a bod y person, o ganlyniad i hynny, yn gymwys i gael cymorth gan yr awdurdod lleol i dalu ei gostau gofal, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

• pan fydd priod neu berthynas ddibynnol (fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Asesiad Ariannol) wedi symud i mewn i'r eiddo ar ôl i'r cytundeb gael ei wneud;

• pan fydd perthynas a oedd yn byw yn yr eiddo ar adeg y cytundeb yn dod yn berthynas ddibynnol (fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Asesiad Ariannol) wedi hynny.

Gwybodaeth a chyngor

6.1 O dan adran 17 (Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) o'r Ddeddf, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a chyngor mewn perthynas ag argaeledd cytundebau taliadau gohiriedig. Er mwyn i bobl allu gwneud dewisiadau deallus, mae'n hanfodol eu bod yn cael gwybodaeth a chyngor priodol cyn ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig. Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cytundeb drwy gydol cyfnod y cytundeb a'u bod yn cael gwybodaeth briodol pan gaiff ei derfynu yn y pen draw.

6.2 Yn aml, caiff cytundebau taliadau gohiriedig eu hystyried ar adeg lle y gall y person a'i deulu fod o dan straen. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar bobl yn ystod y cyfnod hwn, a dylai'r awdurdod lleol fynd ati i ddarparu'r cymorth hwn, ynghyd â gwybodaeth a chyngor clir sy'n hawdd ei ddeall.

6.3 Os bydd awdurdod lleol yn nodi person a all elwa ar gytundeb taliadau gohiriedig neu a all fod yn gymwys i gael cytundeb o'r fath, neu os bydd person yn gofyn am wybodaeth am y cyfryw gytundebau, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael iddo ac esbonio sut y mae cytundebau taliadau gohiriedig yn gweithio. Dylai'r esboniad hwn wneud y canlynol:

• nodi'r meini prawf cymhwystra i gael cytundeb;

• nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni yn ystod y cytundeb;

• nodi'n glir pa gostau gofal a fyddai'n cael eu gohirio a'r ffaith bod yn rhaid i'r costau hynny gael eu had-dalu o hyd ar ddyddiad diweddarach, er enghraifft drwy werthu'r eiddo (gan gynnwys ar ôl marwolaeth y person);

• esbonio'r sicrwydd y mae awdurdod lleol yn barod i'w dderbyn (gweler yr adran 'Cael Sicrwydd' isod);

• esbonio y caiff y cyfanswm y gall y person ei ohirio ei benderfynu gan lefel ei gostau gofal a gwerth yr eiddo y mae ganddo fuddiant ynddo ac a ddefnyddir ar gyfer y cytundeb taliadau gohiriedig;

• esbonio goblygiadau posibl cytundeb taliadau gohiriedig o ran incwm person, ei hawl i unrhyw fudd-daliadau lles a'r broses o gymhwyso'r system gosod ffioedd;

• rhoi trosolwg o fanteision ac anfanteision posibl ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig ac esbonio'r opsiynau eraill a all fod ar gael i berson fel ffordd o dalu ei gostau gofal;

• esbonio'r cyfnod o 12 wythnos a ddiystyrir o ran eiddo (fel y'i nodir yn y Rheoliadau Asesiad Ariannol), a allai roi amser ychwanegol i'r rhai sy'n gymwys i gael taliadau gohiriedig ystyried opsiynau eraill ar gyfer talu eu costau gofal;

• esbonio'r amgylchiadau lle y gall yr awdurdod lleol roi'r gorau i ohirio costau gofal pellach (fel y'i disgrifir ym mharagraffau 12.1 i 12.9); 

• esbonio p'un a fyddai llog yn cael ei godi ar y swm gohiriedig (h.y. y swm gofynnol) ac, os felly, lefel y llog hwnnw;

• esbonio p'un a fyddai costau gweinyddol yn cael eu codi am sefydlu a chynnal y cytundeb ac, os felly, lefel y costau hyn;

• esbonio sut y gall cytundeb gael ei derfynu a'r hyn fydd yn digwydd pan gaiff cytundeb ei derfynu, gan gynnwys sut y caiff y swm gofynnol sy'n ddyledus ei ad-dalu a'r opsiynau ar gyfer gwneud hynny;

• esbonio beth fydd yn digwydd os na chaiff y swm gofynnol sy'n ddyledus ei ad-dalu'n llawn yn y modd neu o fewn yr amser a bennir gan awdurdod lleol; 

• awgrymu y gall pobl ystyried ceisio cyngor ariannol annibynnol cyn ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig.

6.4 Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mewn fformat addas sy'n diwallu anghenion cyfathrebu'r person. Gall hyn fod ar ffurf taflen wybodaeth safonol â gwybodaeth ychwanegol, lle y bo'n briodol, sy'n darparu ar gyfer amgylchiadau unigol y person.

6.5 Dylai awdurdodau lleol gynghori pobl, os oes eiddo y mae ganddynt fuddiant ynddo, y bydd angen iddynt ystyried sut maent yn bwriadu defnyddio, cynnal a chadw ac yswirio eu heiddo os byddant yn ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig; hynny yw, a ydynt am ei osod ar rent, ei baratoi i'w werthu neu ei adael yn wag am gyfnod. Dylai'r awdurdod lleol nodi a yw'n bwriadu gosod amodau ar y ffordd y dylai'r eiddo gael ei gynnal a'i gadw neu ei ddefnyddio tra bydd unrhyw gytundeb yn weithredol.

Faint y gellir ei ohirio

7.1 Mewn egwyddor, dylai person fod yn gallu gohirio ei holl gostau gofal, yn amodol ar unrhyw gyfraniad y mae'n ofynnol iddo'i wneud, yn ôl ei asesiad ariannol, tuag at y gost hon o'i incwm asesedig. Mae rheoliad 5 (Swm gofynnol) o'r Rheoliadau yn nodi y gellir gohirio taliadau mewn perthynas â'r canlynol:

(a) 100% o'r costau gofal sy'n ddyledus gan y person, llai unrhyw swm y mae'n ofynnol iddo ei dalu tuag at y costau hyn o dan reoliad 6 (Cyfraniad oedolyn) o'r Rheoliadau;

(b) y cyfryw swm llai ag y mae'r person yn gofyn amdano, llai unrhyw swm y mae'n ofynnol iddo ei dalu o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau;

(c) y swm yn (a) neu (b) llai unrhyw swm y mae'r awdurdod lleol yn cytuno i beidio â'i ohirio.

7.2 Bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried p'un a all person ddarparu sicrwydd digonol ar gyfer swm y taliadau gohiriedig y cytunwyd arno (h.y. y swm gofynnol) (gweler yr adran nesaf 'Cael Sicrwydd').

7.3 Os yw'r person wedi mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal sy'n costio mwy na'r gyfradd y mae'r awdurdod lleol yn ei thalu fel arfer ar gyfer y math o gartref gofal sydd ei angen arno, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn codi tâl ychwanegol ar y person, neu drydydd parti, mewn rhai amgylchiadau am y gost ychwanegol (gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 ac Atodiad C i'r cod hwn - Dewis o Lety a Chostau Ychwanegol). Pan fydd hyn yn digwydd a bod y person yn gofyn i'r gost ychwanegol gael ei gynnwys yn y swm i'w ohirio (h.y. y swm gofynnol), dylai'r awdurdod lleol ystyried hefyd a yw'r cyfanswm y gofynnir amdano fel cytundeb taliadau gohiriedig yn briodol ar gyfer gwerth y sicrwydd i'w ddefnyddio ar gyfer y cytundeb.

7.4 Os yw person yn bwriadu gwarantu ei gytundeb taliadau gohiriedig yn erbyn ei fuddiant mewn eiddo, rhaid i awdurdodau lleol gael prisiad o'r eiddo hwnnw. Gall costau prisio eiddo rhesymol gael eu trosglwyddo i berson fel rhan o'r costau gweinyddol y gall awdurdodau lleol eu codi am roi cytundeb ar waith, os dymuna wneud hynny. Gall pobl ofyn am asesiad annibynnol o werth yr eiddo (yn ychwanegol at brisiad yr awdurdod lleol). Os bydd asesiad annibynnol yn nodi gwerth sylweddol wahanol i brisiad yr awdurdod lleol, dylai'r awdurdod lleol a'r person drafod y mater a chytuno ar brisiad priodol cyn bwrw ymlaen â'r cytundeb.

Cyfrannu at gostau gofal o ffynonellau eraill

8.1 Bydd cyfran y costau gofal y bydd person yn ei gohirio yn dibynnu ar ei incwm ac a oes angen iddo gyfrannu tuag at y costau o'r incwm hwn.

8.2 Efallai y bydd awdurdodau lleol yn gofyn am gyfraniad tuag at y costau gofal o incwm asesedig wythnosol person (fel y'i cyfrifir o dan y Rheoliadau Gosod Ffioedd) os yw'n uwch na'r warant isafswm briodol fel y'i nodir yn rheoliad 6 (Cyfraniad oedolyn) o'r Rheoliadau.

8.3 Caiff person ddewis cadw llai o'r warant isafswm briodol os dymuna wneud hynny. Gallai hyn fod yn fanteisiol i'r person gan y byddai'n cyfrannu mwy tuag at ei gostau gofal o'i incwm ac, o ganlyniad, yn lleihau'r swm y mae'n ei ohirio (ac yn cronni llai o ddyled i'w awdurdod lleol yn gyffredinol). Fodd bynnag, rhaid mai penderfyniad y person yw hwn a rhaid i awdurdod lleol beidio â gofyn i'r person gadw llai os yw am gadw'r swm llawn.

8.4 Os bydd person yn penderfynu gosod ei eiddo ar rent yn ystod ei gytundeb, dylai awdurdod lleol ganiatáu i'r person gadw canran o unrhyw incwm rhent a sicrheir ganddo.

8.5 Caiff person elwa ar gyfraniadau i'w costau gofal hefyd o ganlyniad i daliadau a wneir gan drydydd parti, neu o incwm nas ystyrir mewn asesiad ariannol, os dymuna wneud hynny. Byddai cyfrannu at gostau gofal o ffynhonnell arall yn fuddiol i berson gan y byddai'n lleihau'r swm y mae'n ei ohirio (ac felly'r swm gofynnol sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol). Rhaid i awdurdod lleol beidio â gofyn i berson gyfrannu at ei daliad gohiriedig o'r ffynonellau hyn. 

Cael sicrwydd

9.1 Mewn achosion lle y caiff eiddo ei ddefnyddio fel sicrwydd ar gyfer cytundeb, rhaid i awdurdodau lleol geisio cydsyniad (a chytundeb) y perchennog i roi arwystl ar yr eiddo.  Mewn achosion lle y ceir mwy nag un perchennog, rhaid i'r awdurdod geisio cydsyniad (a chytundeb) o'r fath gan bob perchennog. Yna, bydd angen i bob perchennog lofnodi'r cytundeb arwystl a, lle y ceir cyd-berchnogion, bydd angen iddynt gytuno i beidio â gwrthwynebu gwerthu'r eiddo at ddiben ad-dalu'r swm gofynnol sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol (yn dilyn yr un weithdrefn ag y byddai'n ei dilyn pan fydd person yn unig berchennog eiddo).

9.2 Rhaid i'r awdurdod lleol gael cydsyniad tebyg i greu arwystl yn erbyn yr eiddo gan unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr eiddo.

Llog a chostau gweinyddol 

10.1 Bwriedir i gytundebau taliadau gohiriedig weithredu ar sail niwtral o ran costau, lle y gall awdurdodau lleol adennill y costau sy'n gysylltiedig â gohirio costau gofal person drwy godi llog os dymunant wneud hynny. Gall awdurdodau lleol hefyd adennill y costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chytundebau, gan gynnwys costau cyfreithiol a'r costau gweithredu parhaus sy'n gysylltiedig â chytundeb.  Gall costau o'r fath gael eu trosglwyddo i'r person a'u hychwanegu at y swm gofynnol a ohiriwyd wrth iddynt gronni, er y gall person wneud cais i dalu'r costau hyn ar wahân os dymuna wneud hynny. Rhaid i'r cytundeb nodi'n glir fod yn rhaid i'r holl gostau gofal a ohiriwyd, ynghyd ag unrhyw log a chostau gweinyddol yr eir iddynt, gael eu had-dalu'n llawn gan y person.

10.2 Caiff awdurdodau lleol godi llog ar unrhyw swm gohiriedig, gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol a ohiriwyd, er mwyn talu am gost y cytundeb a'r risgiau ariannol i awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â benthyca. Os bydd awdurdodau lleol yn codi llog, rhaid iddo beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a nodir yn rheoliad 9 (Llog) o'r Rheoliadau.

10.3 Yr uchafswm cyfradd llog genedlaethol y gall awdurdod ei chodi yw 0.15% uwchlaw'r "gyfradd berthnasol". Bydd y gyfradd berthnasol yn newid bob chwe mis ar 1 Ionawr a 1 Mehefin er mwyn olrhain cyfradd giltiau'r farchnad a nodir yn adroddiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Ar hyn o bryd, caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn yr Economic and Fiscal Outlook, a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn fel arfer ochr yn ochr â Datganiad y Gyllideb a Datganiad yr Hydref. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i'r uchafswm cyfradd genedlaethol eu cymhwyso at unrhyw gytundebau y maent wedi ymrwymo iddynt (oni bai eu bod yn codi llai na'r uchafswm cenedlaethol eisoes). Rhaid i gytundebau unigol hefyd gynnwys telerau ac amodau digonol er mwyn sicrhau nad yw'r gyfradd llog a nodir mewn unrhyw gytundeb penodol yn uwch na'r uchafswm cenedlaethol.

10.4 Cyn i berson ymrwymo i gytundeb rhaid i awdurdodau lleol ei hysbysu a fydd llog yn cael ei godi, beth yw'r cyfraddau llog cyfredol, a phryd y mae cyfraddau llog yn debygol o newid, er mwyn iddo allu gwneud penderfyniadau deallus ynghylch ai cytundeb taliadau gohiriedig yw'r ffordd orau iddo dalu ei gostau gofal.  

10.5 Caiff y llog a godir ac a ychwanegir at y swm gohiriedig ei adlogi a dylai awdurdodau lleol sicrhau, wrth lunio'r cytundeb, fod pobl yn deall y bydd llog yn cronni ar sail adlog.

10.6 Gall llog gronni ar y swm gofynnol a ohiriwyd hyd at yr adeg y caiff ei ad-dalu. Felly, gallai'r llog gael ei godi o hyd ar ôl i berson farw hyd at yr adeg lle y caiff y swm gofynnol ei ad-dalu'n llawn i'r awdurdod lleol. Os na all yr awdurdod lleol, am ryw reswm, adennill y swm gofynnol sy'n ddyledus iddo mewn cytundeb taliadau gohiriedig, a'i fod yn ceisio adennill y swm hwnnw drwy'r llysoedd, caiff yr awdurdod lleol godi cyfradd llog y Llys Sirol yn yr achos hwnnw.

10.7Rhaid i awdurdodau lleol bennu eu costau gweinyddol ar lefel resymol a rhaid i'r lefel hon beidio â bod yn fwy na'r costau gwirioneddol yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol. Caiff costau perthnasol gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r) costau yr aed iddynt gan awdurdod lleol wrth wneud y canlynol:

• cofrestru arwystl cyfreithiol â'r  Gofrestrfa Tir yn erbyn teitl yr eiddo, gan gynnwys taliadau chwilio'r Gofrestrfa Tir ac unrhyw wiriadau adnabod sydd eu hangen;

• ymgymryd â gweithgareddau postio, argraffu a thelathrebu perthnasol;

• cost yr amser a dreulir gan y sawl sy'n darparu'r cytundeb;

• cost prisio ac ailbrisio'r eiddo;

• costau dileu arwystlon yn erbyn eiddo;

• gorbenion gan gynnwys, lle y bo'n briodol, (cyfrannau) costau'r gyflogres, archwilio a rheoli, a gwasanaethau cyfreithiol.

10.8 Dylai awdurdodau lleol gynnal rhestr gyhoeddus o gostau gweinyddol y gall person fod yn atebol i'w talu. Mae'n arfer da gwahanu ffioedd yn ffi sefydlu sefydlog ar gyfer cytundebau taliadau gohiriedig, sy'n adlewyrchu'r costau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol wrth sefydlu a sicrhau cytundeb taliadau gohiriedig nodweddiadol, a ffioedd untro rhesymol eraill yn ystod y cytundeb (sy'n adlewyrchu taliadau gwirioneddol yr aed iddynt yn ystod y cytundeb).

Llunio'r cytundeb

11.1 Pan fydd person yn dewis ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig, dylai awdurdodau lleol geisio sicrhau bod y cytundeb yn cael ei lunio'n derfynol ac yn weithredol erbyn diwedd y cyfnod diystyru o 12 wythnos a nodir yn y Rheoliadau Asesiad Ariannol (lle y bo'n gymwys), neu o fewn 12 wythnos i'r adeg y bydd person yn cysylltu â'r awdurdod lleol i ofyn am gytundeb o dan amgylchiadau eraill.

11.2 Dim ond ar ôl trafodaeth rhwng yr awdurdod lleol a'r person y dylai penderfyniadau ynghylch anghenion gofal a chymorth person, y swm y mae'n bwriadu ei ohirio, yr eiddo y mae'n bwriadu ei ddefnyddio fel sicrwydd a thelerau'r cytundeb gael eu gwneud. Unwaith y mae'r awdurdod lleol a'r person wedi dod i gytundeb mewn egwyddor, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnwys y manylion y cytunwyd arnynt mewn cytundeb taliadau gohiriedig, ar ffurf contract cyfreithiol rhwng yr awdurdod lleol a'r person.

11.3 Rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu copi caled o'r cytundeb taliadau gohiriedig i'r person, a dylai sicrhau ei fod yn cael amser rhesymol i ddarllen ac ystyried y cytundeb, gan gynnwys amser i holi am unrhyw gymalau a thrafod y cytundeb ymhellach â'r awdurdod lleol.

11.4 Rhaid i'r cytundeb nodi'n glir yr holl delerau, amodau a gwybodaeth sydd eu hangen i alluogi'r person i gadarnhau ei hawliau a'i rwymedigaethau o dan y cytundeb. Rhaid i'r cytundeb gynnwys y canlynol, o leiaf:

(a) telerau i esbonio'r modd y caiff y llog ei gyfrifo a'r ffaith y caiff ei adlogi os caiff ei ychwanegu at y swm gofynnol i'w ohirio;

(b) gwybodaeth am y costau gweinyddol y gallai'r unigolyn fod yn atebol i'w talu;

(c) telerau i esbonio sut y caiff y person arfer ei hawl i derfynu'r cytundeb, gan gynnwys y broses o derfynu'r cytundeb a chanlyniadau hynny, a pha rybudd y dylid ei roi (gweler yr adran 'terfynu'r cytundeb' isod);

(d) telerau i esbonio'r amgylchiadau pan allai'r awdurdod lleol wrthod gohirio costau gofal pellach;

(e) y bydd yr awdurdod lleol yn gwarantu ei ddyled drwy roi arwystl cyfreithiol (y Gofrestrfa Tir) yn erbyn yr eiddo;

(f) teler sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi datganiad ysgrifenedig i'r person bob chwe mis ac o fewn 28 diwrnod i dderbyn cais gan y person, yn nodi faint sydd ar y person i'r awdurdod a'r gost o ad-dalu'r ddyled;

(g) teler sy'n esbonio'r uchafswm y gellir ei ohirio a bod hyn yn debygol o amrywio dros amser;

(h) teler sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gael cydsyniad yr awdurdod lleol er mwyn i unrhyw berson feddiannu'r eiddo; 

(j) esboniad sy'n nodi y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gorau i ohirio costau gofal os nad yw'r person yn cael gofal a chymorth mewn cartref gofal mwyach.

11.5 Dylai awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i bobl lofnodi neu gadarnhau'n glir ac yn brofadwy eu bod wedi cael gwybodaeth ddigonol am yr opsiynau ar gyfer talu eu costau gofal, eu bod yn deall sut mae'r cytundeb yn gweithio ac yn deall y cytundeb y maent yn ymrwymo iddo; a'u bod wedi cael y cyfle i ofyn cwestiynau am y cytundeb. Dylai teler sy'n adlewyrchu hyn gael ei gynnwys yn y cytundeb ei hun.

11.6 Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl yn cael diweddariadau ysgrifenedig bob chwe mis ynghylch swm y costau gofal a ohiriwyd, y llog a'r costau gweinyddol a gronnwyd hyd yma, y cyfanswm sy'n ddyledus ac amcangyfrif o'r ecwiti sy'n weddill yn y cartref na chaiff ei gwmpasu gan y swm gofynnol a ohiriwyd.   Dylai awdurdodau lleol hefyd roi datganiad i berson sy'n gwneud cais amdano o fewn 28 diwrnod. Caiff awdurdodau lleol roi diweddariadau mwy rheolaidd yn ôl eu disgresiwn. Dylai'r diweddariad nodi'r swm gofynnol a ohiriwyd yn ystod y cyfnod blaenorol ynghyd â'r cyfanswm a ohiriwyd hyd yma, a dylai hefyd gynnwys amcan o ba mor gyflym y byddai'r swm gofynnol a ohiriwyd ond yn gadael ecwiti sy'n cyfateb i'r terfyn cyfalaf yn yr eiddo (pan na allai unrhyw symiau pellach gael eu gohirio yn erbyn gwerth yr eiddo). 

11.7 Dylai awdurdodau lleol ailasesu gwerth yr eiddo a ddewiswyd i'w ddefnyddio fel sicrwydd unwaith y bydd y swm gohiriedig yn fwy na 50% o'r sicrwydd (ac yn rheolaidd wedi hynny), ac ystyried y swm hwn yn erbyn lefel y terfyn cyfalaf er mwyn sicrhau bod person yn cael ei adael gydag ecwiti sydd o leiaf yn cyfateb i'r terfyn cyfalaf yn ei eiddo.

Terfynu cytundeb

12.1 Gall cytundeb taliadau gohiriedig gael ei derfynu mewn tair ffordd:

(a) ar unrhyw adeg gan y person drwy ad-dalu'r costau gofal (gan gynnwys unrhyw log a chostau gweinyddol) sy'n ddyledus yn llawn (gall hyn ddigwydd yn ystod oes person neu pan gaiff y cytundeb ei derfynu yn sgil marwolaeth deiliad y cytundeb);

(b) pan gaiff yr eiddo ei werthu a phan gaiff yr awdurdod ei ad-dalu; neu

(c) pan fydd y person yn marw a chaiff y swm ei ad-dalu i'r awdurdod lleol o'i ystad.

12.2 Pan gaiff cytundeb ei derfynu, rhaid i'r swm gofynnol llawn a ohiriwyd gael ei dalu i'r awdurdod lleol.

12.3 Os bydd person yn penderfynu gwerthu ei eiddo, dylai hysbysu'r awdurdod lleol yn ystod y broses werthu. Bydd yn ofynnol iddo dalu'r swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol yn llawn o enillion y gwerthiant, a bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol ildio'r arwystl a roddwyd ar ei eiddo.

12.4 Gall person benderfynu ad-dalu'r swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol o ffynhonnell arall, neu gall trydydd parti ddewis ad-dalu'r swm sy'n ddyledus ar ran y person. Yn y naill achos, dylai'r awdurdod lleol gael ei hysbysu o fwriad y person/trydydd parti yn ysgrifenedig, a rhaid i'r awdurdod lleol ildio'r arwystl a roddwyd ar yr eiddo pan fydd yn derbyn y swm llawn sy'n ddyledus.

12.5 Os caiff y taliad gohiriedig ei derfynu yn sgil marwolaeth y person, rhaid i'r swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol gael ei dalu naill ai o'r ystad neu gan drydydd parti. Gall teulu person neu drydydd parti ad-dalu'r ddyled i'r awdurdod lleol mewn ffyrdd eraill os dymunant wneud hynny er mwyn osgoi gorfod gwerthu'r eiddo y cafodd y cytundeb taliadau gohiriedig ei ddiogelu yn ei erbyn. Os felly, rhaid i'r awdurdod lleol dderbyn math arall o daliad, ar yr amod y telir y swm llawn sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol. 

12.6 Gall ysgutor yr ewyllys neu Weinyddwr yr Ystad benderfynu sut y caiff y swm sy'n ddyledus ei dalu; naill ai o ystad y person neu o ffynhonnell trydydd parti.

12.7 Dylai awdurdod lleol aros o leiaf bythefnos ar ôl marwolaeth person cyn cysylltu â'r ysgutor i roi dadansoddiad llawn o'r cyfanswm gohiriedig (ond gall aelod o'r teulu neu'r ysgutor gysylltu â'r awdurdod lleol i ad-dalu'r swm sy'n ddyledus cyn hynny). Ysgutor yr ewyllys sy'n gyfrifol am drefnu bod y swm sy'n ddyledus yn cael ei ad-dalu (os caiff ei dalu o'r ystad).

12.8 Bydd llog yn parhau i gronni ar y swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol ar ôl marwolaeth y person a hyd nes y caiff y swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol ei ad-dalu'n llawn.  Os caiff cytundeb ei derfynu yn sgil marwolaeth person, bydd y swm sy'n ddyledus i awdurdod lleol o dan gytundeb taliadau gohiriedig yn ddyledus 90 diwrnod ar ôl i'r person farw. Ar ôl y cyfnod hwn o 90 diwrnod, os bydd awdurdod lleol yn dod i'r casgliad nad oes camau gweithredol yn cael eu cymryd i ad-dalu'r ddyled, er enghraifft os nad yw'r gwerthiant yn mynd rhagddo a bod awdurdod lleol wedi mynd ati i geisio datrys y sefyllfa (neu os bydd yr awdurdod lleol yn dod i'r casgliad bod yr ysgutor yn atal yr eiddo rhag cael ei werthu yn fwriadol), caiff yr awdurdod lleol ddwyn achos cyfreithiol i adennill y swm sy'n ddyledus iddo. 

12.9 Sut bynnag y caiff cytundeb ei derfynu, rhaid i'r swm llawn sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol gael ei ad-dalu er mwyn talu'r holl gostau a gronnwyd o dan y cytundeb, a rhaid i'r person (a/neu'r trydydd parti lle y bo'n briodol) gael dadansoddiad llawn o'r modd y cafodd y swm sy'n ddyledus ei gyfrifo. Unwaith y caiff y swm ei dalu, dylai'r awdurdod lleol roi cadarnhau i'r person neu'r trydydd parti priodol bod y cytundeb wedi'i derfynu, a chadarnhau (lle y bo'n briodol) bod yr arwystl yn erbyn yr eiddo wedi'i ddileu.

 

 

 

 

 

 

Atodiad E - Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi

 

Mae'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

 

• Adolygu dyfarniad ei bod yn ofynnol i berson dalu ffi am y gofal a chymorth a dderbynnir ganddo, neu ei fod yn atebol fel trosglwyddai i dalu swm i awdurdod lleol lle mae asedau wedi'u trosglwyddo er mwyn osgoi ffioedd;   

• Adolygu lefel y ffi neu'r swm sy'n deillio o hynny. 

Cyffredinol

1.1 Cyflwynodd Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 yr hawl i berson sy'n derbyn gofal a chymorth amhreswyl, neu daliadau uniongyrchol i sicrhau darpariaeth gofal a chymorth o'r fath, wneud cais i adolygu penderfyniad i godi ffi neu i dalu cyfraniad neu ad-daliad.  Yr egwyddor oedd, lle roedd person yn teimlo bod penderfyniad amhriodol wedi'i wneud, naill ai o ran lefel y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad neu mewn perthynas â'r sail dros wneud y penderfyniad, y dylai'r person fod yn gallu gofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r penderfyniad hwn mewn ffordd gyson a chlir.  Yn unol â'r egwyddorion ar gyfer ymdrin â chwyn, roedd y Rheoliadau hyn yn nodi y dylai'r awdurdod, fel rhan o'r adolygiad cychwynnol hwn, ailasesu'r penderfyniad a wnaed a phenderfynu a oedd ei benderfyniad gwreiddiol yn gywir, yn enwedig lle roedd gwybodaeth ychwanegol bellach ar gael.    

1.2 Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau"), a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf"), yn disodli Rheoliadau 2011 ac yn cyflwyno proses adolygu debyg mewn perthynas â dyfarnu ffioedd, cyfraniadau neu ad-daliadau, a lefel y rhain, o ran gofal a chymorth amhreswyl a phreswyl.  Maent hefyd yn ymestyn adolygiadau i gwmpasu sefyllfaoedd lle y tybiwyd bod person yn drosglwyddai atebol sydd wedi derbyn ased gyda'r bwriad o osgoi neu leihau ffioedd ar gyfer person y tybiwyd ei fod yn atebol i dalu ffi.  Nid yw'r broses hon yn ceisio atgynhyrchu na disodli'r weithdrefn gwyno ffurfiol ehangach y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei gweithredu o dan Ran 10 o'r Ddeddf (Cwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli). Yn hytrach, y nod yw sefydlu proses adolygu gyson ar gyfer penderfyniadau o'r fath er mwyn sicrhau, pan fydd person yn dymuno i benderfyniad ynghylch codi ffioedd, neu lefel y ffi, gael ei adolygu, y gall ofyn i awdurdod wneud hyn mewn ffordd gymharol syml ac, wrth wneud hynny, o bosibl, osgoi'r angen i wneud cwyn ffurfiol i'r awdurdod.

1.3 Y gobaith yw y byddai'r mwyafrif helaeth o'r ceisiadau hyn yn cael eu datrys yn foddhaol drwy'r broses adolygu. Fodd bynnag, pan fydd person yn dal i fod yn anfodlon ar benderfyniad awdurdod, bydd y person hwnnw, fel sy'n digwydd nawr, yn gallu gwneud cwyn ffurfiol am hyn er mwyn i'r awdurdod ei hystyried drwy ei weithdrefn gwyno ffurfiol. Byddai hyn yn digwydd os oedd o'r farn nad oedd yr awdurdod wedi ystyried penderfyniad yn briodol wrth gynnal ei adolygiad, e.e. methiant i ddilyn ei bolisi ar godi ffioedd neu fethiant i ystyried gwybodaeth berthnasol yn briodol.

1.4 Rhaid i awdurdodau lleol weithredu proses adolygu fel y'i nodir yn y Rheoliadau a'r cod hwn er mwyn ei gwneud yn bosibl i wneud cais i adolygu penderfyniadau ynghylch ffioedd, cyfraniadau neu ad-daliadau, neu lefel y rhain, neu pan dybiwyd bod person yn drosglwyddai atebol.   

1.5 Yn yr atodiad hwn, dylai cyfeiriadau at "ffi" gael eu dehongli i gynnwys cyfeiriad at gyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol a ddarperir i berson er mwyn sicrhau'r gofal a chymorth sydd ei angen arno.  

Gweithredu'r Broses Adolygu

·         Gwneud cais am adolygiad

2.1 Mae rheoliad 3 (Personau a gaiff wneud cais am adolygiad) o'r Rheoliadau yn nodi'r personau a all wneud cais am adolygiad, sef:

 

o   y rhai y mae ffi wedi'i gosod arnynt ar gyfer y gofal a chymorth y byddant, neu y maent eisoes yn ei gael, fel y'i disgrifir yn adran 60 o'r Ddeddf (Personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt). Bydd personau o'r fath yn cynnwys oedolion y caiff eu hanghenion eu diwallu o dan Ran 4 o'r Ddeddf (Diwallu Anghenion), gan gynnwys lle y caiff cymorth ei ddarparu, neu lle y mae cymorth yn cael ei ddarparu eisoes, er mwyn diwallu anghenion gofalwr sy'n oedolyn;

o   y rhai y mae'n ofynnol iddynt dalu cyfraniad neu wneud ad-daliad am y gofal a chymorth y byddant, neu y maent eisoes yn ei gael, drwy daliadau uniongyrchol fel y'i disgrifir yn adran 50 i 53 o'r Ddeddf (Taliadau uniongyrchol). Bydd personau o'r fath yn cynnwys oedolion y caiff eu hanghenion eu diwallu o dan Ran 4 o'r Ddeddf drwy wneud taliadau uniongyrchol, gan gynnwys lle y caiff cymorth ei ddarparu, neu lle y caiff cymorth ei sicrhau eisoes, drwy daliadau uniongyrchol er mwyn diwallu anghenion gofalwr sy'n oedolyn;

o   trosglwyddai atebol fel y'i diffinnir yn adran 72 o'r Ddeddf (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd) y mae ased wedi'i drosglwyddo iddo gan berson y mae ei anghenion wedi'u diwallu neu'n cael eu diwallu gan awdurdod lleol gyda'r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu'r angen hwnnw a chyda'r bwriad hwnnw'n unig.

 

2.2 Mae rheoliad 4 (Yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud cais am adolygiad) o'r Rheoliadau yn nodi'r amgylchiadau pan ellir gwneud cais am adolygiad. Mae'r amgylchiadau hyn yn amrywio o fethiant awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw un o'r dyletswyddau a osodwyd arno gan rannau perthnasol o'r Ddeddf, y rheoliadau a'r cod hwn, i'w fethiant i ddilyn ei bolisi ei hun ar godi ffioedd a'i fethiant i roi ystyriaeth briodol i wybodaeth berthnasol mewn perthynas â'r penderfyniad a wnaed ynghylch ffi neu lefel y ffi.  Mae'r amgylchiadau hefyd yn cynnwys rhai anghydfodau ffeithiol megis a yw'r gofal a chymorth, y mae ffi wedi'i gosod mewn perthynas ag ef, wedi'i ddarparu neu, yn achos trosglwyddai atebol, a gafodd yr ased ei drosglwyddo gyda'r bwriad o osgoi ffioedd am ofal a chymorth.  Pan fydd amgylchiadau ariannol person yn newid (er enghraifft, pan fydd newid yn ei fudd-daliadau lles neu newid blynyddol yn lefel eu budd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth), rhagwelir y bydd awdurdodau lleol yn ailasesu'r ffi y gall person fod yn atebol i'w thalu, neu gall y person ofyn iddynt wneud hynny. Ni ellir gwneud cais am adolygiad o dan amgylchiadau o'r fath. Dim ond pan fydd y person yn anfodlon ar ganlyniad ailasesiad y gall wneud cais am adolygiad o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 4.     

   

2.3 Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt broses adolygu ar waith ar gyfer ystyried ceisiadau am adolygiad gan yr unigolion a restrir uchod o dan yr amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4. Rhaid i awdurdodau ystyried ceisiadau am adolygiadau a wneir unrhyw bryd ar ôl i awdurdod lleol benderfynu gosod ffi, pennu lefel y ffi neu dybio bod person yn drosglwyddai atebol, a hysbysu'r person y codir ffi arno.

2.4 Rhaid i gais nodi'r amgylchiadau yn rheoliad 4 y caiff ei wneud mewn perthynas â hwy a rhoi'r rheswm/rhesymau dros gynnal yr adolygiad.  Rhaid i awdurdodau lleol ystyried ceisiadau am adolygiad a wneir yn ysgrifenedig ac ar lafar; gweler rheoliad 5 (Y broses ar gyfer gofyn am adolygiad) o'r Rheoliadau.    

2.5 Gall cais am adolygiad, yn unol â rheoliad 6 (Cynrychiolwyr) o'r Rheoliadau, gael ei wneud gan gynrychiolydd ar ran y person sy'n gwneud y cais am adolygiad, naill ai ar gyfer yr adolygiad cyfan neu'r cyfryw ran ag y mae'r person yn ei ddymuno. Gall y cynrychiolydd hwn fod yn ffrind neu'n berthynas a benodir gan y person, er enghraifft, neu'n eiriolwr ffurfiol y mae'n dymuno iddo weithredu ar ei ran. Yn y naill achos a'r llall, rhaid i'r person roi ei awdurdodiad i'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig. Pan fydd y person yn gwneud hyn ar lafar, rhaid i'r awdurdod lleol roi datganiad i'r person a'i gynrychiolydd yn cadarnhau'r penodiad hwn ac yn nodi i ba raddau y bydd y cynrychiolydd yn cymryd rhan yn yr adolygiad, h.y. yn llawn neu'n rhannol.  Rhaid i berson sy'n penodi cynrychiolydd ar gyfer adolygiad allu tynnu ei gydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr adolygiad os dymuna wneud hynny. Rhaid i'r person allu hysbysu'r awdurdod lleol o hyn naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig. 

 

·         Penodi person i ymdrin â chais am adolygiad

 

2.6 O dan reoliad 7 (Y person penodedig), rhaid i awdurdodau lleol benodi aelod o staff cymwys i ymdrin â chais am adolygiad ond nid i benderfynu arno (at y dibenion hyn, cyfeirir at yr aelod o staff hwnnw fel y "person penodedig"). Rhaid i'r person penodedig fod yn gyfarwydd â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod hwn mewn perthynas ag adolygiadau o'r fath. Mae'n arfer da cynnwys manylion cyswllt y cyfryw aelod o staff mewn rhan o ddatganiad ynghylch ffi a roddir i berson yn unol â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau Gosod Ffioedd") er mwyn rhoi'r wybodaeth hon i'r person hwnnw, ynghyd â gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r broses adolygu hon, os bydd yn dymuno gwneud cais am adolygiad wedyn. Mae hefyd yn ofynnol, o dan reoliad 10 (Cydnabod y cais) o'r Rheoliadau, i fanylion cyswllt y person penodedig gael eu nodi pan gydnabyddir bod cais dilys am adolygiad wedi'i wneud. 

 

·         Tynnu cais am adolygiad yn ôl

 

2.7 Gall person, neu ei gynrychiolydd, dynnu cais am adolygiad yn ôl unrhyw bryd tra'i fod yn cael ei ystyried, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, drwy hysbysu person penodedig yr awdurdod lleol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i'r awdurdod lleol roi datganiad i'r person ac unrhyw gynrychiolydd i gadarnhau bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ac na chaiff unrhyw gamau pellach eu cymryd yn sgil hynny.  

·         Derbyn cais am adolygiad

 

2.8 O dan reoliad 9 (Derbyn y cais) o'r Rheoliadau, pan ymdriniwyd â chais blaenorol am adolygiad a gwneir cais arall am adolygiad gan yr un person mewn perthynas â'r un amgylchiadau, nid oes unrhyw ddyletswydd ar awdurdod i ystyried y cais hwnnw os yw o'r farn na fu unrhyw newid perthnasol i unrhyw rai o'r amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau a arweiniodd at wneud y cais gwreiddiol.  Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i awdurdod anfon datganiad at y person ac unrhyw gynrychiolydd i'w hysbysu na chaiff y cais dilynol ei ystyried, gan nodi ei reswm/rhesymau dros gredu na fu unrhyw newid perthnasol i unrhyw rai o'r amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4 a arweiniodd at wneud y cais blaenorol  ac nad oes unrhyw wybodaeth nac amgylchiadau ychwanegol wedi'u darparu i gyfiawnhau cynnal adolygiad arall o'r un amgylchiadau.

2.9 Pan gaiff cais am adolygiad ei wneud gan berson a restrir yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau (a restrir uchod yn 2.1), neu ei gynrychiolydd, mewn perthynas ag un neu fwy o'r amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4 (a amlinellir uchod yn 2.2), rhaid i awdurdod lleol ystyried y cais hwn yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau a'r cod hwn.  

 

·         Cydnabod cais am adolygiad

 

2.10 Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn cais dilys am adolygiad (sy'n cydymffurfio â gofynion rheoliadau 3, 4 a 5), anfon datganiad o gydnabyddiaeth at y person sy'n gwneud y cais, neu ei gynrychiolydd, yn cadarnhau bod y cais wedi dod i law ac yn rhoi gwybodaeth allweddol am yr adolygiad. Nodir y wybodaeth honno yn rheoliad 10 (Cydnabod y cais) o'r Rheoliadau ac mae'n cynnwys cadarnhad o'r hyn sy'n sail i'r cais, y wybodaeth neu'r ddogfennaeth ychwanegol sydd ei hangen ar yr awdurdod i brosesu'r adolygiad, y ffaith y gall y wybodaeth neu'r ddogfennaeth ychwanegol hon gael ei darparu yn ystod ymweliad â chartref y person neu fan arall os dymuna, y modd y bydd yr awdurdod yn prosesu'r adolygiad ac, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, y ffaith y gall y person hwnnw benodi cynrychiolydd os dymuna wneud hynny.

2.11 Os yw'r person sy'n gwneud cais am adolygiad yn drosglwyddai atebol, rhaid i'r datganiad o gydnabyddiaeth hefyd nodi a yw'r awdurdod yn bwriadu gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ar wahân i'r person sy'n gwneud cais am yr adolygiad a pha wybodaeth neu ddogfennaeth y bydd yn gofyn amdani, os o gwbl. Os bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennaeth gan berson arall, rhaid iddo anfon datganiad at y person hwnnw yn gofyn am y wybodaeth neu'r ddogfennaeth hon a rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys y wybodaeth a restrir yn rheoliad 10 (3) o'r Rheoliadau.

2.12 Os bydd awdurdod lleol o'r farn y gall wneud penderfyniad ar adolygiad dilys y gwnaed cais amdano ar sail y wybodaeth a'r ddogfennaeth a geir ynddo, ac y gall wneud y penderfyniad hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith, ni fydd gofynion 2.10 na 2.11 yn gymwys.

 

·         Talu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod yr adolygiad

 

2.13 Rhaid i'r datganiad o gydnabyddiaeth a roddir o dan reoliad 10 (fel y'i nodir uchod yn 2.10 a 2.11) hysbysu'r person sy'n gwneud cais am yr adolygiad, neu ei gynrychiolydd, nad oes angen i'r ffi sy'n destun yr adolygiad (neu'r rhan ohoni sy'n destun yr adolygiad) gael ei thalu yn ystod cyfnod yr adolygiad, os nad yw'r person yn dymuno ei thalu. 

2.14 Os nad yw person yn dymuno talu ffi (neu ran ohoni) yn ystod cyfnod yr adolygiad, rhaid iddo ef neu ei gynrychiolydd roi gwybod i'r awdurdod ar lafar neu'n ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn y datganiad yn cydnabod ei gais. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i awdurdod lleol beidio â chasglu'r ffi na'r rhan berthnasol ohoni yn ystod cyfnod yr adolygiad. Fodd bynnag, bydd y person yn dal i fod yn atebol am y taliadau hyn. O ganlyniad, rhaid i'r datganiad o gydnabyddiaeth hefyd hysbysu'r person neu ei gynrychiolydd a yw'n bolisi gan yr awdurdod i adennill y cyfryw symiau sydd heb eu talu unwaith y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau os daw'n amlwg bod y person yn atebol i'w talu.

2.15 Yn achos y rhai sy'n talu cyfraniad ar gyfer taliadau uniongyrchol fel y byddent yn cael taliadau uniongyrchol yn glir o'r didyniad hwn fel arfer, ar gyfer cyfnod yr adolygiad, rhaid i awdurdod dalu taliadau uniongyrchol gros heb y didyniad hwn os bydd y derbynnydd yn dewis peidio â thalu'r cyfraniad yn ystod cyfnod yr adolygiad. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael eu trin mewn ffordd debyg i'r rhai sy'n cael gofal a chymorth yn uniongyrchol gan awdurdod lleol.    

 

·         Y terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol

 

2.16 Os bydd awdurdod lleol yn gofyn yn rhesymol am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol i brosesu cais am adolygiad, rhaid i'r person sy'n gwneud cais am yr adolygiad neu ei gynrychiolydd ddarparu'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth ychwanegol hon o fewn 15 diwrnod i'r dyddiad y gofynnwyd amdani yn y datganiad o gydnabyddiaeth a amlinellir yn 2.10 a 2.11 uchod. Byddai'n arfer da, cyn diwedd y cyfnod hwn, i atgoffa person neu ei gynrychiolydd o'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani, os nad oedd wedi'i darparu eto.

2.17 O dan reoliad 12 (Y terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol), o fewn y terfyn amser hwn, gall y person neu ei gynrychiolydd ofyn, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer darparu'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth sydd ei hangen. Er enghraifft, efallai y bydd person yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i rai o'r dogfennau sydd eu hangen neu gysylltu ag unigolion neu sefydliadau penodol sy'n meddu ar y cyfryw ddogfennau neu wybodaeth sydd ei hangen. Mae hyn yr un mor berthnasol pan fydd awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth gan drydydd person mewn perthynas ag adolygiad sy'n ymwneud â throsglwyddai atebol.  Felly, rhaid i'r cais am yr estyniad esbonio'r rheswm/rhesymau dros y cais hwn. 

2.18 Rhaid i awdurdodau ganiatáu unrhyw gais rhesymol am estyniad o'r fath a hysbysu'r person, neu ei gynrychiolydd, fod yr estyniad hwn wedi'i gymeradwyo a'r terfyn amser diwygiedig ar gyfer cyflwyno'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth. Rhaid cadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Os bydd awdurdod yn gwrthod cais am estyniad am unrhyw reswm, rhaid iddo hysbysu'r person, neu ei gynrychiolydd, a rhoi ei reswm/rhesymau dros beidio â chytuno i'r cais am estyniad.  

 

2.19 Yn unol â rheoliad 11 (Ymweliad â'r cartref) o'r Rheoliadau, caiff y person sy'n gwneud cais am yr adolygiad, neu ei gynrychiolydd, hysbysu'r person penodedig ar lafar neu'n ysgrifenedig ei fod yn bwriadu cydymffurfio ag unrhyw gais am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol y cyfeirir ato yn 2.16 uchod yn ystod ymweliad â'r cartref. Pan dderbynnir hysbysiad o'r fath, rhaid i awdurdod ymweld â'r cartref er mwyn cael y wybodaeth neu'r ddogfennaeth ychwanegol hon. 

2.20 O dan reoliad 12 (Y terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol) o'r Rheoliadau, os na fydd awdurdod lleol yn derbyn y wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani er mwyn prosesu'r adolygiad, neu unrhyw gais i estyn yr amser ar gyfer ei chyflwyno, o fewn y 15 diwrnod gwaith a ganiateir ar gyfer ei chyflwyno, caiff drin y cais am yr adolygiad fel pe bai wedi'i dynnu'n ôl. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y person a wnaeth gais am yr adolygiad, neu ei gynrychiolydd, yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn rheoliad 12 (6) o'r Rheoliadau i gadarnhau bod hyn wedi'i wneud a bod y ffi gysylltiedig bellach yn daladwy, y swm/symiau sy'n ddyledus ac erbyn pa ddyddiad y bydd angen talu'r swm/symiau hyn. Rhaid i'r datganiad hwn fod yn ysgrifenedig.

2.21 Os na fydd awdurdod lleol yn derbyn gwybodaeth neu ddogfennaeth gan drydydd person mewn perthynas ag adolygiad sy'n ymwneud â throsglwyddai atebol o fewn y 15 diwrnod gwaith, na chais am estyniad yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y trydydd person hwnnw, y person sy'n gwneud cais am yr adolygiad ac unrhyw gynrychiolydd. Rhaid i'r datganiad hwn gynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn rheoliad 13 (3) (Darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ac eithrio'r ceisydd) o'r Rheoliadau, cadarnhau bod y trydydd parti wedi methu â darparu'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani, datganiad yn nodi y bydd yr awdurdod yn gwneud penderfyniad ar yr adolygiad yn seiliedig ar y wybodaeth neu'r ddogfennaeth sydd ar gael iddo a'r ffaith y gall y methiant i ddarparu'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani gael effaith andwyol ar y penderfyniad a wneir. Os caiff y wybodaeth neu'r ddogfennaeth ei darparu ar ôl y terfyn amser a bennwyd ar gyfer ei darparu ond cyn y gwneir penderfyniad ar yr adolygiad, caiff awdurdod lleol ystyried y wybodaeth neu'r ddogfennaeth honno wrth wneud y penderfyniad.

 

·         Gwneud penderfyniad ar adolygiad

 

2.22 O dan reoliad 14 (Y penderfyniad) o'r Rheoliadau, cyn gynted ag y bo modd a, sut bynnag, o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn gwybodaeth neu ddogfennaeth ddigonol i'w alluogi i gynnal adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad arno a nodi'r camau y bydd angen eu cymryd i weithredu'r penderfyniad hwnnw. Rhaid iddo anfon datganiad at y person a wnaeth gais am yr adolygiad, ac unrhyw gynrychiolydd, yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn rheoliad 14 i gadarnhau'r penderfyniad, y rheswm/rhesymau dros y penderfyniad hwnnw ac a yw ffi'r person wedi'i diwygio o ganlyniad i hynny. Os bydd y penderfyniad yn arwain at ddiwygio'r ffi, rhaid i'r awdurdod hefyd anfon datganiad o'r ffi ddiwygiedig a roddir i berson at y person ac unrhyw gynrychiolydd yn unol â rheoliad 14 (1) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

2.23 Os bydd awdurdod lleol ond yn derbyn rhywfaint o'r wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani i brosesu'r adolygiad (naill ai o fewn y 15 diwrnod gwaith a amlinellir uchod neu o fewn cyfnod estynedig) rhaid iddo, o fewn 10 diwrnod gwaith i ddiwedd y cyfnodau hyn, pa un bynnag sydd hwyraf, wneud penderfyniad ar yr adolygiad yn seiliedig ar y wybodaeth neu'r ddogfennaeth sydd ar gael. Rhaid iddo hefyd benderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd i weithredu'r penderfyniad hwnnw ac anfon datganiad at y person a wnaeth gais am yr adolygiad, ac unrhyw gynrychiolydd, yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn rheoliad 14 o'r Rheoliadau i gadarnhau'r penderfyniad, y rheswm dros y penderfyniad hwnnw ac a yw ffi'r person wedi'i diwygio o ganlyniad i hynny. Os bydd y penderfyniad yn arwain at ddiwygio'r ffi, rhaid i'r awdurdod hefyd anfon datganiad o'r ffi ddiwygiedig a roddir i berson at y person ac unrhyw gynrychiolydd yn unol â rheoliad 14 (1) o'r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

2.24 Os na all awdurdod wneud penderfyniad ar adolygiad o fewn y 10 diwrnod gwaith, rhaid iddo, cyn gynted â phosibl ond, sut bynnag, o fewn y cyfnod hwn, roi datganiad i'r person a wnaeth gais am yr adolygiad, neu unrhyw gynrychiolydd, yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen o dan reoliad 14 (3) o'r Rheoliadau i gadarnhau'r ffaith hon, y rheswm/rhesymau drosti ac erbyn pa ddyddiad y caiff penderfyniad ei wneud. Rhaid iddo hefyd hysbysu'r person y gall ddewis beidio â thalu'r ffi sy'n destun yr adolygiad tra bod yr adolygiad yn cael ei gwblhau, os dymuna wneud hynny. Yna, caiff y person, neu unrhyw gynrychiolydd, wneud hyn os dymuna, drwy hysbysu'r awdurdod ar lafar neu'n ysgrifenedig.  Rhaid i awdurdod lleol ei gwneud yn glir yn y datganiad hwn nad oes modd iddo adennill y ffioedd a fyddai wedi cronni yn ystod y cyfnod estynedig hwn, ni waeth beth fydd canlyniad yr adolygiad, a rhaid i awdurdodau lleol beidio â cheisio casglu symiau o'r fath. 

 

·         Sail ar gyfer gwneud penderfyniad ar adolygiad

 

2.25 Rhaid i awdurdodau lleol ddynodi swyddogion priodol i wneud penderfyniadau ar adolygiadau. Gallai fod yn swyddog priodol â statws tebyg i'r un a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol sy'n destun yr adolygiad, ond nad oedd yn gysylltiedig â gwneud y penderfyniad gwreiddiol; neu bennaeth/penaethiaid adran; neu bennaeth gwasanaeth(au); neu Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Pa broses bynnag a ddefnyddir i wneud y penderfyniad, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau ei bod yn deg, yn agored, yn ddiduedd ac yn unol ag egwyddorion cyfiawnder naturiol.

2.26 Mae rheoliad 14 (4) o'r Rheoliadau yn nodi'r ffactorau y mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniad ar adolygiad eu hystyried. Mae'n rhestru'r ddeddfwriaeth berthnasol i'w hystyried, yn ogystal ag amgylchiadau ariannol y person sy'n destun yr adolygiad a'r amgylchiadau sy'n effeithio ar ei allu i dalu ffi.

2.27 Wrth wneud penderfyniad ar adolygiad, yn ogystal ag ystyried a yw'r person dan sylw mewn sefyllfa i dalu ffi a'r effaith ar ei annibyniaeth pe bai'n gwneud hynny, rhaid i awdurdodau lleol ystyried unrhyw "galedi ariannol" ehangach y caiff person ei wynebu o ganlyniad i'w nam, ei gyflwr meddygol neu ei amgylchiadau personol.   Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, treuliau cartref nas rhagwelwyd pan fydd angen i'r person wario arian ar frys i brynu eitem newydd yn lle eitem a gollwyd, newid sydyn yn ei incwm (megis cael ei ddiswyddo) neu argyfwng domestig nas rhagwelwyd (megis rhywun yn cael ei symud i fan diogel lle  mae angen iddo brynu dillad ac eitemau i'r cartref ar frys).

 

·         Talu ffioedd ar ôl cyfnod yr adolygiad

 

2.28 Pan fydd y person sy'n destun yr adolygiad wedi dewis peidio â thalu ffi yn ystod cyfnod yr adolygiad, caiff awdurdod lleol geisio adennill unrhyw symiau sydd heb eu talu ar ôl i'r adolygiad gael ei gwblhau ond nid oes rhwymedigaeth arno i wneud hynny. Y swm y gellir ei adennill fyddai swm y ffi y mae'r awdurdod wedi penderfynu sy'n gywir nawr o ganlyniad i'r adolygiad.

2.29 Rhaid i awdurdod lleol beidio ag adennill unrhyw swm sydd wedi cronni rhwng yr adeg yr ymestynnwyd cyfnod yr adolygiad i'r adeg y cafodd yr adolygiad ei gwblhau. Pan fydd awdurdod yn ceisio adennill symiau sydd heb eu talu, rhaid iddo ystyried amgylchiadau ariannol y person a bodloni ei hun na fyddai adennill y symiau hyn yn achosi caledi ariannol gormodol iddo. Os yw o'r farn y byddai hynny'n digwydd, yna rhaid iddo roi'r cynnig i'r person ad-dalu'r swm mewn rhandaliadau cyfnodol. 

2.30 Mae rheoliad 15 (Talu'r ffi yn ystod ac ar ôl yr adolygiad) o'r Rheoliadau yn nodi manylion talu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod ac ar ôl cyfnod yr adolygiad y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn yn y sefyllfa hon.

 

·         Darparu datganiadau a gwybodaeth

 

2.31 Pan fydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu datganiad neu wybodaeth i berson sy'n gwneud cais am adolygiad, neu ei gynrychiolydd, rhaid i'r datganiad neu'r wybodaeth honno gael ei darparu yn ysgrifenedig ac mewn unrhyw fformat sy'n briodol i ddiwallu anghenion cyfathrebu'r person a'i gynrychiolydd.

 

 

 

 

 

 

Atodiad F: Adennill Dyled ac Amddifadu o Asedau

Mae Adran 1 o'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

·         Yr egwyddorion sydd wrth wraidd y dull o adennill dyled;

·         Opsiynau ar gyfer adennill dyled;

·         Prosesau adennill dyled.

Mae  Adran 2 o'r atodiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:

·         Amddifadu o asedau er mwyn osgoi neu leihau ffioedd am ofal a chymorth;

·         Nodi achosion posibl o amddifadu;

·         Beth sy'n digwydd pan fydd achos o amddifadu o asedau;

·         Adennill ffioedd oddi ar drydydd parti (trosglwyddai).

Adran 1 - Adennill Dyled

Cyffredinol

1.1 Mae'r atodiad hwn i'r cod yn gymwys pan fydd person wedi cronni dyled mewn perthynas â ffioedd a godir o dan adran 59 (pŵer i osod ffioedd) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") am ofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir ar gyfer y person hwnnw, neu gymorth a ddarperir pan fydd y person hwnnw yn ofalwr, gan awdurdod lleol.  

1.2 Nodir y darpariaethau cyffredinol sy'n llywodraethu'r ffordd y mae awdurdod lleol yn adennill dyled yn adran 70 (Adennill costau, llog etc) o'r Ddeddf. Wrth ystyried adennill dyledion, rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â gofynion yr adran honno a'r atodiad hwn i'r cod ymarfer.

1.3 Pan fydd person yn cronni dyled, dylai'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i ganfod pam mae hyn wedi digwydd a rhaid iddo beidio â thybio bod y person yn peidio â thalu ffi a osodir am ofal a chymorth, neu am gymorth i ofalwr, yn fwriadol. Rhaid i awdurdod lleol geisio cadarnhau'r rheswm dros ddyled sy'n cronni a dim ond pan fydd yn amlwg mai o ganlyniad i benderfyniad bwriadol person i beidio â thalu y dylai ystyried adennill y ddyled.

1.4 Wrth ymdrin â dyledion dylai awdurdodau lleol gadw mewn cof eu bod yn rhwym wrth egwyddor cyfraith gyhoeddus bod yn rhaid gweithredu'n rhesymol ar bob adeg a bod yn rhaid iddynt weithredu nid yn unig yn unol â'r pwerau sydd ganddynt mewn perthynas â dyledion o dan y Ddeddf ond hefyd yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd yn y ddeddfwriaeth ynglŷn â hawliau dynol. Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol, pan fydd yn amlwg na thalwyd ffioedd yn fwriadol a'i fod wedi penderfynu casglu'r ddyled a gronnwyd, fynd ar drywydd pob opsiwn rhesymol arall i wneud hyn cyn defnyddio ei bwerau i adennill dyled o dan adran 70 (Adennill costau, llog etc.) o'r Ddeddf, gan gynnwys mynd i'r llys os ystyrir bod hyn yn briodol yn yr achos penodol.

Adennill Dyled

2.1 Wrth gynllunio ei system o adennill dyled dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r grŵp cleientiaid y maent yn ymdrin ag ef. Yn wahanol i ôl-ddyledion treth gyngor neu rent, nid yw awdurdod lleol yn ymdrin â phoblogaeth gyffredinol iach o bosibl ond y rhai sydd â nam corfforol neu nam ar y synhwyrau, neu bobl eiddil hŷn o bosibl. Felly rhaid i bob system o adennill dyled gael ei chynllunio gyda dealltwriaeth lawn o anghenion a nodweddion y cleientiaid hyn, o gofio y gall prosesau asesu ariannol a chodi ffioedd fod yn ddryslyd ac yn gymhleth. Felly mae adennill dyled oddi ar y rhai sydd yn y sefyllfa hon yn fater sensitif o ystyried eu bod yn hyglwyf o bosibl a chyfrifoldeb awdurdod lleol yn y pen draw i ddiwallu anghenion.

2.2 Rhaid i awdurdodau lleol gadw mewn cof bod nifer o resymau dilys pam y gall dyled ddigwydd a rhaid iddynt ystyried pob achos ar deilyngdod ei amgylchiadau penodol cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol i adennill dyled. O ystyried hyn, rhaid i awdurdodau lleol pan fydd dyled: 

·         sicrhau bod y person dan sylw yn deall natur y ddyled sydd wedi digwydd a goblygiadau hyn;

·         cadarnhau pam mae'r ddyled wedi digwydd ac ai sefyllfa dros dro ydyw, y gellir ei goresgyn, ynteu sefyllfa barhaol na ellir ei goresgyn; 

·         penderfynu ar sail amgylchiadau'r achos a yw'n briodol adennill y ddyled ac os felly, a ddylid adennill y ddyled gyfan neu gyfran resymol ohoni;

·         os bwriedir adennill dyled neu ran o ddyled, ystyried a chynnig dull o wneud hynny ac, os oes modd, cytuno ar hyn â'r person gan gynnwys sut y byddai hyn yn gweithredu. Pan fydd hyn yn digwydd rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ad-daliadau'n fforddiadwy i'r unigolyn ac nad ydynt yn peri risg ariannol ormodol i'r person na fydd yn gallu fforddio costau byw rhesymol eraill.

2.3 Dim ond pan fydd y rhain wedi'u hystyried ac na cheir ateb a bod awdurdod lleol yn credu ei bod yn briodol parhau i adennill dyled, y dylai ystyried camau ffurfiol i adennill dyled o dan adran 70 o'r Ddeddf, gan gynnwys cymryd camau drwy'r llysoedd lle y bo'n briodol.

2.4 Cyn ceisio adennill unrhyw ddyled, naill ai drwy drefniant wedi'i negodi neu gamau ffurfiol o dan y Ddeddf, rhaid i awdurdod lleol ystyried a yw'n briodol adennill y ddyled a gronnwyd, naill ai'n llawn neu gyfran ohoni. Er enghraifft, gall y gost sy'n gysylltiedig ag adennill dyled fach, neu ddyled o natur dros dro, fod yn anghymesur â'r swm a fyddai'n cael ei gasglu. Dylai hefyd ystyried effaith bosibl adennill dyled ar sefyllfa ariannol a/neu lesiant person, yn unol â dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i hyrwyddo llesiant person. 

Amseriad adennill dyled

3.1 Yr adeg y daw dyled yn ddyledus yw'r dyddiad y daw'r swm a osodwyd yn ddyledus i'r awdurdod lleol. Golyga hyn, er enghraifft, os anfonwyd anfoneb yn rhoi 30 diwrnod i dalu, y daw'r taliad yn ddyledus ar ddiwrnod 30 ac y bydd dyled yn cronni os na wneir taliad.

3.2 O ran unrhyw ddyledion sydd wedi cronni cyn cychwyn y Ddeddf tair blynedd fydd y cyfnod ar gyfer adennill y ddyled honno o hyd, fel y'i nodwyd o dan adran 56 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. O ran dyledion sy'n digwydd ar ôl cychwyn y Ddeddf, y cyfnod i adennill y rhain fydd chwe blynedd bellach o'r dyddiad y daeth y swm a osodwyd yn ddyledus i'r awdurdod lleol ond nas talwyd. Pan fydd yn cymryd amser i adennill dyled, ar yr amod i achos cyfreithiol gael ei ddwyn o fewn y cyfnod cyfyngiad o chwe blynedd, gall y broses o adennill y ddyled barhau. Os na wnaed hynny, a chyrhaeddir y cyfnod, rhaid i'r ddyled gael ei dileu.

Opsiynau i adennill dyled

4.1 Pan fwriedir casglu dyled dylai awdurdodau lleol ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i'w hadennill, a hynny er mwyn sicrhau y dewisir y dull priodol heb draul ormodol ar yr awdurdod nac effaith ormodol ar y person dan sylw. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd dyled yn destun achos llys yn y pen draw oherwydd bydd y llys am ystyried pa gamau eraill y mae'r awdurdod lleol wedi'u cymryd i ddatrys y broblem cyn dwyn achos llys. Os nad oes unrhyw ymdrech wedi cael ei gwneud i ddod i gytundeb yn gyntaf, gall hyn nid yn unig beri i awdurdod ddwyn achos llys yn gymamserol ond gall y llys ei ddal yn erbyn yr awdurdod lleol wrth ystyried ei ddyfarniad. 

4.2 Po fwyaf fo anghenion gofal y person mwyaf oll y dylid gwneud ymdrech i ddatrys y broblem yn gadarnhaol drwy ddefnyddio sgiliau gwaith cymdeithasol effeithiol. Gall opsiynau gynnwys negodi, cyfryngu a chymrodeddu a dim ond pan fetho popeth arall y dylid dwyn achos llys.

4.3 Rhaid i awdurdodau lleol beidio ag anfon llythyrau bygythiol yn gofyn am daliad at y rhai sy'n cronni dyledion a dylent bob amser ymgysylltu â'r rhai yn y sefyllfa hon er mwyn cynnal deialog. Fel cam cyntaf, dylai awdurdod lleol gysylltu â'r person dan sylw i'w rybuddio am y sefyllfa, canfod pam mae dyled wedi digwydd a chadarnhau p'un a fwriedir ad-dalu'r ddyled ac os felly, cytuno ar y ffordd o wneud hyn. Dylai hyn gael ei wneud drwy gysylltu'n bersonol â'r person, a allai fod dros y ffôn neu drwy ymweliad, fel y cred yr awdurdod yn briodol.  Pan na fydd hyn yn datrys y sefyllfa a bod dyled o hyd, dylai awdurdod lleol ystyried nifer o opsiynau amgen i ddatrys y sefyllfa sy'n cynnwys ond nad ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol: 

·         Negodi cytundeb- gallai'r awdurdod lleol negodi cytundeb i ad-dalu'r ddyled naill ai'n uniongyrchol â'r person dan sylw neu drwy drydydd parti, megis eiriolwr, er mwyn helpu'r person i ddeall pa opsiynau sydd ar gael o ran ad-dalu; 

 

·         Cyfryngu – gellid dod i gytundeb ar ad-dalu drwy drydydd parti annibynnol sy'n helpu'r awdurdod lleol a'r person dan sylw i ddod i gytundeb. Gallai hyn gael ei gynnal gan wasanaeth cyfryngu proffesiynol, neu berson neu sefydliad nad yw'n rhan o'r achos, megis gweithiwr cymdeithasol annibynnol neu sefydliad gwirfoddol lleol. O dan yr amgylchiadau hyn rhaid i'r awdurdod lleol a'r person gytuno ar yr hyn i'w wneud yn hytrach na'r cyfryngwr;

 

·         Cymrodeddu – gellid datrys y sefyllfa drwy ofyn i gymrodeddwr annibynnol wrando ar ddwy ochr yr achos a gwneud penderfyniad ar ran y partïon. Os dewisir yr opsiwn hwn bydd angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol bod cymrodeddu fel arfer yn gyfrwymol ar y ddwy ochr ac felly, pe na baent yn fodlon ar y canlyniad, ni allent fel arfer ddwyn achos llys wedyn.

4.4 Mewn llawer o achosion bydd y sefyllfa yn cael ei datrys drwy un o'r dulliau gweithredu uchod, neu gamau tebyg, gyda chytundeb ynglŷn ag ad-dalu'r ddyled. Dim ond pan na fydd hyn yn digwydd y dylai awdurdod ystyried camau pellach i adennill y ddyled.

 

Adennill dyled pan fo gan berson fuddiant cyfreithiol mewn eiddo

5.1 Pan fydd dyled wedi cronni mewn perthynas â pherson sy'n derbyn gofal a chymorth mewn cartref gofal, a bod asesiad ariannol wedi dyfarnu bod ganddo fuddiant mewn eiddo cymwys, rhaid iddo gael cynnig dewis o ad-dalu'r ddyled hon drwy gytundeb taliadau gohiriedig pan fydd yn gymwys i ddod i gytundeb. Nodir y ffordd y mae cytundebau taliadau gohiriedig yn gweithredu, a chymhwystra i'w cael, yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015 (y "Rheoliadau Taliadau Gohiriedig") ac Atodiad D i'r cod hwn. Pan fydd person wedi cronni dyled ac yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer cytundeb taliadau gohiriedig, rhaid iddo gael cynnig dewis o ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig fel modd i'w had-dalu.  

5.2 Gallai'r opsiwn hwn fod yn atyniadol i berson gan ei fod yn ffordd gymharol syml o ad-dalu'r ddyled heb achosi problemau ariannol dybryd iddo. Mae hefyd yn atyniadol am fod y gyfradd llog y gellir ei chymhwyso at gytundeb taliadau gohiriedig yn cael ei phennu gan y Rheoliadau Taliadau Gohiriedig a'i bod yn is na'r uchafswm y gall llys ei gymhwyso pe bai awdurdod yn ceisio adennill y ddyled drwy'r llysoedd yn y pen draw. Gallai awdurdod lleol hefyd fod o'r farn bod yr opsiwn hwn yn fwy ymarferol gan y bydd yn sicrhau bod y ddyled wedi'i sicrhau, bod llai o risg o beidio â'i had-dalu a'i bod yn debygol o fod yn gyflymach i'w sicrhau na dwyn achos llys pe bai angen gwneud hynny yn y pen draw.

Creu arwystl dros fuddiant mewn eiddo

6.1 Pan fydd gan berson sydd wedi cronni dyled fuddiant mewn eiddo a'i fod yn gwrthod opsiwn cytundeb ar daliadau gohiriedig, neu nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer cytundeb taliadau gohiriedig, gall awdurdod lleol, os yw o'r farn bod hynny'n briodol, greu arwystl dros yr eiddo hwnnw o dan adran 71 (Creu arwystl dros fuddiant mewn tir) o'r Ddeddf er mwyn sicrhau y caiff y ddyled ei thalu. Mae adran 71 yn nodi'r gofynion pan fydd awdurdod am adennill dyled drwy'r dull hwn a rhaid iddynt gael eu dilyn o dan yr holl amgylchiadau o'r fath.

Adennill dyled drwy'r llysoedd

7.1 Dim ond pan fydd awdurdod lleol wedi ystyried pob opsiwn rhesymol i adennill dyled y cred ei fod yn briodol i'w hadennill, y dylai ystyried cymryd camau drwy'r llysoedd. Pan fydd camau o'r fath yn cael eu hystyried yn y pen draw, mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM wedi datblygu nifer o daflenni i helpu i dywys y rhai sy'n cymryd camau drwy brosesau'r llys. Gellir eu gweld yn:

 http://hmctsformfinder.justice.gov.uk/HMCTS/FormFinder.do

 

Adran 2 - Amddifadu o Asedau

Cyffredinol

8.1 Mae'r adran hon o'r cod yn gymwys pan fydd awdurdod lleol yn credu bod person wedi amddifadu ei hun o asedau'n fwriadol er mwyn osgoi neu leihau ffioedd a godir o dan adran 59 (pŵer i osod ffioedd) o'r Ddeddf am ofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir ar gyfer y person hwnnw, neu gymorth a ddarperir pan fydd y person hwnnw yn ofalwr, gan awdurdod lleol.  

8.2 Nodir y darpariaethau cyffredinol sy'n llywodraethu amgylchiadau o'r fath yn adran 70 (Adennill costau, llog etc) mewn perthynas â pherson ac adran 72 (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd) o'r Ddeddf mewn perthynas â thrydydd parti (trosglwyddai). Wrth ystyried sut i ymdrin ag amgylchiadau o'r fath rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â gofynion yr adrannau hynny a'r atodiad hwn i'r cod ymarfer.

8.3 At ddibenion yr adran hon o'r cod ystyr "asedau" yw cyfalaf a/neu incwm.

Nodi achosion posibl o amddifadu

9.1 Wrth gynnal neu adolygu asesiad ariannol, neu ddyfarnu neu adolygu ffi person efallai y bydd awdurdod lleol yn nodi amgylchiadau sy'n awgrymu bod person wedi amddifadu ei hun o asedau'n fwriadol er mwyn lleihau, neu osgoi, y cyfraniad ariannol y mae'n ofynnol iddo ei wneud tuag at gost ei ofal a chymorth.

9.2 Pan fydd awdurdod lleol yn credu bod achos o amddifadu wedi digwydd o bosibl, dylai gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw hyn wedi digwydd ac os felly, y rheswm dros hyn. Rhaid iddo beidio â thybio bod y person yn amddifadu ei hun o'r asedau perthnasol yn fwriadol er mwyn lleihau neu osgoi ffi sydd wedi cael ei gosod am ei ofal a chymorth, neu am gymorth os mai gofalwr ydyw. Rhaid i awdurdod lleol geisio canfod y rheswm dros yr achos o amddifadu pan fydd wedi digwydd a dim ond pan fydd yn amlwg mai o ganlyniad i weithred fwriadol person y mae wedi digwydd y dylai ystyried cymryd camau pellach.

9.3 Wrth ymdrin ag achosion o'r fath dylai awdurdodau lleol gadw mewn cof eu bod yn rhwym wrth egwyddor cyfraith gyhoeddus bod yn rhaid gweithredu'n rhesymol ar bob adeg a bod yn rhaid iddynt weithredu nid yn unig yn unol â'r pwerau sydd ganddynt mewn perthynas ag amddifadu o asedau yn y Ddeddf ond hefyd yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd yn y ddeddfwriaeth ynglŷn â hawliau dynol. O ystyried hyn, rhaid i awdurdod lleol, pan fydd yn amlwg bod achos o amddifadu wedi digwydd a'i fod wedi penderfynu casglu'r ddyled sy'n deillio ohono, fynd ar drywydd pob opsiwn rhesymol arall i gasglu'r ddyled hon cyn defnyddio ei bwerau amddifadu o dan adran 70 neu adran 72 o'r Ddeddf, gan gynnwys dwyn achos llys os ystyrir bod hyn yn briodol yn yr achos penodol.

9.4 Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r grŵp cleientiaid y maent yn ymdrin ag ef. Yn wahanol i ôl-ddyledion treth gyngor neu rent, nid yw awdurdod lleol yn ymdrin â phoblogaeth gyffredinol iach o bosibl ond y rhai sydd â nam corfforol neu nam ar y synhwyrau, neu bobl eiddil hŷn o bosibl.  Felly, wrth ystyried achosion posibl o amddifadu dylai awdurdodau lleol gadw mewn cof anghenion a nodweddion y cleientiaid hyn, o gofio y gall prosesau asesu ariannol a chodi ffioedd fod yn ddryslyd ac yn gymhleth.  Felly mae adennill dyled oddi ar y rhai sydd yn y sefyllfa hon yn fater sensitif o ystyried eu bod yn hyglwyf o bosibl a chyfrifoldeb awdurdod lleol yn y pen draw i ddiwallu anghenion. 

9.5 Rhaid i awdurdodau lleol gadw mewn cof bod nifer o resymau dilys pam y gall achos ymddangosiadol o amddifadu fod wedi digwydd a rhaid iddynt ystyried pob achos ar deilyngdod ei amgylchiadau penodol cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol i adennill dyled. O ystyried hyn, rhaid i awdurdodau lleol, pan fyddant yn credu y gall achos o amddifadu fod wedi digwydd gymryd camau tebyg i'r rhai a ddisgrifir ym mharagraff 2.2 mewn perthynas â dyledion, er mwyn rhybuddio'r person o'r ffaith y gall achos o amddifadu fod wedi digwydd, cadarnhau beth mae'r achos o amddifadu wedi'i olygu, y rheswm dros hyn ac, os oes modd, pan fydd achos o amddifadu wedi digwydd, gytuno ar ateb. 

Beth yw ystyr amddifadu o asedau

10.1 Mae achos o amddifadu o asedau wedi digwydd pan fydd person wedi amddifadu ei hun o'i asedau cyffredinol neu wedi'u lleihau a hynny'n fwriadol er mwyn lleihau neu ddileu unrhyw ffi a godir am ei ofal a chymorth, neu gymorth os mai gofalwr ydyw. Golyga hyn fod yn rhaid ei fod wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i wneud hyn gan wybod y byddai gwneud hynny yn cael effaith o'r fath ar ei ffi.

10.2 Pan fydd ased wedi cael ei ddefnyddio gan y person i ad-dalu unrhyw ddyled a fyddai fel arall wedi parhau i fodoli, hyd yn oed os nad yw'n ddyledus ar unwaith, rhaid peidio ag ystyried hyn yn achos o amddifadu ond yn ddefnydd arferol o adnoddau ariannol gan berson i dalu treuliau.

A fu achos o amddifadu o gyfalaf

11.1 Cyfrifoldeb y person yw rhoi prawf i'r awdurdod lleol nad yw'n berchen ar ased cyfalaf mwyach. Os na all wneud hyn, caiff yr awdurdod lleol ei asesu fel pe bai ganddo'r ased o hyd. O ran asedau cyfalaf, byddai tystiolaeth dderbyniol eu bod wedi'u gwaredu yn cynnwys:

(a) Gweithred ymddiriedolaeth;

(b) Gweithred rhodd;

(c) Derbynebau am wariant;

(d) Prawf bod dyledion wedi cael eu had-dalu.

11.2 Gall person amddifadu ei hun o gyfalaf mewn sawl ffordd, ond ymhlith y ffyrdd cyffredin mae:

(a) Talu cyfandaliad i rywun arall, er enghraifft yn rhodd;

(b) Aethpwyd i wariant sylweddol yn sydyn nad yw'n cyd-fynd â gwariant blaenorol;

(c) Mae gweithredoedd teitl eiddo wedi cael eu trosglwyddo i berson arall;

(d) Mae asedau wedi cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth na ellir ei diddymu;

(e) Mae asedau wedi cael eu troi'n fath arall o ased a fyddai'n cael ei ddiystyru o dan asesiad ariannol, er enghraifft eiddo personol;

(f) Mae asedau wedi cael eu lleihau drwy fyw'n fras, er enghraifft prynu sbortscar drud;

(g) Mae asedau wedi cael eu defnyddio i brynu bond buddsoddi gydag yswiriant bywyd.

11.3 Ni fydd achos ymddangosiadol o amddifadu yn fwriadol ym mhob achos. Felly dim ond pan fydd asedau a fyddai fel arall wedi cael eu hystyried at ddibenion asesiad ariannol yn peidio â bod ym meddiant y person neu pan fydd y person wedi troi'r ased yn un sy'n cael ei ddiystyru bellach mewn asesiad y dylid ystyried cwestiynau ynglŷn ag amddifadu.

11.4 Gan fod llawer o resymau pam mae person yn amddifadu ei hun o ased, dylai awdurdod lleol ystyried y canlynol cyn penderfynu a fu achos bwriadol o amddifadu ac felly a yw am gymryd camau i adennill incwm a gollwyd o ganlyniad i hynny:

(a) A oedd osgoi neu leihau ffi yn gymhelliant sylweddol;

(b) Amseriad gwaredu'r ased. Ar adeg gwaredu'r cyfalaf a allai'r person fod wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen gofal a chymorth arno, hyd yn oed os nad oedd yn ei dderbyn eto ar yr adeg hon; 

(c) A fyddai'r person wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen iddo gyfrannu tuag at gost hyn nawr neu rywbryd yn y dyfodol.

11.5 Byddai'n afresymol penderfynu bod achos o amddifadu wedi digwydd os oedd yn iach ac yn heini pan waredwyd yr ased ac na allai fod wedi rhagweld y byddai unrhyw angen am ofal a chymorth yn y dyfodol agos.

A fu achos o amddifadu o incwm

12.1 Mae'n bosibl hefyd i berson amddifadu ei hun o incwm yn fwriadol. Er enghraifft, gallai roi incwm i rywun arall neu werthu'r hawl i incwm o bensiwn galwedigaethol.

12.2 Cyfrifoldeb y person yw rhoi prawf i'r awdurdod lleol nad yw'n cael yr incwm mwyach. Pan fydd awdurdod lleol o'r farn y gall person fod wedi amddifadu ei hun o incwm, gall ei drin fel petai ganddo incwm tybiannol at ddibenion asesiad ariannol.

12.3 Bydd angen i'r awdurdod lleol ddyfarnu a fu achos bwriadol o amddifadu o incwm ac os felly, pa gamau i'w cymryd o ganlyniad i hyn. Wrth wneud hynny, dylai ystyried:

(a) Ai incwm y person ydoedd;

(b) Beth oedd diben gwaredu'r incwm;

(c) Amseriad gwaredu'r incwm. Ar adeg gwaredu'r incwm a allai'r person fod wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen gofal a chymorth arno, nawr neu rywbryd yn y dyfodol.

12.4 O dan amgylchiadau penodol efallai bod yr incwm wedi cael ei droi'n gyfalaf. Dylai'r awdurdod lleol ystyried lefel y terfyn cyfalaf ac a yw'r newid a wnaed wedyn yn newid perthnasol i'r ffi a osodwyd am ofal a chymorth y person, neu gymorth os mai gofalwr ydoedd.

Ymchwiliadau awdurdodau lleol

13.1 Mewn rhai achosion efallai y bydd awdurdod lleol am gynnal ei ymchwilad ei hun i ganfod a fu achos o amddifadu o asedau yn hytrach na dibynnu ar ddatganiad y person yn unig. Ceir canllawiau ar wahân o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 sy'n nodi terfynau pwerau awdurdod lleol i ymchwilio. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y Ddeddf honno mewn unrhyw ymchwiliadau a gynhelir ganddynt.

Beth sy'n digwydd pan fydd achos o amddifadu o asedau

14.1 Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod person wedi amddifadu ei hun o asedau'n fwriadol er mwyn osgoi neu leihau ffi am ofal a chymorth, yn gyntaf bydd yn rhaid iddo benderfynu a ddylid mynd ar drywydd hyn a thrin y person fel petai ganddo'r ased o hyd at ddibenion ei asesiad ariannol.

14.2 Os bydd awdurdod yn penderfynu gwneud hynny dylai drin yr ased fel cyfalaf tybiannol neu incwm tybiannol, fel y bo'n briodol, yn asesiad ariannol y person fel petai'r achos o amddifadu heb ddigwydd. 

14.3 Os yw'r person yn amddifadu ei hun o adnodd gwirioneddol er mwyn lleihau gwerth gweddilliol ei gyfalaf neu ei incwm, yna, at ddibenion asesiad ariannol y person, dylid ei drin yn dybiannol fel petai'n meddu ar y gwahaniaeth rhwng gwerth ei adnoddau presennol a'r adnoddau yr oedd yn arfer eu dal. 

Adennill ffioedd oddi ar drydydd parti (trosglwyddai)

15.1 Pan fydd y person wedi trosglwyddo'r ased i drydydd parti (trosglwyddai) er mwyn lleihau neu osgoi ffi'n fwriadol, mae'r trosglwyddai yn atebol am dalu'r gwahaniaeth i'r awdurdod lleol rhwng yr hyn y byddai wedi'i gasglu a'r hyn a gasglodd o ganlyniad i drosglwyddo'r ased. Fodd bynnag, nid yw'r trosglwyddai yn atebol am dalu unrhyw beth sy'n fwy na'r budd a gafodd o ganlyniad i drosglwyddo'r ased.

15.2 Os yw'r person wedi trosglwyddo asedau i fwy nag un trosglwyddai, mae pob un o'r bobl hynny yn atebol am dalu'r gwahaniaeth i'r awdurdod lleol rhwng yr hyn y byddai wedi'i gasglu a'r hyn a gasglodd mewn ffioedd o ganlyniad i drosglwyddo'r ased, yn gymesur â'r swm a dderbyniodd.

15.3 Fel yn achos unrhyw ddyled arall, gall yr awdurdod lleol ddefnyddio'r llysoedd yn pen draw er mwyn adennill dyledion pe dymunai, ond dim ond ar ôl ystyried pob ffordd arall o sicrhau'r ddyled y dylid defnyddio hyn. Wrth geisio adennill dyled dylai awdurdod lleol wneud hynny yn unol â'r adran gyntaf o'r atodiad hwn ynghylch adennill dyled.

Llwybrau adennill eraill

16.1 Efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd am ystyried opsiynau eraill a all fod ar gael iddynt er mwyn adennill dyledion. Er enghraifft, mae adran 423 o Ddeddf Ansolfedd 1986 yn darparu llwybrau ychwanegol i adennill dyledion pan fydd person o bosibl wedi trosglwyddo neu wedi gwerthu ei asedau i drydydd parti am bris sy'n is na'r gwerth ar y farchnad, a hynny gyda'r bwriad o sicrhau bod yr asedau hynny y tu hwnt i gyrraedd rhywun sydd am hawlio yn erbyn y person hwnnw, neu effeithio ar fuddiannau'r person hwnnw. Wrth ystyried opsiynau o'r fath, dylai awdurdod lleol geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.